Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002, ISBN 0 11 090422 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 316A(2), 322(4), 324(2), 325(2A) a (2B), 328(1), (3A), (3B) a (6), 329(2A), 329A(9), a 569(1), (2) a (4) o Ddeddf Addysg 1996[1], a pharagraffau 2, 3(1), (3) a (4) o Atodlen 26, a pharagraffau 2(3), 2B (3), 5(3), 6(3), 7(1) a (2), 8(3A) a (5), 11(2A) a (4) o Atodlen 27 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2002. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl isod yr ystyr a roddir gan y darpariaethau y cyfeirir atynt yn ail golofn y tabl hwnnw (neu, yn ôl fel y digwydd, maent i'w dehongli yn unol â'r darpariaethau hynny):
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, mewn perthynas â phlentyn penodol, yn gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae'r plentyn yn byw yn eu hardal. (4) Os yw'n ofynnol gwneud rhywbeth o dan y Rheoliadau hyn -
(b) o fewn cyfnod ac nad yw diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, caiff y cyfnod ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.
(5) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn -
(b) at Atodlen yn gyfeiriadau at Atodlen i'r Deddf; (c) at reoliad yn gyfeiriadau at reoliad yn y Rheoliadau hyn.
Dirprwyo swyddogaethau
(b) mewn achos penodol i aelod o staff yr ysgol sy'n addysgu'r plentyn o dan sylw.
Hysbysiadau
(b) yn achos pennaeth neu aelod arall o staff ysgol, cyfeiriad yr ysgol; (c) yn achos unrhyw berson arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y fan lle y mae'r person yn rhedeg busnes, proffesiwn neu gyflogaeth arall.
(3) Os defnyddir post dosbarth cyntaf, rhaid trin y ddogfen neu'r hysbysiad fel pe baent wedi'u cyflwyno, wedi'u hanfon neu wedi'u rhoi ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, oni ddangosir i'r gwrthwyneb. Hysbysiadau sy'n ymwneud ag asesu 6. - (1) Mae paragraff (2) yn gymwys -
(b) os nad oes hysbysiad wedi'i roi mewn perthynas ag asesiad penodol o dan adran 323(1) neu 329A(3), a bod awdurdod yn rhoi hysbysiad i riant plentyn o'u penderfyniad i wneud asesiad o dan adran 323(4) neu 329A(7).
(2) Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r hysbysiad perthnasol -
(b) i'r awdurdod iechyd, (c) os yw'r plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol, at bennaeth yr ysgol honno, neu (ch) os yw'r plentyn yn derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar, at y pennaeth AAA mewn perthynas â'r darparydd hwnnw.
(3) Os anfonir copi o hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i arnodiad ar y copi neu hysbysiad sy'n cyd-fynd â'r copi hwnnw hysbysu'r derbynnydd pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.
(b) nad oes asesiad wedi'i wneud ar gyfer y plentyn hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n diweddu â'r dyddiad y gwneir y cais
rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (ch) fod y cais wedi'i wneud a'i hysbysu pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.
(b) nad oes asesiad wedi'i wneud ar gyfer y plentyn hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n diweddu â'r dyddiad y gwneir y cais,
rhaid i'r awdurdod rhoi hysbysiad i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (ch) fod y cais wedi'i wneud a'u hysbysu pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.
(b) arnodi'r hysbysiad a gyflwynir i'r corff cyfrifol o dan adran 329A(7) neu gyflwyno hysbysiad pellach i gyd-fynd â'r hysbysiad hwnnw yn hysbysu pennaeth yr ysgol neu'r pennaeth AAA mewn perthynas â'r darparydd addysg gynnar pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.
Y cyngor sydd i'w geisio
(b) cyngor addysgol fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 8; (c) cyngor meddygol gan yr awdurdod iechyd fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 9; (ch) cyngor seicolegol fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 10; (d) cyngor gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; ac (dd) unrhyw gyngor arall y mae'r awdurdod yn credu ei fod yn briodol at ddibenion gwneud asesiad boddhaol.
(2) Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyngor ysgrifenedig sy'n ymwneud â'r canlynol -
(b) sut y gallai'r nodweddion hynny effeithio ar anghenion addysgol y plentyn; ac (c) y ddarpariaeth sy'n briodol ar gyfer y plentyn yng ngoleuni'r nodweddion hynny ar achos y plentyn, o ran darpariaeth addysgol arbennig neu ddarpariaeth anaddysgol, ond heb fod yn ymwneud ag unrhyw fater y mae angen ei bennu mewn datganiad yn rhinwedd adran 324(4)(b).
(3) Caiff person y ceisir y cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1) oddi wrtho ymgynghori mewn cysylltiad â'r cyngor hwnnw ag unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddo ei bod yn hwylus ymgynghori â hwy; a rhaid iddo ymgynghori ag unrhyw bersonau, os oes rhai, a bennir yn yr achos penodol gan yr awdurdod fel personau sydd â gwybodaeth berthnasol am y plentyn neu ynghylch y plentyn.
(b) unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd gan y rhiant neu ar gais y rhiant
o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d) yn ôl fel y digwydd.
(b) os yw'r awdurdod, y person y cafwyd y cyngor oddi wrtho a rhiant y plentyn wedi'u bodloni fod y cyngor presennol yn ddigonol er mwyn gwneud asesiad boddhaol.
