Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002, ISBN 0 11 090452 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(3), 22(1), (2)(a) i (d) ac (f) i (j), (5), (7)(a) i (j) ac (l), 25(1), 33, 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1], ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) unrhyw riant, tad-cu neu fam-gu (taid neu nain), plentyn, yr neu wyres, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod y person;(c) priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn; (ch) unrhyw unigolyn y cafodd y person ei letya ag ef o dan drefniadau maethu am gyfnod hwy na 28 diwrnod tra'r oedd rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed, neu briod yr unigolyn hwnnw,
r a gwraig;
(b) mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997[6]; neu (c) yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ond nad ydynt yn unol â'r Ddeddf honno.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad -
(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw; (c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -
(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac (c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.
(b) os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, am lai na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis; (c) os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd lle darperir gwasanaeth nyrsio; (ch) os yw'n darparu llety, ynghyd â nyrsio, a'i fod wedi'i freinio -
(ii) mewn ymddiriedolaeth NHS[8];
(d) os yw'n brifysgol;
(2) At ddibenion paragraff (1), mae "prifysgol" yn cynnwys -
(b) unrhyw goleg, neu sefydliad sydd o ran ei natur yn goleg, i brifysgol.
(3) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(ch) yn gymwys -
(b) os yw nifer personau o'r fath yn fwy na degfed ran nifer y myfyrwyr y mae'n darparu addysg a llety iddynt.
Datganiad o ddiben
(b) datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu gan y person cofrestredig ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth; ac (c) datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio pan wneir cais amdano ar unrhyw adeg resymol gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw gynrychiolydd i ddefnyddiwr gwasanaeth.
(b) yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.
Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
(b) y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety sydd i'w ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y telerau a'r amodau ynghylch swm y ffioedd a'r dull o'u talu; (c) ffurflen contract safonol ar gyfer darparu gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth gan y darparydd cofrestredig; (ch) naill ai crynodeb o'r adroddiad arolygu diweddaraf neu gopi o'r adroddiad hwnnw; (d) crynodeb o'r weithrdrefn gwyno a sefydlir o dan reoliad 23; (dd) cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig -
(b) darparu copi o fersiwn gyfredol yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth pan letyir hwy gyntaf yn y cartref; ac (c) yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y defnyddiwr gwasanaeth.
(3) Os oes awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer darparu llety nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cytundeb sy'n pennu'r trefniadau a wneir i'r defnyddiwr gwasanaeth.
(b) os diwygir yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth, darparu copi diwygiedig i bob defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, pryd bynnag y mae'n ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y mae i fod i ddod yn weithredol. Ffitrwydd y darparydd cofrestredig 7. - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny. (2) Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal oni bai bod y person -
(b) yn gorff ac -
(ii) bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion -
(b) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; ac (c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer yr unigolyn -
(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997[10] wedi ei dwyn i rym.
(b) os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr neu wedi cael gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Penodi rheolwr
(b) os yw'r darparydd cofrestredig -
(ii) heb fod yn berson ffit i reoli cartref gofal; neu (iii) heb fod yn gyfrifol am y cartref gofal yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref gofal, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith -
(b) o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
(3) Os y darparydd cofrestredig yw'r person sy'n mynd i reoli'r cartref gofal rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
(b) o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth -
(ii) bod ganddo'r medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r cartref gofal.
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person -
(ii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997[11] wedi ei dwyn i rym.
(b) os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd.
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref gofal.
(b) o'r tramgwydd y'i collfarnwyd o'i herwydd; ac (c) o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
Iechyd a lles defnyddwyr gwasanaeth 12. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd -
(b) yn gwneud darpariaeth briodol ar gyfer gofal y defnyddwyr gwasanaeth ac, os yw'n briodol, ar gyfer eu triniaeth, eu haddysg a'u goruchwyliaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofal y maent i'w gael ac â'u hiechyd a'u lles.
(b) gan roi sylw dyledus i ryw, cyfeiriadedd rhywiol, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw anabledd sydd ganddynt.
(5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig (os oes un), mewn perthynas â rhedeg y cartref gofal -
(b) annog a chynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles
(b) cael triniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill, os oes eu hangen, gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu meddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref gofal.
