Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002, ISBN 0 11 090448 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(4), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) ac (c), (7)(a) i (h) (j), (8)(c), 25(1), 33, 34(1), 35, 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi plant yng Nghymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) yn achos plentyn nad oes awdurdod lleol yn gofalu amdano -
(ii) os yw'n cael ei letya mewn ysgol gymwys o dan drefniadau sydd wedi'u gwneud gan awdurdod addysg lleol neu gan awdurdod lleol, yr awdurdod addysg lleol hwnnw neu'r awdurdod lleol hwnnw yn ôl fel y digwydd; (iii) mewn unrhyw achos arall, rhiant y plentyn;
(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997[7]; neu (c) yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, heblaw'n unol â'r Ddeddf honno;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad -
(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw; (c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -
(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac (c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (2), unrhyw sefydliad a ddefnyddir i letya plant at ddibenion unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn unig -
(ii) gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;
cyhyd ag na fydd unrhyw blentyn unigol yn cael ei letya yno am fwy na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis;
(ii) gwyliau; (iii) gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;
(d) unrhyw hostel mechnïaeth a gymeradwywyd neu hostel prawf a gymeradwywyd[10];
(2) Nid yw'r eithriadau ym mharagraff 1(b), (c) ac (ch) yn gymwys i unrhyw sefydliad y mae'r llety y mae yn ei ddarparu yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant o ddisgrifiad sy'n dod o fewn adran 3(2) o'r Ddeddf[12].
(b) unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant; (c) yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant; (ch) awdurdod lleoli unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref; a (d) yn achos ysgol gymwys, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac unrhyw berson sy'n arfer un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y ddeddfwriaeth addysg mewn perthynas â'r ysgol;
ac yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant yn cynnwys plentyn y mae llety yn y cartref plant yn cael ei ystyried ar ei gyfer.
(b) crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlir o dan reoliad 24; ac (c) cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac un o swyddfeydd Comisiynydd Plant Cymru.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig -
(b) darparu copi o fersiwn gyfredol arweiniad y plant i bob plentyn ac i awdurdod lleoli'r plentyn pan fydd y plentyn yn cael ei letya gyntaf yn y cartref; ac (c) yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y plentyn neu'r awdurdod lleoli.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.
(b) yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.
Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y plant
(b) os diwygir arweiniad y plant, darparu copi diwygiedig i bob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.
(2) Pryd bynnag y bydd yn ymarferol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn weithredol. Ffitrwydd y darparydd cofrestredig 6. - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny. (2) Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant oni bai bod y person -
(b) yn gorff ac -
(ii) bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion -
(b) bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y cartref plant neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw; ac (c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person -
(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[14] i rym.
(b) os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Penodi rheolwr
(b) os yw'r darparydd cofrestredig -
(ii) heb fod yn berson ffit i reoli cartref plant; neu (iii) heb fod yn gyfrifol am y cartref plant yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref plant, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith -
(b) o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
(3) Os y darparydd cofrestredig yw'r person sydd i fod i reoli'r cartref, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
(b) oni bai, o roi sylw i faint y cartref plant, ei ddatganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd) -
(ii) ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny; a
(c) oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person -
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[15] i rym.
(b) datganiad o ddiben y cartref plant; ac (c) nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd),
redeg y cartref neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol;
(b) os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref plant.
(b) o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac (c) o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.
(2) Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[16] (Amddiffyn Plant) rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono ac o ddyddiad a man y cyhuddiad. Hybu lles 11. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd -
(b) yn darparu'n briodol ar gyfer gofal, addysg, goruchwyliaeth, ac os yw'n briodol, driniaeth y plant sy'n cael eu lletya yno.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref yn cael ei redeg -
(b) gan roi sylw dyledus i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol ac unrhyw anabledd y plant sy'n cael eu lletya yno.
Cynllun lleoliad y plentyn
(b) y trefniadau ar gyfer gofal iechyd ac addysg y plentyn; ac (c) y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer cysylltiadau â rhieni, perthnasau a chyfeillion y plentyn.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig gadw golwg ar y cynllun lleoliad a'i adolygu yn ôl yr angen.
(b) cydymffurfio â cheisiadau rhesymol a wneir gan awdurdod lleoli'r plentyn -
(ii) i ddarparu cynrychiolydd addas i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd y gall eu cynnal ynghylch y plentyn.
Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant
(ii) wedi'i baratoi'n briodol, yn iachus ac yn faethlon; (iii) yn addas i'w hanghenion ac yn bodloni eu dewisiadau rhesymol; a (iv) yn ddigon amrywiol; a
(b) modd i gael d
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw angen deietegol arbennig sydd gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref, oherwydd ei iechyd, ei argyhoeddiad crefyddol, ei darddiad hiliol neu ei gefndir diwylliannol, yn cael ei fodloni.
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), sicrhau bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu yn y cartref plant i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yno gyfarfod yn breifat ar unrhyw adeg resymol â'i rieni, ei gyfeillion, ei berthnasau, a'r personau a restrir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r personau -
(b) unrhyw swyddog i Wasanaeth Cyngor a Chymorth y Llysoedd Plant a Theuluoedd a benodir ar gyfer y plentyn[17]; (c) unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer y plentyn am y tro gan ei awdurdod lleoli; (ch) unrhyw berson sydd wedi'i benodi mewn perthynas ag unrhyw un o ofynion y weithdrefn a bennir yn Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991[18]; (d) unrhyw berson sydd wedi'i benodi fel ymwelydd â'r plentyn o dan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989; (dd) unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 31 o'r Ddeddf i arolygu ymgymeriadau a reoleiddir dan Ran II o'r Ddeddf; (e) unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi; (f) unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi yn unol ag adran 80(2) o Ddeddf 1989 gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal archwiliad o'r cartref plant ac o'r plant sydd yno.
(3) Yn achos cartref y mae tystysgrif o dan adran 51 o Ddeddf 1989 mewn grym mewn perthynas ag ef, gall y cyfleusterau fod mewn cyfeiriad sy'n wahanol i gyfeiriad y cartref.
(b) cyfleusterau i anfon a derbyn post yn breifat ac, os yw'r cyfleusterau angenrheidiol yn cael eu darparu i'w defnyddio gan y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, bost electronig yn breifat.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw blentyn anabl sy'n cael ei letya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio unrhyw gynorthwyon ac offer y gall fod arno eu hangen oherwydd ei anabledd er mwyn ei hwyluso i gyfathrebu ag eraill.
(ii) bod y mesur yn cael ei osod mewn argyfwng a bod y manylion llawn yn cael eu rhoi i'r awdurdod lleoli o fewn 24 awr o osod y mesur.
(8) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson.
(b) sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.
(2) Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer -
(b) cyfeirio yn ddiymdroi unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant at yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal; (c) rhoi gwybod (yn unol â rheoliad 29) i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac i awdurdod lleoli'r plentyn fod unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant wedi'u cychwyn, ynghyd â chanlyniadau dilynol yr ymholiadau; (ch) cadw cofnodion ysgrifenedig (yn unol â rheoliad 28(1)) o unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac o'r camau a gymerwyd i ymateb iddo; (d) rhoi ystyriaeth i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant yn y cartref plant yn sgil honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod; (dd) gofyniad (yn unol â rheoliad 27) fod personau sy'n gweithio yn y cartref yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn sy'n cael ei letya yno i un o'r canlynol -
(ii) cwnstabl; (iii) person sy'n arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o'r Ddeddf; (iv) un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal; neu (v) un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;
(e) gwneud trefniadau sy'n rhoi cyfle ar bob adeg i'r personau sy'n gweithio yn y cartref a'r plant sy'n cael eu lletya yno gael gweld gwybodaeth, a hynny ar ffurf briodol, a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, ynghylch lles neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu -
(b) gweithdrefn i'w dilyn pan fydd unrhyw blentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yn absennol heb ganiatâd.
Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal
(b) drwy ba fodd y mae ymddygiad priodol i'w hyrwyddo yn y cartref.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig -
(b) hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau o fewn 24 awr o ddefnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu mewn cartref plant fod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud mewn cyfrol a gedwir at y diben, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys -
(b) manylion ymddygiad y plentyn a arweiniodd at ddefnyddio'r mesur; (c) disgrifiad o'r mesur a ddefnyddiwyd; (ch) dyddiad, amser a lleoliad defnyddio'r mesur (gan gynnwys, yn achos unrhyw fath o atal, cyfnod yr atal); (d) enw'r person a ddefnyddiodd y mesur, ac enw unrhyw berson arall a fu'n bresennol; (dd) effeithiolrwydd defnyddio'r mesur ac unrhyw ganlyniadau; ac (e) llofnod person a awdurdodwyd gan y darparydd cofrestredig i wneud y cofnod.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, rhaid peidio â defnyddio'r mesurau canlynol yn erbyn plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant -
(b) unrhyw gosb sy'n ymwneud â chymryd bwyd neu ddiod, neu amddifadu o fwyd neu ddiod; (c) unrhyw gyfyngiad heblaw cyfyngiad a orfodir yn unol â rheoliad 15, ar y canlynol -
(ii) ymweliadau â'r plentyn gan ei rieni, ei berthnasau neu ei gyfeillion; (iii) cyfathrebu'r plentyn ag unrhyw un o'r personau a restrir yn rheoliad 15(2); neu (iv) ei gyfle i ddefnyddio unrhyw linell gymorth ffôn sy'n cynnig cwnsela neu gyngor i blant;
(ch) unrhyw ofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol neu amhriodol;
(ii) cosbi gr p o blant am ymddygiad plentyn unigol.
