Offerynnau Statudol 2002 Rhif 304 (Cy.35)

      Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090428 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 304 (Cy.35)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFIEILIAID

Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 11 Chwefror 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Chwefror 2002.

Diwygio Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998
    
2. I'r graddau y bônt yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998[3] yn cael eu diwygio drwy osod y rhif "3" yn lle'r rhif "7" yn rheoliad 7(e).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad

8 Chwefror 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998 (O.S. 1998/1796) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cyfnod y mae'n rhaid i geidwad roi hysbysiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am symudiad gwartheg.

Effaith y diwygiad sy'n cael ei wneud gan y Rheoliadau yw lleihau'r cyfnod y mae'n rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ynddo drwy'r post neu drwy ddull electronig am symudiad anifeiliaid o saith diwrnod i dri (rheoliad 2). Mae hyn yn unol â gofynion ail indent Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi cael ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1998/1796.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090428 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 22 February 2002