(b) bod unrhyw weithgareddau y mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol; (c) bod unrhyw risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu canfod ac yn cael eu dileu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl; ac (ch) bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i hyfforddi staff mewn cymorth cyntaf.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i ddarparu system ddiogel ar gyfer codi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.
(b) bod y person cofrestredig wedi cael gafael ar gopi o'r asesiad; (c) bod ymgynghoriad priodol wedi'i gynnal ynghylch yr asesiad â'r defnyddiwr gwasanaeth neu â chynrychiolydd i'r defnyddiwr gwasanaeth; (ch) bod y person cofrestredig wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i'r defnyddiwr gwasanaeth fod y cartref gofal yn addas at ddibenion diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les, o roi sylw i'r asesiad.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth -
(b) yn cael ei adolygu ar unrhyw adeg pan fydd angen gwneud hynny o roi sylw i unrhyw newid amgylchiadau.
Cynllun defnyddiwr gwasanaeth
(b) trefnu bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth ar gael i'r defnyddiwr gwasanaeth; (c) cadw'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw; (ch) adolygu'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth os yw'n briodol, a hynny ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad; ac (d) hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o unrhyw adolygiad o'r fath.
Cyfleusterau a gwasanaethau
(ii) cyfleusterau priodol ar gyfer cyfathrebu drwy drosglwyddiadau ffacsimili;
(b) darparu cyfleusterau ffôn sy'n addas at anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a gwneud trefniadau i alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn breifat;
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol, fod y defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.
(b) sicrhau bod y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnod yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnodion yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu eu bod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.
(b) na fydd cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref gofal yn atal y defnyddwyr gwasanaeth rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion; (c) bod y personau a gyflogir gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal yn cael -
(ii) cymorth addas, gan gynnwys amser i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i waith o'r fath.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael eu goruchwylio'n briodol.
(b) yn darparu, p'un a ydyw mewn cysylltiad â nyrsio neu beidio, feddyginiaethau neu driniaeth feddygol i ddarparwyr gwasanaeth;
rhaid i'r person cofrestredig sicrhau fod nyrs gofrestredig a chanddi gymwysterau addas yn gweithio yn y cartref gofal bob amser.
(b) beidio â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny; (c) beidio â chaniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y cartref gofal mewn swydd lle gall y person yng nghwrs ei ddyletswyddau ddod i gysylltiad rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth neu ag unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir yn adran 3(2) o'r Ddeddf[12] yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref gofal oni bai -
(b) bod ganddo'r cymwysterau, y medrau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; (c) ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni; (ch) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person mewn perthynas â'r materion canlynol -
(ii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn yr Atodlen honno.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997 wedi ei dwyn i rym.
(b) oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, na fydd person yn dechrau gweithio yn y cartref gofal nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.
(5) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y cartref gofal er gwaethaf paragraff (4)(b) -
(b) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch -
(ii) ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 yn yr Atodlen honno; (iii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 yn yr Atodlen honno;
(c) bod yr amgylchiadau'n eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(6) Ni fydd paragraff (2)(ch), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 2 yn Atodlen 2, yn gymwys tan 1 Ebrill 2003 mewn perthynas â pherson a gyflogir yn union o flaen 1 Ebrill 2002 i weithio yn y cartref gofal.
(b) nad yw'r cyfrif yn cael ei ddefnyddio gan y person cofrestredig mewn cysylltiad â rhedeg neu reoli'r cartref gofal.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i arian sy'n cael ei dalu i'r person cofrestredig mewn perthynas â ffioedd sy'n daladwy gan ddefnyddiwr gwasanaeth am lety neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y person cofrestredig yn y cartref gofal.
(b) yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir, ar ddefnyddiwr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal i berson priodol yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.
(2) At ddibenion paragraff (1), person priodol yw'r person cofrestredig, swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf neu swyddog o'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref ynddi, neu gwnstabl.
(b) y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cartref gofal.