(6) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn gwahardd -
(b) gorfodi gofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol at ddibenion chwaraeon, neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'i addysg neu ag unrhyw gorff y mae ei aelodau yn arfer gwisgo dillad unffurf mewn cysylltiad â'i weithgareddau.
(7) Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraff (6) os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.
(b) bod arferion y cartref wedi'u trefnu i hybu cyfranogiad plant mewn addysg gan gynnwys astudio preifat; ac (c) bod cysylltiadau effeithiol yn cael eu cynnal ag unrhyw ysgolion y mae'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn eu mynychu.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref -
(b) yn cael cyfleusterau a gweithgareddau hamdden priodol.
(3) Pan fydd unrhyw blentyn mewn cartref plant wedi cyrraedd oedran nad yw'n ofynnol mwyach iddo gael addysg amser llawn orfodol, rhaid i'r person cofrestredig helpu i wneud trefniadau ar gyfer y plentyn mewn perthynas â'i addysg, ei hyfforddiant a'i gyflogaeth, a'u rhoi ar waith.
(b) i gael hyfforddiant ynddo; ac (c) i ddilyn unrhyw un o'i ofynion (o ran gwisg, deiet neu fel arall).
Anghenion iechyd plant
(b) bod gan bob plentyn gyfle i gael unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, seicolegol a seiciatryddol neu gyngor, triniaeth a gwasanaethau nyrsio y gall fod arno'u hangen; (c) bod pob plentyn yn cael unrhyw gymorth, cymhorthion ac offer unigol y gall fod arno'i angen yng ngoleuni unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol a all fod ganddo; (ch) bod pob plentyn yn cael canllawiau, cymorth a chyngor ar faterion iechyd a gofal personol sy'n briodol i'w hanghenion a'u dymuniadau; (d) bod o leiaf un person ar ddyletswydd yn y cartref bob amser sydd â chymhwyster cymorth cyntaf addas; a (dd) bod unrhyw berson sy'n cael ei benodi i swydd nyrs yn y cartref plant yn nyrs gofrestredig.
Meddyginiaethau
(b) bod unrhyw feddyginiaeth a ragnodir ar gyfer plentyn yn cael ei rhoi fel y'i rhagnodir, i'r plentyn y'i rhagnodwyd ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac (c) bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddir i unrhyw blentyn.
(3) Nid yw paragraff (2) yn atal meddyginiaeth -
(b) rhag cael ei hunan-roi gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,
os yw gwneud hynny yn ddiogel i'r plentyn ac i eraill.
(ii) fel rhan o gyflawni gwasnaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasnaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997; neu
(b) mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), rhagnodi ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968[19].
Defnyddio gwyliadwriaeth
(b) y darperir ar ei gyfer yng nghynllun lleoliad y plentyn; (c) i'r graddau y bo'n ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, fod y plentyn o dan sylw yn cael ei hysbysu ymlaen llaw am y bwriad i ddefnyddio'r mesur; ac (ch) nad yw'r mesur yn fwy cyfyngus nag y mae ei angen, o roi sylw i angen y plentyn i gael preifatrwydd.
Peryglon a diogelwch
(b) bod unrhyw weithgareddau y mae plant yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon y gellir eu hosgoi; (c) bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu nodi, a'u diddymu cyn belled ag y gellir; ac (ch) bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i bersonau sy'n gweithio yn y cartref i gael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf.
Cynrychioliadau a chwynion
(b) nad oes neb sy'n destun cwyn yn ymwneud ag unrhyw ran o'i hystyried, heblaw adeg y datrys anffurfiol yn unig os yw hynny'n briodol ym marn resymol y person cofrestredig; (c) ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch y person cofrestredig; (ch) i gynrychioliadau a chwynion gael eu gwneud, ac i agweddau eraill ar y weithdrefn gael eu cyflawni, gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn; (d) ar gyfer trefniadau i'r weithdrefn gael ei gwneud yn hysbys -
(ii) i'w rhieni; (iii) i awdurdodau lleoli; a (iv) i bersonau sy'n gweithio yn y cartref.
