Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090419 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002. 2. 1 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a benodir i'r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru[3] a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996 ddod yn effeithiol. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]) D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 29 Ionawr 2002 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi Cod Ymarfer sy'n rhoi canllawiau ymarferol ynghylch sut y dylai awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gyflawni eu swyddogaethau o dan y Ddeddf honno mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig, ac yn caniatáu iddo ddiwygio'r Cod o dro i dro. Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi Cod o dan y teitl Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Ebrill 2002 yn ddyddiad i'r Cod ddod i rym. Gellir cael copïau o'r Cod oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir ei gael ar y Rhyngrwyd hefyd yn www.cymru.gov.uk Mae'r Cod, mewn perthynas â Chymru, yn disodli Rhestr Argymhellion gynharach a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ar y cyd, ar 25 Mai 1994. Notes: [1] 1996 p.56.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back [3] ISBN 0 7504 27574 Gellir cael copïau o'r Cod (sy'n gymwys i Gymru yn unig) oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Gellir ei gael ar y Rhyngrwyd hefyd yn www.cymru.gov.uk.back
ISBN 0 11090419 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 11 February 2002 |