Cyngor addysgol
(b) os na ellir cael cyngor oddi wrth bennaeth ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd (am nad yw'r plentyn yn mynychu ysgol neu fel arall), oddi wrth berson y mae'r awdurdod wedi'u bodloni bod ganddo brofiad o addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig neu wybodaeth am y ddarpariaeth wahanol y gall fod galw amdani mewn achosion gwahanol er mwyn diwallu'r anghenion hynny; (c) os nad yw'r plentyn yn mynychu ysgol ar hyn o bryd ac os nad yw'r cyngor a geir o dan is-baragraff (b) yn gyngor oddi wrth berson o'r fath, oddi wrth berson sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth addysgol i'r plentyn; ac (ch) os oes unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwasanaethu fel aelod o luoedd arfog Ei Mawrhydi, oddi wrth Addysg Plant y Lluoedd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid peidio â cheisio'r cyngor a geisir fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(a) i (c) oddi wrth unrhyw berson nad yw'n athro neu'n athrawes gymwysedig.
(b) nam ar ei olwg; neu (c) nam ar ei glyw ac ar ei olwg,
ac nad yw unrhyw berson y ceisir cyngor oddi wrtho fel y darperir ym mharagraff (1) wedi'i gymhwyso i addysgu disgyblion a chanddynt nam o'r fath yna rhaid i'r cyngor a geisir fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori â pherson sydd wedi'i gymhwyso felly.
(b) a gymerir ymlaen gan yr awdurdod yn seicolegydd addysgol yn yr achos o dan sylw.
(2) Os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu bod gan seicolegydd arall wybodaeth berthnasol am y plentyn neu ynghylch y plentyn, rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth berson fel y darperir ym mharagraff (1) fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori â'r seicolegydd arall hwnnw.
(b) unrhyw dystiolaeth a gyflwynir gan riant y plentyn, neu ar gais rhiant y plentyn o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d); ac (c) y cyngor a geir o dan reoliad 7.
Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig
(b) o'u penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, ac (c) yn y naill achos neu'r llall bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni.
(2) Os oes rhiant yn gofyn, o dan adrannau 328(2) neu 329(1), i'r awdurdod drefnu gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad derbyn y cais rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn -
(ii) eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; a (iii) bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; neu
(b) o'r canlynol -
(ii) eu rhesymau dros wneud y dyfarniad hwnnw; (iii) bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; (iv) bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B(1); (v) hawl y rhiant i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwneud asesiad; (vi) y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; a (vii) y ffaith na all y trefniadau a wneir o dan adran 332B(1) effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a gwneud unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B(1).
(3) Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i'r corff hwnnw -
(b) o'u penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.
(4) Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i riant y plentyn -
(ii) eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; a (iii) bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; neu
(b) o'r canlynol -
(ii) eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; (iii) bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; (iv) bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B(1); (v) hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwneud asesiad; (vi) y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; a (vii) y ffaith na all y trefniadau a wneir o dan adran 332B(1) effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a gwneud unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B(1).
(5) Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfynau amser y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (4) os yw'n anymarferol gwneud hynny -
(b) am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth y pennaeth AAA neu berson arall sy'n gyfrifol am addysg plentyn mewn darparydd addysg gynnar yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd y darparydd addysg gynnar hwnnw ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor; (c) am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4); neu (ch) am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4).
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os oes awdurdod wedi rhoi hysbysiad, o dan adrannau 323(4) neu 329A(7), i riant y plentyn o'u penderfyniad i wneud asesiad, rhaid iddynt gwblhau'r asesiad hwnnw o fewn 10 wythnos o'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
(b) am fod rhiant y plentyn wedi mynegi i'r awdurdod ei fod yn dymuno rhoi cyngor i'r awdurdod ar ôl i chwe wythnos ddod i ben o'r dyddiad y cafwyd cais am gyngor o'r fath o dan reoliad 7(1)(a), a bod yr awdurdod wedi cytuno i ystyried y cyngor hwnnw cyn cwblhau'r asesiad; (c) am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth bennaeth ysgol o dan reoliad 7(1)(b) yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd yr ysgol honno ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor; (ch) am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth y pennaeth AAA mewn perthynas ag addysg plentyn mewn darparydd addysg gynnar, neu berson arall sy'n gyfrifol am yr addysg honno, o dan reoliad 7(1)(b), yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd y darparydd addysg gynnar hwnnw ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor; (d) am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno a bod yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol heb gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y gwnaed y cais; (dd) am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o 10 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6); (e) am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o ddeg wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6); neu (f) am fod y plentyn yn methu â chadw apwyntiad ar gyfer archwiliad neu brawf yn ystod y cyfnod o 10 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6).
(8) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11), os oes awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno, rhaid i'r awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y maent yn cael y cais.
(b) am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8); neu (c) am fod y plentyn yn methu â chadw apwyntiad ar gyfer archwiliad neu brawf a wnaed gan yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn y drefn honno yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8).
(10) Nid oes angen i awdurdod iechyd gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.
(b) nes i ddatganiad gael ei wneud[10].