(3) Rhaid rhoi copi o'r weithdrefn pan ofynnir amdano i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).
(b) manylion y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch cartrefi plant.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.
(b) nad oes dim plentyn yn dioddef unrhyw anfantais am wneud cwyn neu gynrychioliad.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb iddynt. Staffio cartrefi plant 25. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd yna bob amser nifer digonol o bersonau a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas, yn gweithio yn y cartref plant, o roi sylw -
(b) yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad yw cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref plant yn atal y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol er mwyn diwallu eu hanghenion.
(b) â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref plant oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny; (c) â chaniatau i unrhyw berson arall weithio yn y cartref plant mewn swydd lle gall ddod, yng nghwrs ei ddyletswyddau, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant sy'n cael eu lletya ynddo oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref plant oni bai -
(b) bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; (c) ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni; ac (ch) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth (yn ôl fel y digwydd) lawn a boddhaol ar gael am y person mewn perthynas â'r materion canlynol -
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[21] i rym.
(b) oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, nad oes unrhyw berson o'r fath yn dechrau gweithio mewn cartref plant hyd nes y cydymffurfiwyd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas ag ef.
(5) Os yw'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref plant er gwaethaf paragraff (4)(b) -
n ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 o Atodlen 2 yn anghyflawn;(b) bod gwybodaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch -
(ii) ac eithrio bod paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno; (iii) os yw paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 o'r Atodlen honno;
(c) bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant ac nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol ar bob adeg.
(b) rhoi i bob cyflogai ddisgrifiad swydd yn amlinellu eu cyfrifoldebau.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol -
(b) yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir ar blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref i berson priodol yn sail dros ddechrau achos disgyblu.
(3) At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw'r darparydd cofrestredig, un o swyddogion naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi, neu'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu gwnstabl.
(b) yn cael eu galluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei gyflawni.
Cofnodion 28. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig, ar ran awdurdod lleoli plentyn, gadw cofnod ar ffurf adroddiad mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, a hwnnw -
(b) yn cael ei gadw yn gyfoes; ac (c) yn cael ei lofnodi a'i ddyddio gan awdur pob cofnod ysgrifenedig.
(2) Rhaid peidio â datgelu'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) i unrhyw berson ac eithrio yn unol â'r canlynol -
(b) unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi cael gweld cofnodion o'r fath.
(3) Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) -
(b) cael ei ddanfon wedi hynny i awdurdod lleoli'r plentyn[22].
(4) Rhaid i'r person cofrestredig gadw y cofnod a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref plant neu, os yw'r cartref yn cau, rhaid iddo ei gadw mewn man arall a threfnu iddo fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdano. Ffitrwydd safleoedd 30. - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(8) rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref plant oni bai bod y safle hwnnw mewn lleoliad, a'i fod o ddyluniad a chynllun ffisegol, sy'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn natganiad y cartref o'i ddiben. (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob rhan o'r cartref a ddefnyddir gan blant -
(b) wedi'i diogelu rhag i neb fynd iddynt heb awdurdod; (c) wedi'i dodrefnu a'i chyfarparu'n addas; (ch) o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei chadw mewn cyflwr strwythurol da y tu allan a'r tu mewn; (d) yn cael ei chadw'n lân ac wedi'i haddurno a'i chynnal yn rhesymol; ac (dd) wedi'i chyfarparu â'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, ac wedi'i haddasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu'r anghenion sy'n codi o anabledd unrhyw blentyn anabl sy'n cael ei letya yn y cartref.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei gadw'n rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol.
r rhedegog poeth ac oer; a(b) nifer digonol o doiledau,
ar gyfer nifer a rhyw y plant sy'n cael eu lletya.
(b) cyfleusterau digonol ar gyfer paratoi a storio bwyd; ac (c) i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, cyfleusterau digonol i blant baratoi eu bwyd eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny ac os ydynt o oedran a gallu i wneud hynny.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau digonol ar gael o fewn cartref plant ar gyfer golchi llieiniau a dillad, ac, ar gyfer y plant sy'n dymuno gwneud hynny, i olchi, sychu a smwddio eu dillad eu hunain.