(8) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn. Ffitrwydd safleoedd 24. - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref gofal oni bai -
(b) bod lleoliad y safle'n briodol ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau -
(b) bod y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn; (c) bod yr offer a ddarperir yn y cartref gofal i'w ddefnyddio gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael ei gynnal-a'i-gadw mewn cyflwr gweithio da; (ch) bod pob rhan o'r cartref gofal yn cael eu cadw'n lân ac wedi'u haddurno'n rhesymol; (d) bod llety preifat a chyffredin digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth; (dd) bod maint a chynllun yr ystafelloedd a feddiennir neu a ddefnyddir gan y defnyddwyr gwasanaeth yn addas at eu hanghenion; (e) bod lle digonol ar gyfer eistedd, hamddena a bwyta yn cael ei ddarparu ar wahân i lety preifat y defnyddiwr gwasanaeth; (f) bod y lle cyffredin a ddarperir ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy'n briodol ar gyfer amgylchiadau'r defnyddwyr gwasanaeth; (ff) bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gyfarfod ag ymwelwyr mewn llety cyffredin, ac mewn llety preifat sydd ar wahân i ystafelloedd preifat y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain; (g) bod niferoedd digonol o doiledau, ac o fasnau ymolchi, baddonau a chawodydd wedi'u ffitio â chyflenwad d r poeth ac oer, yn cael eu darparu mewn mannau priodol yn y safle;(ng) bod unrhyw gyfleusterau arllwys angenrheidiol yn cael eu darparu; (h) bod darpariaeth addas yn cael ei gwneud ar gyfer storio at ddibenion y cartref gofal; (i) bod cyfleusterau storio addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio; (j) bod newidiadau addas yn cael eu gwneud, a bod unrhyw gymorth, offer a chyfleusterau, gan gynnwys lifftiau, y mae eu hangen yn cael eu darparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n hen, yn eiddil neu'n anabl yn gorfforol; (l) bod tiroedd allanol sy'n addas ac yn ddiogel i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio yn cael eu darparu a'u cynnal yn briodol; (ll) bod awyru, gwresogi a goleuo sy'n addas i'r defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu darparu ym mhob rhan o'r cartref gofal sy'n cael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth; (m) bod y safle'n ddiogel rhag mynediad na chafodd ei awdurdodi.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer y staff -
(ii) cyfleusterau storio;
(b) llety ar gyfer cysgu, os oes ar y staff angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref gofal.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig -
(b) darparu dulliau dianc digonol; (c) gwneud trefniadau addas ar gyfer y canlynol -
(ii) rhoi rhybuddion tân; (iii) gwacâd yr holl bersonau sydd yn y cartref gofal a lleoli'r defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel, os digwydd tân; (iv) cynnal a chadw'r holl offer tân; a (v) adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;
(ch) gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
(5) Rhaid i'r person cofrestredig ymgynghori yn briodol â'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd amgylchedd yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi. Adolygu ansawdd y gofal 25. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer -
(b) ei wella.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth.
(b) tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparydd cofrestredig; (c) gwybodaeth am ariannu'r cartref gofal a'i adnoddau ariannol; (ch) os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig; (d) tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r rhwymedigaeth y gallai ei thynnu mewn perthynas â'r cartref ynghylch marwolaeth, niwed, rhwymedigaeth gyhoeddus, difrod neu golled arall.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig -
(b) sicrhau bod y cyfrifon yn rhoi manylion costau rhedeg y cartref gofal, gan gynnwys rhent, taliadau o dan forgais a gwariant ar fwyd, gwres a chyflogau misol ac wythnosol y staff; ac (c) rhoi copi o'r cyfrifon i'r Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.
(4) Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.
(b) un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff sy'n addas i ymweld â'r cartref; neu (c) cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y cartref gofal sy'n addas i ymweld â'r cartref.
(3) Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith bob tri mis a gallant fod yn ddi-rybudd.
(b) archwilio safle'r cartref gofal, ei gofnod o ddigwyddiadau a'i gofnodion o unrhyw gwynion; ac (c) paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r cartref gofal yn cael ei redeg.
(5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c) -
(b) yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.