Hysbysiadau i gyd-fynd â datganiad arfaethedig, neu ddatganiad diwygiedig arfaethedig 14. Rhaid i'r hysbysiad y mae'n rhaid i awdurdod ei gyflwyno i riant yn unol â pharagraff 2B(2) o Atodlen 27 i gyd-fynd -
(b) â chopi o ddatganiad diwygiedig arfaethedig (a gyflwynir o dan baragraff 2A(2) o Atodlen 27)
gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan A o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(b) cynnwys yr wybodaeth a bennir yno; (c) cael ei ddyddio a'i ddilysu â llofnod swyddog o'r awdurdod o dan sylw sydd wedi'i awdurdodi'n briodol; (ch) nodi ai'r datganiad cyntaf sydd wedi'i wneud gan yr awdurdod ar gyfer y plentyn ydyw, neu ddatganiad dilynol; (d) nodi ar y tudalen blaen a yw -
(ii) yn cael ei ddiwygio yn unol ag adolygiad heblaw adolygiad blynyddol a dyddiad yr adolygiad hwnnw; (iii) yn cael ei ddiwygio yn unol â gorchymyn gan y Tribiwnlys, a dyddiad y gorchymyn hwnnw; neu (iv) yn cael ei ddiwygio yn unol â chyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, a dyddiad unrhyw gyfarwyddyd o'r fath.
Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig
(b) rhoi hysbysiad i riant y plentyn -
(ii) o'u rhesymau dros y penderfyniad hwnnw; (iii) o hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw; a (iv) o'r terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn.
(2) Os oes awdurdod wedi gwneud asesiad o blentyn y mae datganiad yn cael ei gynnal ar ei gyfer, o fewn pythefnos o ddyddiad cwblhau'r asesiad, rhaid iddynt -
(b) rhoi hysbysiad i riant y plentyn -
(ii) o hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw; a (iii) o'r terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; neu
(c) cyflwyno hysbysiad i riant y plentyn -
(ii) sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am eu rhesymau dros y penderfyniad hwnnw; (iii) sy'n cyd-fynd â chopïau o'r cyngor proffesiynol a gafwyd yn ystod yr asesiad; (iv) sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am yr hawl i apelio o dan adran 326(1)(c) at y Tribiwnlys yn erbyn y disgrifiad yn y datganiad o asesiad yr awdurdod o anghenion addysgol arbennig y plentyn, y ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir yn y datganiad (gan gynnwys enw ysgol os pennwyd un) neu, os nad oes ysgol wedi'i henwi yn y datganiad, y ffaith honno; a (v) sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os oes awdurdod wedi cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig neu ddatganiad diwygiedig arfaethedig i riant y plentyn o dan baragraffau 2(1) neu 2A(2) o Atodlen 27, o fewn wyth wythnos i ddyddiad cyflwyno'r datganiad arfaethedig neu'r datganiad diwygiedig arfaethedig, rhaid iddynt gyflwyno copi o'r datganiad wedi'i gwblhau neu'r datganiad diwygiedig wedi'i gwblhau a hysbysiad ysgrifenedig i riant y plentyn o dan baragraffau 6(1) a 6(2) yn y drefn honno o Atodlen 27.
(b) am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o wyth wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (3); (c) am fod rhiant y plentyn yn mynegi ei fod am gyflwyno sylwadau i'r awdurdod am gynnwys y datganiad o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 ar ôl i'r cyfnod o 15 diwrnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o'r fath y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 4(4) o'r Atodlen honno ddod i ben; (ch) am fod cyfarfod rhwng rhiant y plentyn ac un o swyddogion yr awdurdod wedi'i gynnal yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 27 a bod rhiant y plentyn o dan baragraff 4(2) o'r Atodlen honno naill ai wedi'i gwneud yn ofynnol i gyfarfod arall o'r fath gael ei drefnu neu wedi'i gwneud yn ofynnol i gyfarfod â'r person priodol gael ei drefnu; neu (d) am fod yr awdurdod wedi anfon cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei gydsyniad o dan adran 347(5) i addysgu'r plentyn mewn ysgol annibynnol nad yw wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nad yw'r cydsyniad hwnnw wedi dod i law'r awdurdod o fewn pythefnos o ddyddiad anfon y cais.
(5) Os yw rhiant y plentyn yn gofyn o dan baragraff 8(1) o Atodlen 27 i'r awdurdod roi enw ysgol arall a bennir gan y rhiant yn lle enw ysgol neu sefydliad a bennwyd mewn datganiad a bod yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8(1)(b) o Atodlen 27 wedi'u bodloni, o fewn wyth wythnos o ddyddiad cael y cais rhaid i'r awdurdod naill ai -
(b) rhoi hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraff 8(3) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu peidio â chydymffurfio â'r cais, o'u rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, ac o'r hawl i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
(6) Os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad diwygio i riant y plentyn o dan baragraff 2A(4) o Atodlen 27 yn rhoi gwybod i'r rhiant eu bod yn bwriadu diwygio datganiad, rhaid iddynt ddiwygio'r datganiad cyn i wyth wythnos ddod i ben o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad.
(b) os yw'n anymarferol gwneud hynny am fod unrhyw un o'r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a) i (d) yn gymwys mewn perthynas â'r cyfnod o wyth wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6).
(8) Os oes awdurdod yn rhoi hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynnal datganiad, rhaid iddynt beidio â rhoi'r gorau i'w gynnal cyn i'r cyfnod rhagnodedig pryd y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad ddod i ben[11].
(b) y ffaith na all y trefniadau a wnaed o dan adran 332B effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a defnyddio unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B.