(b) cyfleusterau ar gyfer astudiaeth breifat sy'n briodol i oedran ac anghenion addysgol y plant sy'n cael eu lletya.
(8) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob plentyn yn cael lle i gysgu sydd -
(b) wedi'i gyfarparu â dodrefn, cyfleusterau storio, goleuadau, dillad gwely a chelfi eraill gan gynnwys gorchuddion i'r ffenestri ac i'r llawr sy'n addas i'w anghenion.
(9) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn rhannu ystafell wely gydag oedolyn, nac ychwaith (ac eithrio yn achos brodyr a chwiorydd) gyda phlentyn o'r rhyw arall, na chyda phlentyn o oedran sy'n arwyddocaol wahanol.
(ii) cyfleusterau storio;
(b) lle i gysgu os oes angen hynny mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref.
Rhagofalon tân
(b) darparu dulliau dianc digonol; (c) gwneud trefniadau addas ar gyfer y canlynol -
(ii) rhoi rhybuddion tân; (iii) gwacáu'r adeilad os digwydd tân; (iv) cynnal a chadw'r holl offer tân; a (v) adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;
(ch) gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr "awdurdod tân" yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal y mae cartref plant wedi'i leoli ynddi, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[23]. Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig 32. - (1) Os yw'r darparydd cofrestredig yn unigolyn nad yw'n rheoli'r cartref, rhaid iddo ymweld â'r cartref yn unol â'r rheoliad hwn. (2) Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r cartref yn unol â'r rheoliad hwn -
(b) un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff ac sy'n addas i ymweld â'r cartref; neu (c) cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli'r cartref ac sy'n addas i ymweld â'r cartref.
(3) Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith y mis a gallant fod yn ddirybudd.
(b) archwilio safle'r cartref plant, ei lòg dyddiol o ddigwyddiadau a'i gofnod o unrhyw gwynion; ac (c) paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r cartref yn cael ei redeg.
(5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c) -
(b) yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.
Adolygu ansawdd y gofal
(b) ar gyfer gwella ansawdd y gofal a ddarperir yn y cartref.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa brioodol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob adolygiad a gynhelir at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi ar gael ar gais i'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, eu rhieni a'r awdurdodau lleoli.
(b) i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref; ac (c) i riant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.
Y sefyllfa ariannol
(b) rhoi copi o'r cyfrifon i'r Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y cartref plant, gan gynnwys -
(b) tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparydd cofrestredig; (c) gwybodaeth am ariannu'r cartref a'i adnoddau ariannol; (ch) os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig; a (d) tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r rhwymedigaeth y gallai ei thynnu mewn perthynas â'r cartref ynghylch marwolaeth, niwed, rhwymedigaeth gyhoeddus, difrod neu golled arall.
(4) Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person. Hysbysu absenoldeb 36. - (1) Os yw -
(b) rheolwr cofrestredig,
i fod yn absennol o'r cartref am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb.
(b) y rheswm drosto; (c) y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y cartref; (ch) enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y cartref yn ystod yr absenoldeb hwnnw; a (d) enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a benodir yn unol â rheoliad 6(2); (dd) y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r cartref plant yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys erbyn pa ddyddiad y mae'r penodiad i'w wneud.
(3) Os yw absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraff (a) i (d) o baragraff (2).
(b) rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o'r cartref plant am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, ac na roddwyd hybysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddfa honno yn pennu'r materion a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(b) bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref, neu'n bwriadu rhoi'r gorau iddi; (c) os yw'r darparydd cofrestredig yn unigolyn, ei fod yn newid, neu'n bwriadu newid, ei enw; (ch) os yw darparydd cofrestredig yn gorff -
(ii) bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd, neu fod bwriad i hynny ddigwydd; (iii) bod unrhyw newid o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol yn digwydd, neu fod bwriad i hynny ddigwydd;
(d) os yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi, neu fod cyfamod neu drefniant yn cael neu'n debygol o gael ei wneud gyda chredydwyr;
Penodi datodwyr etc
(b) penodi rheolwr i gymryd gofal llawn amser o ddydd i ddydd o'r cartref plant mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac (c) o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu pob cartref plant y mae'r penodiad yn ymwneud ag ef yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir -
(b) yn ddatodwr neu ddatodwr dros dro cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig cartref plant; neu (c) yn dderbynnydd neu reolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg cartref plant; neu (ch) yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig cartref plant.
Marwolaeth person cofrestredig
(b) o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau ynghylch rhedeg y cartref yn y dyfodol.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef -
(b) am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir yn unol â pharagraff (4).