Cymhwyso'r Rhan hon 28. Bydd darpariaethau'r Rhan hon yn gymwys pan fydd unrhyw blentyn yn cael ei letya yn y cartref gofal. Dehongli 29. Yn rheoliad 2, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai -
(b) y diffiniadau canlynol wedi'u hychwanegu yn y mannau priodol -
Datganiad o ddiben
Y person cofrestredig
(2) Yn rheoliad 9, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw -
(ii) bod person arall wedi'i benodi er mwyn ei helpu wrth reoli'r cartref gofal, a bod cymwysterau'r person a benodwyd felly yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant.".
(3) Yn rheoliad 10, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau "a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth," wedi'u disodli gan y geiriau "nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a'r angen i ddiogelu a hybu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,".
(b) y cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer,
yn cael eu gwneud ar wahân i ddefnyddwyr gwasanaeth eraill i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny.
(b) unrhyw gyfeiriad at y cartref plant neu at y cartref yn gyfeiriadau at y cartref gofal.
(3) Os bydd y person cofrestredig yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol, sef -
(b) brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal neu yn ymwneud â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,
ni fydd yn ofynnol iddo roi hysbysiad o'r digwyddiad hwnnw ar wahân i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 38 (hysbysu marwolaeth, etc.) o'r Rheoliadau hyn.
Gweithdrefn disgyblu'r staff
(b) y geiriau "a'u cynrychiolwyr" wedi'u disodli gan y geiriau ", eu cynrychiolwyr, rhieni'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ac, mewn perthynas â'r plant hynny, yr awdurdodau lleoli" ym mharagraff (3) o reoliad 25; (c) y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd rheoliad 25 -
Tramgwyddau
(b) rheoliadau 32 a 35; ac (c) y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o reoliad 33.".
Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill 38. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os digwydd -
(b) brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gofalu am bersonau yn y cartref gofal yn ddigon difrifol i gael ei hysbysu felly; (c) unrhyw anaf difrifol i ddefnyddiwr gwasanaeth; (ch) salwch difrifol defnyddiwr gwasanaeth mewn cartref gofal nad oes nyrsio'n cael ei ddarparu ynddo; (d) unrhyw ddigwyddiad yn y cartref gofal sy'n effeithio ar les neu ddiogelwch unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth; (dd) unrhyw ladrad, bwrgleriaeth neu ddamwain ddifrifol yn y cartref gofal; (e) unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref gofal.
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.
(b) rheolwr cofrestredig,
i fod yn absennol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(b) y rheswm drosto; (c) y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y cartref gofal; (ch) enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y cartref gofal yn ystod yr absenoldeb; a (d) y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud i benodi person arall i reoli'r cartref plant yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig y bydd y penodiad yn cael ei wneud.
(3) Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(b) rheolwr cofrestredig;
wedi bod yn absenol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r perwyl hwnnw, gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(b) os yw person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref gofal, neu'n bwriadu rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref gofal; (c) os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw neu ei fod yn bwriadu newid ei enw; (ch) os corff yw'r darparydd cofrestredig -
(ii) bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd neu y bwridedir i hynny ddigwydd;
(d) os oes unrhyw newid yn yr unigolyn cyfrifol neu y bwriedir unrhyw newid o'r fath;
Hysbysu terfynu llety
(b) i'r person y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth; ac (c) os yw awdurdod lleol wedi gwneud y trefniadau ar gyfer darparu llety, gofal nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, i'r awdurdod hwnnw.
(2) Os nad yw'n ymarferol i'r person cofrestredig gydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1) -
(b) rhaid iddo ddarparu datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr amgylchiadau a'i gwnaeth yn anymarferol iddo gydymffurfio â'r gofyniad.
Penodi datodwyr etc
(b) penodi rheolwr i gymryd gofal llawn amser o ddydd i ddydd o'r cartref gofal mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac (c) o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu pob cartref gofal y mae ei benodiad yn berthnasol iddynt yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir -
(b) fel datodwr neu ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig cartref gofal; neu (c) fel derbynnydd neu reolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg cartref gofal; neu (ch) fel ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig cartref gofal.
Marwolaeth person cofrestredig
(b) o fewn 28 diwrnod, o'u bwriadau ynghylch rhedeg y cartref yn y dyfodol.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref gofal heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef -
(b) am unrhyw gyfnod pellach y gellir penderfynu arno yn unol â pharagraff (4).
