Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) (Diwygio) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090425 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) (Diwygio) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Chwefror 2002. Diwygio Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliad Hŷn) 2000 2. Mae Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000[3] yn cael eu diwygio drwy osod y gair "tri" yn rheoliad 7(2)(e) yn lle'r gair "saith". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4] Carwyn Jones Ysgrifennydd Cynulliad 8 Chwefror 2002 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio'r Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliad Hŷn) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3339) (Cy. 217) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cyfnod y mae'n rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am symudiad gwartheg. Effaith y diwygio sy'n cael ei wneud gan y Rheoliadau fydd lleihau'r cyfnod y mae'n ofynnol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ynddo drwy'r post neu drwy ddull electronig am symudiad gwartheg o saith diwrnod i dri (rheoliad 2). Mae hyn yn unol â'r hyn sy'n ofynnol o dan ail indent Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1). Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 2000/3339 (Cy.217).back
ISBN 0 11090425 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 21 February 2002 |