Adolygu datganiadau
(b) y mae eu hadolygiadau blynyddol i gael eu cynnal cyn dechrau'r ail dymor ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr "ysgol" yw
(b) ysgol feithrin a gynhelir, (c) uned cyfeirio disgyblion, (ch) ysgol a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 342, neu (d) Coleg Dinas ar gyfer Technoleg a'r Celfyddydau, Coleg Technoleg Dinas neu Academi Dinas,
lle mae disgybl y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdano yn ddisgybl cofrestredig.
(ii) paragraffau (4) i (15) o reoliad 22 mewn perthynas â phlentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, a
(b) pennu ar gyfer pob plentyn unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu y dylid gofyn am gyngor oddi wrthynt er mwyn gwneud adroddiad boddhaol.
(4) Rhaid i'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gael ei baratoi gan y pennaeth -
(b) o fewn 10 diwrnod ysgol o'r cyfarfod adolygu y cyfeirir ato yn rheoliad 20(6), neu, yn achos plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, yn rheoliad 21(6).
(5) Heb fod yn llai na phythefnos cyn diwrnod cyntaf pob blwyddyn ysgol rhaid i awdurdod gyflwyno i Wasanaeth Gyrfaoedd eu hardal, hysbysiad -
(b) yn nodi'r ysgol y mae pob un o'r plant hynny'n ei mynychu neu'r ddarpariaeth addysgol sy'n cael ei gwneud mewn perthynas â hwy.
(6) Heb fod yn llai na phythefnos cyn diwrnod cyntaf pob tymor ysgol rhaid i awdurdod gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod iechyd a'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol -
(ii) y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, a (iii) y mae eu hadolygiadau blynyddol i'w cynnal cyn dechrau'r ail dymor ar ôl rhoi'r hysbysiad; a
(b) yn nodi'r ysgol y mae'r plant hynny'n ei mynychu neu'r ddarpariaeth addysgol sy'n cael ei gwneud mewn perthynas â hwy.
Trosglwyddo rhwng cyfnodau
(b) os yw'r plentyn o fewn 12 mis calendr o drosglwyddo rhwng cyfnodau yn ei addysg.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr trosglwyddo rhwng cyfnodau o addysg yw trosglwyddo -
(b) o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd; (c) o'r ysgol ganol i'r ysgol uwchradd; (ch) o'r ysgol uwchradd i sefydliad a bennir yn adran 2A o'r Ddeddf.
(3) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys rhaid i awdurdod sicrhau bod datganiad y plentyn yn cael ei ddiwygio fel bod y datganiad, cyn 15 Chwefror yn y flwyddyn galendr y trosglwyddir y plentyn, yn enwi'r ysgol neu'r sefydliad arall y bydd y plentyn yn eu mynychu ar ôl y trosglwyddo hwnnw.
(b) os yw'r plentyn o dan sylw yn mynychu ysgol; ac (c) os nad yw'r plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i bennaeth ysgol y plentyn gyflwyno adroddiad iddynt o dan y rheoliad hwn erbyn dyddiad penodedig heb fod yn llai na dau fis o ddyddiad rhoi'r hysbysiad.
(b) unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu bod ei gyngor yn briodol er mwyn gwneud adroddiad boddhaol ac y maent yn ei bennu yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu ym mharagraff (1) o reoliad 18 mewn perthynas â'r plentyn penodol (mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw); ac (c) unrhyw berson y mae'r pennaeth yn credu bod ei gyngor yn briodol er mwyn gwneud adroddiad boddhaol (mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw).
(5) Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn gyngor ysgrifenedig ynghylch -
(b) cynnydd y plentyn tuag at gyrraedd unrhyw dargedau a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo'r amcanion a bennwyd yn y datganiad; (c) os ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig heblaw ysgol arbennig sydd wedi'i sefydlu mewn ysbyty yw'r ysgol, sut mae darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael eu cymhwyso ar gyfer y plentyn, a'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328; (ch) sut mae unrhyw ddarpariaethau a roddwyd yn lle darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn cynnal cwricwlwm cytbwys ac eang wedi'u cymhwyso a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328; (d) y cynnydd sydd wedi'i wneud gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328 yn ymddygiad y plentyn a'i agwedd at ddysgu; (dd) os yw'n briodol, ac mewn unrhyw achos lle mae cynllun trosiannol yn bodoli, unrhyw faterion sy'n destun priodol i gynllun o'r fath; (e) a yw'r datganiad yn parhau'n briodol; (f) unrhyw ddiwygiadau i'r datganiad a fyddai'n briodol; ac (ff) a ddylai'r awdurdod roi'r gorau i gynnal y datganiad.
(6) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu ym mharagraff (1) o reoliad 18 ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth wahodd y personau canlynol i gyfarfod i'w gynnal ar ddyddiad cyn cyflwyno'r adroddiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw -
(b) rhiant y plentyn; (c) aelod neu aelodau o staff yr ysgol sy'n addysgu'r plentyn neu sydd fel arall yn gyfrifol am ddarparu addysg ar gyfer y plentyn y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol; (ch) unrhyw berson arall y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol; a (d) unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol ac sydd wedi'i bennu yn yr hysbysiad.