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion paragraff (3)(b), a rhaid iddo hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.
(b) os nad oes person heblaw'r darparydd cofrestredig yn rheoli'r cartref gofal; (c) os yw'r cartref gofal -
(ii) os oes gan y darparydd cofrestredig fwy nag un cartref, yn gartref iddo lle mae'n preswylio fel arfer, neu'n ffurfio rhan ohono;
(ch)
(ii) os nad oes mwy na thri defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu lletya yn y cartref gofal os yw pob defnyddiwr gwasanaeth o'r fath wedi cael eu lletya dan gytundeb a ddisgrifir yn is-baragraff (d) ar unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2002;
(d) os oes cytundeb lleoliad wedi'i wneud mewn perthynas â phob un o'r defnyddwyr gwasanaeth;
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "cytundeb lleoliad" yw cytundeb sydd -
(ii) y defnyddiwr gwasanaeth; a (iii) yr awdurdod lleol neu gorff arall sy'n rheoli cynllun ("cynllun lleoliadau oedolion" ("adult placement scheme")) y mae wedi trefnu neu y mae'n bwriadu trefnu i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei letya mewn cartref gofal odano;
(b) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion canlynol -
(ii) yr ystafell y mae'r defnyddiwr gwasanaeth i'w meddiannu; (iii) y gwasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth; (iv) y ffioedd sydd i'w codi; (v) cymwysterau a phrofiad y darparydd cofrestredig; (vi) y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety a'r gwasanaethau sydd i'w darparu; (vii) y gwasanaethau a'r cymorth sydd i'w darparu o dan y cynllun lleoliadau oedolion y mae'r llety yn cael ei drefnu neu wedi cael ei drefnu odano.
Addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion
(b) paragraff (2) wedi'i hepgor.
(5) Bydd rheoliad 16 (cyfleusterau a gwasanaethau) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau "ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny" wedi'u hepgor yn is-baragraff (g) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw.
(b) is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor; (c) paragraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor.
(8) Bydd Atodlen 3 (y cofnodion sydd i'w cadw mewn cartref gofal mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (ff) o baragraff 3 o'r Atodlen honno wedi'i hepgor.
(b) Rheoliadau Cartrefi Nyrsio a Chartrefi Nyrsio'r Meddwl 1984[15].
1. Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig. 2. Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig. 3. Nifer, cymwysterau a phrofiad perthnasol y staff sy'n gweithio yn y cartref gofal. 4. Strwythur trefniadol y cartref gofal. 5. Ystod oedran a rhyw y defnyddwyr gwasanaeth y bwriedir darparu llety ar eu cyfer. 6. Ystod yr anghenion y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu. 7. A gaiff gwasanaeth nyrsio ei ddarparu. 8. Unrhyw feini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau (os oes rhai) y cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys. 9. Y trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth ymgymryd â gweithgareddau cymdeithasol, hobïau a diddordebau hamdden. 10. Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch gweithredu'r cartref gofal. 11. Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref gofal. 12. Y trefniadau a wneir i'r defnyddwyr gwasanaeth fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis. 13. Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'u perthnasau, eu cyfeillion a'u cynrychiolwyr. 14. Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion. 15. Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1). 16. Nifer a maint yr ystafelloedd yn y cartref gofal. 17. Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio. 18. Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas defnyddwyr gwasanaeth. 19. Y trefniadau a wneir i ryddhau ymrwymiad person cofrestredig o dan reoliad 12 (4)(b). 20. Manylion -
(b) y dulliau rheoli a all gael eu defnyddio yn y cartref (os o gwbl) a'r amgylchiadau y defnyddir hwy ynddynt a chan bwy y defnyddir hwy.
1. Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar. 2. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,
gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[19].
(b) y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd y person wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.
1. Y dogfennau canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth -
(b) y cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).
2.
Ffotograff diweddar o'r defnyddiwr gwasanaeth.
