Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090427 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] a phob pŵ er arall sy'n eu galluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, Cymhwyso a Chychwyn 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru. (2) Daw i rym ar 11 Chwefror 2002 ac fe fydd yn peidio a bod mewn grym ar 1 Rhagfyr 2002. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall:
(b) dangos; (c) arddangos; (ch) i'w traddodi ymlaen i'w lladd o fewn Prydain Fawr; neu (d) yn achos gwartheg stôr, i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr ar gyfer pesgu pellach neu eu gorffen,
ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw dros dro yr anifeiliaid hynny; ac
Defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid
(b) oni bai fod y tir a'r adeiladau hynny wedi'u trwyddedu i'r diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i'r drwydded y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod -
(b) fod yn bosibl ei diwygio, ei hatal dros dro neu ei diddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig wedi ei gyhoeddi gan arolygydd milfeddygol; ac (c) fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol yn angenrheidiol er mwyn rheoli cyflwyno neu ledaenu clefyd o fewn neu oddi wrth y tir a'r adeiladau y mae'r drwydded yn perthyn â hwy.
Eithriadau i erthygl 3
(b) y crynoad anifeiliad i ddigwydd ar dir neu mewn adeilad sydd yn eiddo i neu ym meddiant perchennog yr anifeiliaid.
(2) At ddibenion yr erthygl hwn, ystyr "ceidwad" yw person sydd â'r prif gyfrifoldeb am ofal a rheoli'r anifeiliaid o ddydd i ddydd. Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod cyn crynhoad anifeiliaid 1. Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu i grynhoad anifeiliaid ddigwydd ar dir ac mewn adeiladau lle mae anifeiliaid wedi'u cadw hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd -
(b) y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.
Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod ar ôl crynhoad anifeiliaid
(ii) y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.
(b) Yn ystod y cyfnod 28 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) uchod, rhaid i bob person beidio â symud o'r tir a'r adeiladau unrhyw gorlan, clwyd neu gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd atynt oni bai eu bod wedi'u hysgubo neu eu crafu'n lân, eu glanhau drwy olchi â diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr.
Eithriad i'r cyfnod cyfyngedig
(b) gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf ymadael â'r tir a'r adeiladau a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.
6.
Os (am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno) yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu halogi gan ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall o darddiad anifeilaidd neu unrhyw halogyn o darddiad anifeilaidd yna rhaid ysgubo neu grafu'n lân y tir a'r adeiladau neu'r rhannau hynny a halogwyd felly,ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.
(b) eu trin er mwyn tynnu'r perygl o drosglwyddo afiechyd; neu (c) eu gwaredu fel nad yw'r anifeiliaid yn cael mynd atynt.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn datgymhwyso dros dro ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (O.S. 1925/1349) (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas â Chymru. Y mae'n gwahardd defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid oni bai fod trwydded i ganiatáu'r gweithgarwch hwnnw (erthygl 3). Mae'n gofyn bod -
Ni pharatowyd arfarniad o'r rheoliadau hyn ar gyfer y Gorchymyn hwn. Notes: [1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) ar gyfer diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" cyn belled â'u bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); a chyn belled â'u bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141).back [2] O.S. 1978/32. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1978/934; O.S. 1999/919 ac mewn perthynas â Chymru, O.S. 2001/641 (Cy. 31).back [3] O.S. 1925/1349 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1926/546; O.S. 1927/982 ac O.S. 1996/3265.back
ISBN 0 11090427 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 22 February 2002 |