(7) Heb fod yn fwy na phythefnos cyn dyddiad cynnal cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r pennaeth anfon at yr holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw ac sydd heb roi gwybod i'r pennaeth na fyddant yn bresennol ynddo gopïau o'r cyngor a gafwyd yn unol â'r cais o dan baragraff (4) a rhaid iddo ofyn, drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n cyd-fynd â'r copïau, i'r derbynwyr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddo cyn y cyfarfod neu yn y cyfarfod ynghylch y cyngor hwnnw ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.
(b) unrhyw newidiadau arwyddocaol yn amgylchiadau'r plentyn ers dyddiad gwneud y datganiad neu ei adolygu ddiwethaf.
(9) Rhaid i'r cyfarfod argymell -
(b) unrhyw dargedau sydd i'w sefydlu i hyrwyddo'r amcanion a bennir yn y datganiad y mae'n casglu y dylai'r plentyn eu bodloni yn ystod y cyfnod tan yr adolygiad nesaf, ac (c) os oes cynllun trosiannol yn bodoli, y materion y mae'n casglu y dylid eu cynnwys yn y cynllun hwnnw.
(10) Os na all y cyfarfod gytuno ar yr argymhellion sydd i'w cyflwyno o dan baragraff (9), rhaid i'r personau a fu'n bresennol yn y cyfarfod gyflwyno argymhellion gwahanol yn ôl fel y mae'n ymddangos yn angenrheidiol i bob un ohonynt.
(b) at unrhyw berson arall a gyflwynodd gyngor o dan baragraff (4) neu baragraff (7), (c) at unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt ac y maent yn cyfarwyddo'r pennaeth i anfon copi atynt, ac (ch) unrhyw berson arall y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt.
(13) Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y maent yn credu eu bod yn berthnasol, cofnodi eu penderfyniadau ar y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9)(a) a (b) yn ysgrifenedig ac, os oes cynllun trosiannol yn bodoli, rhaid iddynt gyflwyno argymhellion ysgrifenedig ar gyfer diwygiadau i'r cynllun yn ôl fel y maent yn credu ei bod yn briodol.
(b) at y pennaeth; (c) at unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt.
(15) Y pennaeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i'r cynllun trosiannol yn cael eu gwneud.
(b) os yw'r plentyn o dan sylw yn mynychu ysgol; ac (c) os yr adolygiad cyntaf ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig i bennaeth ysgol y plentyn gyflwyno adroddiad iddynt o dan y rheoliad hwn erbyn dyddiad penodedig heb fod yn llai na dau fis o ddyddiad rhoi'r hysbysiad.
(b) unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu bod ei gyngor yn briodol er mwyn gwneud adroddiad boddhaol ac y maent yn ei bennu yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) neu ym mharagraff (1) o reoliad 18 mewn perthynas â phlentyn penodol (mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw); (c) cynrychiolydd o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd (mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5)(dd) ac unrhyw faterion eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw); ac (ch) unrhyw berson y mae'r pennaeth yn credu bod eu cyngor yn briodol er mwyn gwneud adroddiad boddhaol (mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw).
(5) Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn gyngor ysgrifenedig ynghylch y canlynol -
(b) cynnydd y plentyn tuag at gyrraedd unrhyw dargedau a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo'r amcanion a bennwyd yn y datganiad; (c) os ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig heblaw ysgol arbennig sydd wedi'i sefydlu mewn ysbyty yw'r ysgol, sut mae darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael eu cymhwyso ar gyfer y plentyn, a'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328; (ch) sut mae unrhyw ddarpariaethau a roddwyd yn lle darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn cynnal cwricwlwm cytbwys ac eang wedi'u cymhwyso a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328; (d) y cynnydd sydd wedi'i wneud gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328 yn ei ymddygiad a'i agwedd at ddysgu; (dd) unrhyw faterion sy'n destun priodol cynllun trosiannol; (e) a yw'r datganiad yn parhau'n briodol; (f) unrhyw ddiwygiadau i'r datganiad a fyddai'n briodol; ac (ff) a ddylai'r awdurdod roi'r gorau i gynnal y datganiad.
(6) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (1) o reoliad 18 ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth wahodd y personau canlynol i gyfarfod i'w gynnal ar ddyddiad cyn ei bod yn ofynnol cyflwyno'r adroddiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw -
(b) aelod neu aelodau o staff yr ysgol sy'n addysgu'r plentyn neu sydd fel arall yn gyfrifol am ddarparu addysg ar gyfer y plentyn y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol; (c) cynrychiolydd o'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; (ch) cynrychiolydd o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd; (d) unrhyw berson y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol; (dd) unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol ac sydd wedi'i bennu yn yr hysbysiad; ac (e) cynrychiolydd o'r awdurdod.
(7) Heb fod yn fwy na phythefnos cyn dyddiad cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r pennaeth gyflwyno i'r holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw ac sydd heb roi gwybod i'r pennaeth na fyddant yn bresennol ynddo gopïau o'r cyngor y cafwyd yn unol â'r cais o dan baragraff (4) a rhaid iddo ofyn, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i'r derbynwyr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddo cyn y cyfarfod neu yn y cyfarfod ynghylch y cyngor hwnnw ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.
(b) unrhyw newidiadau arwyddocaol yn amgylchiadau'r plentyn ers dyddiad gwneud y datganiad neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328.