(b) enw, cyfeiriad a rhif ffôn perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth neu enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran; (c) enw, cyfeiriad a rhif ffôn ymarferydd cyffredinol y defnyddiwr gwasanaeth ac enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw swyddog i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol sydd o dan ddyletswydd i oruchwylio lles y defnyddiwr gwasanaeth; (ch) y dyddiad y daeth y defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref gofal; (d) y dyddiad yr ymadawodd y defnyddiwr gwasanaeth â'r cartref gofal a'r lle yr aeth iddo; (dd) os bu farw'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, dyddiad, amser ac achos y farwolaeth; (e) enw a chyfeiriad unrhyw awdurdod, mudiad neu gorff arall a drefnodd i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei dderbyn i'r cartref gofal; (f) cofnod o'r holl feddyginiaethau a gedwir yn y cartref gofal ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, a dyddiad eu rhoi i'r defnyddiwr gwasanaeth; (ff) cofnod o unrhyw ddamwain sy'n effeithio ar y defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal ac o unrhyw ddigwyddiad arall yn y cartref gofal sy'n andwyol i iechyd neu les y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys natur, dyddiad ac amser y ddamwain neu'r digwyddiad, a oedd angen triniaeth feddygol ac enw'r personau a oedd â gofal y cartref gofal ac yn goruchwylio'r defnyddiwr gwasanaeth yn eu tro; (g) cofnod o unrhyw wasanaeth nyrsio a ddarparwyd ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys cofnod o'i anhwylder ac unrhyw driniaeth neu ymyriad llawfeddygol; (ng) manylion unrhyw anghenion arbennig o ran cyfathrebu sydd gan y defnyddiwr gwasanaeth a'r dulliau cyfathrebu a all fod yn briodol i'r defnyddiwr gwasanaeth; (h) manylion unrhyw gynllun sy'n ymwneud â'r defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â meddyginiaeth, nyrsio, gofal iechyd arbenigol neu faethiad; (i) cofnod o fynychder briwiau pwysedd ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth; (j) cofnod o godymau ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth; (l) cofnod o unrhyw ataliadau corfforol a ddefnyddir ar y defnyddiwr gwasanaeth; (ll) cofnod o unrhyw gyfyngiadau y cytunwyd arnynt gyda'r defnyddiwr gwasanaeth ynghylch rhyddid y defnyddiwr gwasanaeth i ddewis, rhyddid i symud a ph er i wneud penderfyniadau.
4.
Copïau o ohebiaeth y cartref gofal sy'n ymwneud â phob defnyddiwr gwasanaeth. 1. Copi o'r datganiad o ddiben. 2. Copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth. 3. Cofnod o'r holl gyfrifon a gedwir yn y cartref gofal. 4. Copi o bob adroddiad arolygu. 5. Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 27(4)(c). 6. Cofnod o'r holl bersonau a gyflogir yn y cartref gofal, a fydd yn cynnwys y materion canlynol mewn perthynas â phob unigolyn a ddaw o dan reoliad 19(1) -
(b) copi o'i dystysgrif eni a'i basport (os oes un); (c) copi o bob tystlythyr a gafwyd mewn perthynas ag ef; (ch) y dyddiadau y mae'n dechrau cael ei gyflogi ac yn gorffen cael ei gyflogi; (d) y swydd sydd ganddo yn y cartref gofal, y gwaith y mae'n ei gyflawni a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos; (dd) gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion camau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.
7.
Copi o roster dyletswyddau'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal, a chofnod i ddweud a gafodd y roster ei weithio mewn gwirionedd.
(b) cynnwys cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu'r pethau gwerthfawr wedi'u dychwelyd.
10.
Cofnod o bob dodrefnyn y daeth y defnyddiwr gwasanaeth ag ef i'r ystafell y mae'n lletya ynddi.
(b) unrhyw ddigwyddiad sy'n andwyol i iechyd neu les defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys brigiad clefyd heintus yn y cartref gofal; (c) unrhyw anaf neu salwch; (ch) unrhyw dân; (d) ac eithrio pan wneir cofnod o dan baragraff 14, unrhyw achlysur pan weithredir y larwm tân; (dd) unrhyw ladrad neu fwrgleriaeth.
13.