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion pargraff (3)(b) a rhaid iddynt hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.
(b) rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Cartrefi, Trefniadau ar gyfer Lleoli, Adolygu a Cynrychioliadau) (Diwygiadau Amrywiol) 1993[27]; (c) Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant 1994[28]). (ch) rheoliad 4 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygiadau Amrywiol) 1997[29]; a (d) Rheoliadau Cartrefi Plant Diwygio (Cymru) 2001[30]).
1. Datganiad o nodau cyffredinol y cartref, a'r amcanion sydd i'w cyrraedd mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref. 2. Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, yn y cartref a'r tu allan iddo, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref. 3. Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig. 4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig. 5. Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y cartref, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol, ac os yw'r gweithwyr i gyd o un rhyw, disgrifiad o sut y bydd y cartref yn hybu modelau rôl priodol o'r ddwy ryw. 6. Y trefniadau ar gyfer goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r cyflogeion. 7. Strwythur trefniadol y cartref. 8. Y manylion canlynol -
(b) a oes bwriad i letya plant sy'n anabl, y mae arnynt anghenion arbennig neu sydd ag unrhyw nodweddion arbennig eraill; (c) ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref eu diwallu.
9.
Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).
(b) y dulliau rheoli a disgyblu a all gael eu defnyddio yn y cartref, o dan ba amgylchiadau y gellir eu defnyddio a chan bwy.
17.
Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio. 1. Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar. 2. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol a roddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn perthynas â hi ers ei rhoi,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[33].
(b) y mae wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.
1. Enw'r plentyn ac unrhyw enw yr oedd y plentyn yn cael ei adnabod wrtho yn flaenorol heblaw enw a ddefnyddiwyd gan y plentyn cyn ei fabwysiadu. 2. Dyddiad geni a rhyw y plentyn. 3. Argyhoeddiad crefyddol y plentyn, os oes un. 4. Disgrifiad o darddiad hiliol y plentyn a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn. 5. Cyfeiriad y plentyn yn union cyn iddo fynd i'r cartref. 6. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn awdurdod lleoli'r plentyn. 7. Y ddarpariaeth statudol (os oes un) y darperir llety i'r plentyn odani. 8. Enw, cyfeiriad, rhif ffôn rhieni'r plentyn a'u hargyhoeddiad crefyddol, os oes ganddynt un. 9. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i'r plentyn gan yr awdurdod lleoli. 10. Unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan reoliad 16(2)(ch) (honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r plentyn). 11. Dyddiad ac amgylchiadau pob tro y bu'r plentyn yn absennol o'r cartref gan gynnwys a oedd yr absenoldeb wedi'i awdurdodi ac unrhyw wybodaeth ynghylch lle oedd y plentyn yn ystod cyfnod yr absenoldeb. 12. Dyddiad unrhyw ymweliad â'r plentyn tra oedd yn y cartref a'r rheswm drosto. 13. Copi o unrhyw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a gadwyd mewn perthynas â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996[36] a gedwir mewn perthynas â'r plentyn, gyda manylion unrhyw anghenion o'r fath. 14. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddiwyd ar y plentyn. 15. Unrhyw anghenion deiet neu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn. 16. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw ysgol neu goleg a fynychir gan y plentyn ac unrhyw gyflogwr i'r plentyn. 17. Pob adroddiad ysgol a gafwyd gan y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref. 18. Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau arnynt, rhwng y plentyn, ei rieni, ac unrhyw berson arall. 19. Copi o unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y plentyn a baratowyd gan ei awdurdod lleoli ac o'r cynllun lleoliad. 20. Dyddiad a chanlyniad unrhyw adolygiad o gynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofalu am y plentyn, neu o gynllun lleoliad y plentyn. 21. Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef ac enw a chyfeiriad ymarferydd deintyddol cofrestredig y plentyn. 22. Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gafodd y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref. 23. Manylion unrhyw imwneiddiad, alergedd, neu archwiliad meddygol a gafodd y plentyn a manylion unrhyw angen neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol. 24. Manylion unrhyw archwiliad iechyd neu brawf datblygiadol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r plentyn yn ei ysgol neu mewn cysylltiad â hi. 25. Manylion unrhyw feddyginiaethiau sy'n cael eu cadw ar gyfer y plentyn yn y cartref, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau y caniateir i'r plentyn eu rhoi i'w hunain, a manylion am roi unrhyw feddyginiaeth i'r plentyn. 26. Y dyddiad pan adneuwyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr gan neu ar ran y plentyn er mwyn eu cadw'n ddiogel, a dyddiadau tynnu unrhyw arian, a'r dyddiad y dychwelwyd unrhyw bethau gwerthfawr. 27. Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r plentyn yn mynd iddo pan yw'n peidio â chael ei letya yn y cartref. 1. Cofnod ar ffurf cofrestr yn dangos mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant -
(b) y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno; (c) ei gyfeiriad cyn iddo gael ei letya yn y cartref; (ch) ei gyfeiriad ar ôl iddo ymadael â'r cartref plant; (d) ei awdurdod lleoli; (dd) y ddarpariaeth statudol, os oes un, y cafodd ei letya yn y cartref odani.