(9) Rhaid i'r cyfarfod argymell -
(b) unrhyw dargedau sydd i'w sefydlu i hyrwyddo'r amcanion a bennir yn y datganiad y mae'n casglu y dylai'r plentyn eu bodloni yn ystod y cyfnod tan yr adolygiad nesaf, ac (c) y materion y mae'n casglu y dylid eu cynnwys mewn cynllun trosiannol.
(10) Os na all y cyfarfod gytuno ar yr argymhellion sydd i'w cyflwyno o dan baragraff (9), rhaid i'r personau a fu'n bresennol yn y cyfarfod gyflwyno argymhellion gwahanol yn ôl fel y mae'n ymddangos yn angenrheidiol i bob un ohonynt.
(b) at unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt ac y maent yn cyfarwyddo'r pennaeth i anfon copi atynt, ac (c) at unrhyw berson arall y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt.
(13) Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y maent yn credu eu bod yn berthnasol, cyflwyno argymhellion ysgrifenedig ynghylch y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (9)(a), (b) ac (c).
(b) at y pennaeth; (c) at unrhyw berson arall y maent yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt.
(15) Y pennaeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cynllun trosiannol yn cael ei lunio.
(b) os yr adolygiad cyntaf sydd wedi'i gychwyn ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), cynrychiolydd o'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; (c) os yw is-baragraff (b) yn gymwys, cynrychiolydd o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd; ac (ch) unrhyw berson neu bersonau y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol.
(4) Heb fod yn hwyrach na phythefnos cyn dyddiad cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i'r awdurdod anfon at yr holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw gopi o'r adroddiad y maent yn bwriadu ei wneud o dan baragraff (2) a rhaid iddynt ofyn drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n cyd-fynd â'r copïau i'r derbynwyr gyflwyno i'r awdurdod sylwadau ysgrifenedig ynghylch yr adroddiad ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.
(b) at unrhyw berson y maent yn credu ei bod yn briodol anfon copi ato.
(9) Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y mae'n credu eu bod yn berthnasol, rhaid iddynt gyflwyno argymhellion ysgrifenedig o ran y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(9) ac mewn unrhyw achos lle'r adolygiad cyntaf i'w gychwyn ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad, baratoi cynllun trosiannol, ac mewn unrhyw achos lle mae cynllun trosiannol yn bodoli, ddiwygio'r cynllun fel y gwelant yn dda.
(b) os yw'r awdurdod newydd yn gwneud asesiad a bod yr hen awdurdod wedi rhoi cyngor a gafwyd yn unol ag asesiad blaenorol i'r awdurdod newydd, bydd rheoliad 7(5) yn gymwys fel pe bai'r awdurdod newydd wedi cael y cyngor ar y dyddiad y cafodd yr hen awdurdod ef.
(4) O fewn chwe wythnos o'r dyddiad trosglwyddo, rhaid i'r awdurdod newydd gyflwyno hysbysiad i riant y plentyn yn rhoi gwybod i'r rhiant -
(b) a ydynt yn bwriadu gwneud asesiad, ac (c) pryd y maent yn bwriadu adolygu'r datganiad yn unol â pharagraff (5).
(5) Rhaid i'r awdurdod newydd adolygu'r datganiad o dan adran 328(5)(b) cyn i'r hwyraf o'r ddau gyfnod canlynol ddod i ben -
(b) y cyfnod o dri mis yn dechrau â'r dyddiad trosglwyddo.
(6) Pan ddaw'r awdurdod newydd, oherwydd y trosglwyddo, o dan ddyletswydd i drefnu bod y plentyn yn mynychu ysgol a bennir yn y datganiad ond nad yw'n ymarferol i'r plentyn ei mynychu mwyach yng ngoleuni'r symud, caiff yr awdurdod newydd drefnu i'r plentyn fynychu ysgol arall sy'n briodol ar gyfer y plentyn nes ei bod yn bosibl diwygio'r datganiad yn unol â'r weithdrefn a nodir yn Atodlen 27.
(b) at ddibenion unrhyw apêl o dan y Ddeddf; (c) at ddibenion ymchwil addysgol a allai, ym marn yr awdurdod, hybu addysg plant ag anghenion addysgol arbennig, os, ond dim ond os, yw'r person sy'n ymwneud â'r ymchwil honno yn addo peidio â chyhoeddi dim a gynhwysir mewn datganiad, neu sy'n deillio o ddatganiad, heblaw ar ffurf nad yw'n datgelu pwy yw unrhyw unigolyn sydd o dan sylw gan gynnwys yn arbennig y plentyn sydd o dan sylw a'i riant; (ch) ar orchymyn unrhyw lys neu at ddibenion unrhyw achos troseddol; (d) at ddibenion unrhyw ymchwiliad o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974[12] (ymchwilio i gamweinyddu); (dd) i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd hwnnw'n gofyn iddo gael ei ddatgelu er mwyn penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddiadau neu wneud gorchymyn o dan adran 496, 497 neu 497A o'r Ddeddf; (e) at ddibenion asesiad o anghenion y plentyn mewn perthynas â darparu unrhyw wasanaethau statudol ar gyfer y plentyn sy'n cael ei wneud gan swyddogion awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn rhinwedd trefniadau a wnaed o dan adran 5(5) o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986[13]; (f) at ddibenion awdurdod lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan adrannau 22(3)(a), 85(4)(a), 86(3)(a) ac 87(3) o Ddeddf Plant 1989[14]; (ff) i Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, neu i arolygydd cofrestredig neu aelod o dîm arolygu, sy'n gofyn am yr hawl i archwilio datganiad neu i gymryd copïau ohono yn unol ag adran 2(8) neu 3(3) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996[15]) neu baragraff 7 o Atodlen 2 iddi yn y drefn honno; (g) i'r Gwasanaeth Gyrfaoedd er mwyn i gynllun trosiannol gael ei ysgrifennu neu ei ddiwygio; neu (ng) i Sefydliad Tramgwyddwyr Ifanc at ddibenion cyflawni ei ddyletswyddau o dan Reol 38 o Reolau Sefydliadau Tramgwyddwyr Ifanc 2000[16].