Cofnodion o'r bwyd a ddarparwyd ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, yn ddigon manwl i alluogi unrhyw berson sy'n archwilio'r cofnod i ganfod a yw'r ddeiet yn foddhaol, mewn perthynas â maethiad ac fel arall, ac unrhyw ddeiet arbennig sydd wedi'i pharatoi ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth unigol. 1. Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, y tu mewn a'r tu allan i'r cartref, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref. 2. Y manylion canlynol -
(b) a oes bwriad i letya plant anabl, a oes ganddynt anghenion arbennig neu unrhyw nodweddion arbennig eraill; (c) ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.
3.
Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys). 1. Cydymffurfedd ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y plentyn a baratowyd gan yr awdurdod lleoli a chynllun lleoliad pob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal. 2. Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a drosglwyddyd er mwyn eu cadw'n ddiogel. 3. Bwydlenni dyddiol. 4. Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan y plant sy'n cael eu lletya yno. 5. Unrhyw salwch y mae'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn ei gael. 6. Cwynion mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a'u canlyniadau. 7. Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a chanlyniad unrhyw ymchwiliad. 8. Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref gofal. 9. Ymwelwyr â'r cartref gofal ac â'r plant yn y cartref gofal. 10. Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5 i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002. 11. Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gofal gan blentyn sy'n cael ei letya yno. 12. Defnyddio unrhyw fesurau disgyblu mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal. 13. Defnyddio ataliadau corfforol mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ac maent yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â Chymru, a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau. Mae'r Ddeddf yn darparu pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhan fwyaf o Rannau I a II o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae'r trefniadau newydd hyn yn disodli'r system reoleiddio y darparwyd ar ei chyfer mewn perthynas â chartrefi preswyl a chartrefi nyrsio o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984. Mae rheoliad 3 yn eithrio'r canlynol o'r diffiniad o gartref gofal o dan adran 3 o'r Ddeddf: sefydliadau gofal teuluol (sy'n cynnwys gofal parhaus dros blant maeth ar ôl 18 oed); sefydliadau sy'n darparu llety am lai nag 28 diwrnod y flwyddyn; cyfleusterau GIG penodol sy'n darparu gwasanaeth nyrsio; a sefydliadau addysg penodol. O dan reoliadau 4 a 5, rhaid bod gan bob cartref gael datganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 1, a darparu arweiniad i'r cartref i bob defnyddiwr gwasanaeth. Mae rheoliadau 7 i 10 yn gwneud darpariaeth yngl n â ffitrwydd y personau sy'n rhedeg ac yn rheoli'r cartref, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â rhai materion penodedig. Os corff sy'n rhedeg y cartref, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas ag ef (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y cartref, ac mae rheoliad 10 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y cartref yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch rhedeg cartrefi gofal, yn enwedig yngl n ag iechyd a lles defnyddwyr gwasanaeth, ac yngl n â'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am gadw cofnodion, staffio'r cartrefi, ffitrwydd y gweithwyr ac am gwynion.Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd safleoedd ac ynghylch rhagofalon tân. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli cartrefi gofal. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig sefydlu system ar gyfer adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu gan y cartref. Mae Rheoliad 26 yn gosod gofynion sy'n ymwneud â sefyllfa ariannol y cartref. Mae rheoliad 27 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r cartref fel a ragnodir. Mae Rhan VI yn gwneud darpariaeth arbennig sy'n gymwys os oes plant yn cael eu lletya yn y cartref. Mae Rhan VII yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 44 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Mae rheoliadau 45 a 46 yn addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion. Mae rheoliad 48 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfeydd mewn rhannau o Gymru ar gyfer ei hysbysu o dan y Rheoliadau. Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sy'n cael ei ddiffinio yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru, fel y Cynulliad Cenedlaethol ac, mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler adran 121(1) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back [2] Gweler adran 22(9) o'r Ddeddf ynghylch y gofyniad i ymgynghori.back [8] Gweler adran 5 o Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ac adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).back [10] 1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi eu dwyn i rym hyd yn hyn. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.back [11] 1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115 , fel y'u diwygiwyd, wedi eu dwyn i rym hyd yn hyn. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.back [12] Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu wedi bod yn sâl; sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau neu wedi bod yn dibynnol arnynt.back [13] O.S. 2002/327 (Cy.40).back [17] Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.back [18] Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.back [19] Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.back [21] O.S. 1975/1023. Ar y dyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; O.S. 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.back
ISBN 0 11 090452 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 3 April 2002 |