2.
Cofnod o bob person sy'n gweithio yn y cartref plant, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol mewn perthynas ag unigolyn sy'n dod o dan reoliad 26(1) -
(b) rhyw; (c) dyddiad geni; (ch) cyfeiriad cartref; (d) cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a'i brofiad o waith sy'n ymwneud â phlant; (dd) a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser yn y cartref, (am dâl neu beidio) ac os yw'n rhan-amser, y nifer o oriau ar gyfartaledd y mae'n gweithio bob wythnos; ac (e) a yw'n preswylio yn y cartref.
3.
Cofnod o unrhyw berson sy'n preswylio neu'n gweithio ar unrhyw adeg yn y cartref plant nad yw wedi'i grybwyll yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 1 neu 2.
1. Mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, cydymffurfedd â chynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofal y plentyn (os yw'n gymwys) a'r cynllun lleoliad. 2. Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a roddwyd i mewn er mwyn eu cadw'n ddiogel. 3. Bwydlenni dyddiol. 4. Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan blant sy'n cael eu lletya yno. 5. Unrhyw salwch a gaiff plant sy'n cael eu lletya yn y cartref. 6. Cwynion mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a'u canlyniadau. 7. Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a chanlyniad unrhyw ymchwiliad. 8. Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref. 9. Ymwelwyr â'r cartref ac â phlant yn y cartref. 10. Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5. 11. Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gan blentyn sy'n cael ei letya yno. 12. Defnyddio mesurau rheoli, atal a disgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref. 13. Asesiadau risg at ddibenion iechyd a diogelwch a'r camau a gymerir wedyn. 14. Meddyginiaethau, triniaeth feddygol a chymorth cyntaf a roddir i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref. 15. Yn achos ysgol gymwys, safonau'r ddarpariaeth addysgol. 16. Rosteri dyletswyddau personau sy'n gweithio yn y cartref, a'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd. 17. Lòg dyddiol y cartref. 18. Ymarferion tân a phrofion larymau a phrofion offer tân. 19. Cofnodion gwerthusiadau cyflogeion. 20. Cofnodion cyfarfodydd staff. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ac maent yn gymwys mewn perthynas â chartrefi plant yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau mewn perthynas â Chymru. Mae'r Ddeddf yn darparu pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhan fwyaf o Rannau I a II o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae'r trefniadau newydd hyn yn amnewid y system statudol mewn perthynas â chartrefi plant y darparwyd ar ei chyfer gan Ddeddf Plant 1989 ac mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 (fel y'u diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae rheoliad 3 yn eithrio sefydliadau penodol o'r diffiniad o gartref plant o dan adran 1 o'r Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys sefydliadau sy'n darparu gofal byr-dymor dros nos, gwyliau, neu weithgareddau eraill am lai nag 28 o ddiwrnodau y flwyddyn mewn perthynas ag unrhyw un plentyn, ac ystod eang o sefydliadau sy'n darparu llety i'r rhai dros 16 oed a throsodd oni bai, yn y naill achos neu'r llall, fod y sefydliad yn lletya'n bennaf blant sy'n anabl neu sydd fel arall yn dod o dan y disgrifiadau yn adran 3(2) o'r Ddeddf. Mae colegau addysg bellach a sefydliadau ar gyfer tramgwyddwyr ifanc yn cael eu heithrio hefyd. O dan reoliad 4, rhaid bod gan bob cartref ddatganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 1, ac arweiniad y plant i'r cartref. Rhaid i'r cartref gael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben. Mae rheoliadau 6 i 10 yn gwneud darpariaeth yngl n â'r personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r cartref, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r cartref, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael amdano (rheoliad 6). Mae rheoliad 7 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y cartref, ac mae rheoliad 9 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y cartref yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae cartrefi plant yn cael eu rhedeg, yn enwedig yngl n ag amddiffyn plant, lles, iechyd, addysg a defodau crefyddol, y trefniadau ar gyfer cysylltiadau ac ymwelwyr, rheoli ymddygiad, a defnyddio dyfeisiau gwyliadwriaeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am staffio'r cartrefi a ffitrwydd y gweithwyr ac am gwynion, cadw cofnodion a hysbysu yngl n â'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd safleoedd ac ynghylch y rhagofalon tân sydd i'w cymryd. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli cartrefi plant. Mae rheoliad 33 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r cartref fel a ragnodir, ac mae rheoliad 34 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig adolygu a monitro'r materion a nodir yn Atodlen 6 sy'n ymwneud ag ansawdd y gofal sydd i'w ddarparu gan y cartref. Mae Rheoliad 36 yn gosod gofynion yngl n â sefyllfa ariannol y cartref.Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 41 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir cael bod torri'r rheoliadau a bennir yn rheoliad 41 yn dramgwydd ar ran y person cofrestredig. Mae rheoliad 42 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfeydd mewn rhannau o Gymru ar gyfer ei hysbysu o dan y rheoliadau. Notes: [1] 2000 p. 14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Diffinnir "prescribed" a "regulations" yn adran 121(1) o'r Ddeddf.back [2] Gweler adran 22(9) o'r Ddeddf i gael gweld y gofyniad i ymgynghori.back [3] Adran 59 o Ddeddf 1989 sy'n llywodraethu darparu llety i blant gan gyrff gwirfoddol.back [4] Gweler adran 121(6) i (8) i gael y ddarpariaeth ynghylch personau sy'n cael eu cymryd ymlaen i redeg a rheoli cartref cymunedol a ddarperir gan gorff gwirfoddol.back [10] Gweler adran 9(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000.back [11] 1952 p.52. Fe'i hamnewidiwyd gan adran 170(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 15 iddi, ac Atodlen 16 iddi; adrannau 5(2), 18(3) a 168(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33); adran 119 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37); ac adran 165(1) o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6), adran 5 o Atodlen 9 iddi. Mae is-adran 1(a) o Ddeddf 1952 i'w diddymu gan adrannau 59 a 75 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43) ac Atodlen 8 iddi ar ddyddiad sydd i'w bennu.back [12] Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu sydd wedi bod yn sâl; at bersonau y mae neu yr oedd ganddynt anhwylder meddwl; at bersonau sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol neu sydd wedi bod yn ddibynnol ar alcohol a chyffuriau.back [14] 1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i bargraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.back [15] Gweler y troednodyn i reoliad 6(4).back [17] Sefydlwyd Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Llysoedd Plant a Theuluoedd gan Bennod II o Ran I o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43. Mae swyddogion y Gwasanaeth yn cael eu penodi ar gyfer plant mewn achosion penodedig (adran 41).back [18] O.S. 1991/894 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033 ac O.S. 1993/3069.back [19] 1968 p.67. Mae adran 58 wedi'i diwygio gan adran 1 o Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc 1992 (p.28).back [20] Gweler y troednodyn i reoliad 15(2)(ch).back [21] 1997 p. 50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.back [22] O dan Reoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 (O.S. 1991/890), rhaid i'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas â phlentyn sydd wedi'i leoli mewn cartref plant ddal eu gafael ar eu cofnodion achos (sy'n cynnwys unrhyw adroddiad yn eu meddiant ynghylch lles y plentyn) am bymtheg a thrigain o flynyddoedd ar ôl marwolaeth y plentyn neu, os yw'r plentyn yn marw cyn cyrraedd deunaw oed, am bymtheng mlynedd o ddyddiad y farwolaeth.back [24] O dan adran 23 o'r Ddeddf gall y Cynulliad Cenedlaethol baratoi a chyhoeddi datganiadau ar y safonau gofynnol cenedlaethol sy'n gymwys i gartrefi plant, sy'n rhaid eu cymryd i ystyriaeth mewn penderfyniadau ac achosion penodol o dan Ran II o'r Ddeddf.back [25] O dan adran 29 o'r Ddeddf gall y Cynulliad Cenedlaethol, o fewn y terfynau amser sydd wedi'u pennu yno, ddwyn achos am dramgwyddau o dan reoliadau a wnaed o dan Ran II o'r Ddeddf.back [32] Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.back [33] Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.back [35] O.S. 1975/1023. Ar y ddyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.back [36] 1996 p.56. Mae adran 324 yn cael ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 77 o Atodlen 30 iddi, a chan adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).back
ISBN 0 11 090448 6
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 28 March 2002 |