(2) Caiff plentyn gydsynio i ddatgelu datganiad at ddibenion y rheoliad hwn os yw oedran a dealltwriaeth y plentyn yn ddigon i ganiatáu i'r plentyn ddeall natur y cydsyniad hwnnw. Diddymu Rheoliadau 1994 25. Yn ddarostyngedig i reoliad 26, mae Rheoliadau 1994 drwy hyn wedi'u diddymu. Darpariaethau trosiannol 26. - (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r amserau, yr amgylchiadau neu'r dibenion yr oedd un o ddarpariaethau cyfatebol Rheoliadau 1994 yn effeithiol mewn perthynas â hwy ac i'r graddau y mae natur y cyfeiriad yn caniatáu hynny fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol honno. (2) Bydd rheoliadau 6 i 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad os yw'r awdurdod, cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 323(4), yn hysbysu'r rhiant eu bod wedi penderfynu gwneud asesiad, ac ni fydd rheoliadau 6 i 12 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad o'r fath. (3) Os yw rheoliadau 6 i 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad ond nad yw'r awdurdod, cyn 1 Medi 2002 -
(b) wedi cyflwyno copi i'r rhiant o ddatganiad arfaethedig yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 27; neu (c) wedi cyflwyno copi i'r rhiant o ddatganiad diwygiedig arfaethedig o dan baragraff 3 o Atodlen 27
bydd rheoliadau 6 i 12 yn gymwys mewn perthynas â'r asesiad o 1 Medi 2002 fel pe bai'r awdurdod wedi rhoi hysbysiad ar y dyddiad hwnnw i'r rhiant o dan adran 323(4) o'u penderfyniad i wneud asesiad. Enw a chyfeiriad yr awdurdod Dyddiad Cyfeiriad y Rhieni Annwyl [rhowch enw'r rhieni yma] Mae'n dda gen i amgáu copi o (ddatganiad arfaethedig o anghenion addysgol arbennig/ddatganiad diwygiedig arfaethedig o anghenion addysgol arbennig) ar gyfer [enw/enwau'r plentyn]. Gydag ef rydym yn anfon copïau o'r holl gyngor sydd wedi'i roi i ni yn ystod asesiad [enw/enwau'r plentyn] ar gyfer y datganiad. Os hoffech gyfarfod â ni i siarad am y datganiad, mae angen i chi ddweud wrthym o fewn 15 diwrnod ar ôl cael y llythyr hwn. Nid dyma'r datganiad terfynol. Cewch ofyn iddo gael ei newid. Mae gweddill y llythyr yn dweud wrthych sut i fynd ati. Fel y gwelwch, mae'r datganiad mewn chwe rhan: Rhan 1 Rhagymadrodd Rhan 2 Anghenion Addysgol Arbennig Rhan 3 Darpariaeth Addysgol Arbennig gan gynnwys amcanion a threfniadau ar gyfer monitro Rhan 4 Lleoliad Rhan 5 Anghenion Anaddysgol Rhan 6 Darpariaeth Anaddysgol Mae rhan 4 wedi'i gadael yn wag er mwyn i chi ddweud ble rydych chi'n meddwl y dylai [enw'r plentyn] gael ei addysgu/ei haddysgu. Gallwch ddweud i ba ysgol sy'n cael ei chynnal (ysgol awdurdod addysg lleol), gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod, yr hoffech chi i [enw'r plentyn] fynd iddi, a dweud y rhesymau. I'ch helpu i benderfynu, mae rhestr o'r holl ysgolion [cynradd/uwchradd] sy'n cael eu cynnal yn yr ardal wedi'i chynnwys. [Rhaid cynnwys rhestr o'r holl ysgolion cynradd neu uwchradd gyda'r llythyr hwn, yn dibynnu ai addysg gynradd neu addysg uwchradd y mae ar y plentyn ei hangen.] Os ydych yn awgrymu enw ysgol sy'n cael ei chynnal, gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal, mae'n rhaid i ni enwi'r ysgol yn rhan 4 o'r datganiad, oni bai -
(b) y byddai presenoldeb [enw'r plentyn] yn yr ysgol yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer y plant y byddai'n cael ei addysgu/ei haddysgu gyda nhw neu'n anghydnaws â defnyddio adnoddau'n effeithlon.
