Offerynnau Statudol 2002 Rhif 326 (Cy.39)

      Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002, ISBN 0 11090439 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 326 (Cy.39)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002

  Wedi'u gwneud 13 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

     1.       - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

    mae "cyflogydd" ("employer") mewn perthynas ag athro neu athrawes yn cynnwys person sy'n cymryd yr athro neu'r athrawes ymlaen neu sy'n gwneud trefniadau iddynt gael eu cymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir "cyflogi" a "cyflogaeth" yn unol â hynny;

    ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

    ystyr "dyddiad hysbysu" ("notification date") yw'r dyddiad sy'n cael ei hysbysu i gyflogydd gan y Cyngor fel y dyddiad y daw'r ffi'n daladwy;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

    ystyr "ffi" ("fee") yw unrhyw ffi sy'n daladwy yn rhinwedd adran 4(4) o'r Ddeddf.

     3. Os gwenir cais am hynny, raid i gyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am unrhyw athro neu athrawes a gyflogir gan y cyflogydd hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae'n ofynnol, yn sgil eu cyflogaeth, iddynt gael eu cofrestru yn y Gofrestr yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[4].

     4.  - (1) Rhaid i gyflogydd athro neu athrawes y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o'r taliad cyflog a wneir i'r athro neu'r athrawes yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.

    (2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i athro neu athrawes y mae'r cyflogydd wedi cael hysbysiad ("hysbysiad talu") mewn perthynas â hwy oddi wrth y Cyngor ei bod yn ofynnol iddynt sicrhau bod y ffi'n cael ei didynnu o gyflog yr athro neu'r athrawes.

    (3) Mae'n rhaid i hysbysiad talu nodi'r swm sydd i'w ddidynnu.

    (4) Dim ond os yw'r Cyngor wedi'i fodloni bod yr athro neu'r athrawes y mae'r hysbysiad yn cael ei roi mewn perthynas â hwy ar y dyddiad hysbysu - 

a'u bod heb dalu'r ffi eisoes mewn perthynas â'r cyfnod y mae'r ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn gymwys iddo y gellir rhoi hysbysiad talu i gyflogydd.

    
5. O fewn 14 diwrnod ar ôl i'r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 4, rhaid i'r cyflogydd anfon y ffi honno i'r Cyngor.

    
6. Wrth anfon y ffi rhaid i'r cyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am yr athro neu'r athrawes yr anfonir y ffi mewn perthynas â hwy.

    
7. Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser sydd wedi'i bennu yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r ddyletswydd honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2002



ATODLEN
Rheoliadau 3 a 6


YR WYBODAETH SYDD I'W RHOI I'R CYNGOR


     1. Enw'r athro neu'r athrawes.

     2. Y rhif cofrestru swyddogol a roddwyd i'r athro neu'r athrawes, os oes un.

     3. Enw'r ysgol y cyflogir yr athro neu'r athrawes ynddi.

     4. Rhif yswiriant gwladol yr athro neu'r athrawes.

     5. Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall yr athro neu'r athrawes.

     6. Dyddiad geni'r athro neu'r athrawes.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000, a wnaed o dan adran 4(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn galluogi Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i godi ffi am gofrestru a chadw cofnodion athrawon ac athrawesau ar y Gofrestr y maent wedi'i sefydlu o dan y Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogydd sydd wedi'i hysbysu gan y Cyngor ddidynnu unrhyw ffi o'r fath o gyflog yr athro neu'r athrawes a'i hanfon i'r Cyngor o fewn 14 diwrnod, ynghyd â manylion ar gyfer adnabod yr athro neu'r athrawes.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1999/2911). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/1941 (Cy. 139).back

[4] 1988 p.40. Mewnosodwyd adran 218(1)(aa) gan adran 11 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000, O.S. 2000/3122 (Cy. 200) oedd y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y rheoliadau hyn.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090439 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 7 March 2002