Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090432 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mawrth 2002. Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 2. Caiff Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[3] eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliadau 3 i 8 isod. 3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(b) yn y diffiniad o "Directive 96/77/EC", yn lle'r geiriau "and Commission Directive 2000/63/EC", rhoddir y geiriau ", Commission Directive 2000/63/EC[6] and Commission Directive 2001/30 /EC"[7]), ac (c) yn y diffiniad o "purity criteria", yn lle paragraff (b), rhoddir y paragraff canlynol -
4.
Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) rhoddir y paragraff canlynol ar ôl paragraff (1C) -
(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3(b) and (c) and 8 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2002 had not been in force when that matter occurred.".
5.
Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlen 6, 7 neu 8) -
(b) yn y Tabl -
(ii) yn yr ail golofn, yn union ar ôl y cyfeiriad at "Oxygen", rhoddir cyfeiriad at "Hydrogen".
6.
Yn y Tabl i Atodlen 3 (ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir) -
(b) yn union ar ôl y cofnod ar gyfer Disodium 5'-ribonucleotides (E 635), mewnosodir y cofnod canlynol -
7.
Yn Atodlen 4 (carwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir), yn y cofnod ar gyfer Propan - 1,2-diol (propylene glycol) mewnosodir yn y golofn cyntaf y cyfeiriad "E 1520".
(b) more than 10 milligrams per kilogram of lead; (c) more than 50 milligrams per kilogram of copper; (d) more than 25 milligrams per kilogram of zinc; or (e) more than 50 milligrams per kilogram of any combination of copper and zinc"; a
(b) hepgorir gweddill yr Atodlen ac eithrio'r darpariaethau sy'n ymwneud â magnesium carbonates (E 504).
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes ("y prif Reoliadau") sy'n gymwys i Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu -
(b) Cyfarwyddeb 2001/5/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2 ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L55, 24.2.2001, t.59).
Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, mae'r Rheoliadau'n pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennir yn yr Atodiad i gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/30/EC (rheoliadau 3(b) ac (c), 4 ac 8) ac yn gwneud diwygiadau i Reoliadau penodol o ran cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 9).
(b) yn addasu'r rhestr, yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau, o ychwanegion bwyd amrywiol a all gael eu cynnwys mewn bwydydd penodol, drwy ychwanegu pedwar ychwanegyn newydd at y rhestr honno a phennu bwydydd ychwanegol y gellir cynnwys esterau Glycerol o rosinau coed ynddynt (rheoliad 6); ac (c) yn addasu'r rhestr o garwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau drwy ymgorffori Rhif E ar gyfer Propan - 1,2-diol (propylene glycol) (rheoliad 7).
Notes: [1] 1990 (p. 16).back [2] Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 ac O.S. 2001/1440 sy'n gymwys i Gymru yn unig.back [4] OJ Rhif L295, 4.11.98, t. 18.back [5] OJ Rhif L55, 24.2.2001, 2. 59.back [6] OJ Rhif L277, 30.10.2000, t. 1 .back [7] OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1.back [8] OJ Rhif L160, 12.6.1989, t. 1.back [14] O.S. 1966/1073; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [15] O.S. 1976/509; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [16] O.S. 1976/541; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [17] O.S. 1977/927; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [18] O.S. 1977/928; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [19] O.S. 1981/1063; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [20] O.S. 1984/1566; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [21] O.S. 1992/1978; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [22] O.S. 1996/1499; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11090432 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 27 February 2002 |