Os ydych yn meddwl y dylai [enw'r plentyn] fynd i ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal neu i ysgol annibynnol, cewch awgrymu enw ysgol a dweud pam yr ydych yn meddwl y dylai'r ysgol honno gael ei henwi yn natganiad [enw'r plentyn]. Mae rhestr o'r ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal ac o'r ysgolion annibynnol sydd wedi'u cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i chynnwys i'ch helpu. Rheoliad 15 Enw a chyfeiriad yr awdurdod Dyddiad Cyfeiriad y Rhieni Annwyl [rhowch enw'r rhieni yma] Fel y gwyddoch, mae gan [enw'r plentyn] ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, dyddiedig [rhowch ddyddiad y datganiad yma]. Yr ydym yn bwriadu diwygio datganiad [enw'r plentyn] [rhowch y rhesymau, e.e. yn sgil adolygiad blynyddol]. Fe welwch fanylion y diwygiadau yn yr hysbysiad diwygio amgaeëdig. Os nad ydych yn cytuno â'r newidiadau sydd wedi'u hawgrymu ac os ydych am gyfarfod â ni i siarad, byddwch cystal â dweud wrthym o fewn 15 diwrnod. (pan argymhellir diwygio rhan 4) Yr ydym [hefyd] am ddiwygio rhan 4 o'r datganiad [esboniwch y rhesymau pam, e.e. er mwyn i blentyn fynd i'r ysgol uwchradd]. Gallwch ddweud i ba ysgol sy'n cael ei chynnal (ysgol awdurdod addysg lleol), gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod, yr hoffech chi i [enw'r plentyn] fynd iddi, a dweud y rhesymau. I'ch helpu i benderfynu, mae rhestr o'r holl ysgolion [cynradd/uwchradd] sy'n cael eu cynnal yn yr ardal wedi'i chynnwys. [Rhaid cynnwys rhestr o'r holl ysgolion cynradd neu uwchradd gyda'r llythyr hwn, yn dibynnu ai addysg gynradd neu addysg uwchradd y mae ar y plentyn ei hangen.] Os ydych yn awgrymu enw ysgol sy'n cael ei chynnal, gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal, mae'n rhaid i ni enwi'r ysgol yn rhan 4 o'r datganiad, oni bai - 1. bod yr ysgol yn anaddas ar gyfer oedran, gallu neu gymhwysedd [enw'r plentyn] neu'n anaddas ar gyfer yr anghenion addysgol arbennig sydd ganddo/ganddi, neu 2. y byddai presenoldeb [enw'r plentyn] yn yr ysgol yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer y plant y byddai'n cael ei addysgu/ei haddysgu gyda nhw neu'n anghydnaws â defnyddio adnoddau'n effeithlon. Os ydych yn meddwl y dylai [enw'r plentyn] fynd i ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal neu i ysgol annibynnol, cewch awgrymu enw ysgol a dweud pam yr ydych yn meddwl y dylai'r ysgol honno gael ei henwi yn natganiad [enw'r plentyn]. Mae rhestr o'r ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal ac o'r ysgolion annibynnol sydd wedi'u cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i chynnwys i'ch helpu. [Rhaid cynnwys unrhyw restrau o ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal a gyhoeddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyda'r llythyr hwn.] Os ydych am roi enw ysgol i ni yr hoffech i [enw'r plentyn] fynd iddi, rhaid i chi wneud hynny o fewn 15 diwrnod ar ôl cael y llythyr hwn. Ond, os byddwch yn dod i gyfarfod â ni i drafod y newidiadau sydd wedi'u hawgrymu i'r datganiad ar ôl cael y llythyr hwn, bydd gennych 15 diwrnod arall ar ôl y cyfarfod hwnnw i ddweud wrthym. Cewch ddweud wrthym hefyd os ydych yn anghytuno â'r newidiadau i'r datganiad yr ydym yn eu hawgrymu. Os ydych yn anghytuno â'r newidiadau sydd wedi'u hawgrymu, rhaid i chi ddweud hynny hefyd o fewn 15 diwrnod ar ôl cael y llythyr hwn. Pan fydd pob un o'r camau hyn wedi'u gorffen, byddwn yn anfon datganiad diwygedig terfynol atoch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o'r datganiad diwygiedig terfynol, efallai yr hoffech gael cyngor neu gymorth gan y gwasanaeth partneriaeth rhieni lleol. Gallwch gysylltu â nhw yn [rhowch y cyfeiriad cyswllt a'r rhif ffôn yma]. Gallan nhw eich rhoi mewn cysylltiad hefyd â'r trefniadau anffurfiol sydd ar gael i helpu i ddatrys neu i atal unrhyw anghytundebau rhyngoch chi a'r awdurdod. Nid yw defnyddio'r naill wasanaeth neu'r llall yn eich atal rhag apelio at y Tribiwnlys AAA ynghylch rhannau 2, 3 neu 4 o'r Datganiad ar yr un pryd; nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau a gall apêl i'r Tribiwnlys redeg ar yr un pryd ag unrhyw ddatrys anghytundeb. Pan fyddwch yn cael y datganiad diwygiedig terfynol, os ydych yn anghytuno â rhannau 2, 3 neu 4 o'r datganiad, gallwch apelio at y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig. Gall y Tribiwnlys gynnal gwrandawiad i benderfynu ar yr hyn a ddylai gael ei gynnwys yn y rhannau hyn o ddatganiad [enw'r plentyn]. Mae'n rhaid i chi apelio at y Tribiwnlys o fewn dau fis ar ôl cael y datganiad terfynol. Cyfeiriad y Tribiwnlys yw 50 Victoria Street, Llundain SW1H 0HW. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, nawr neu ar unrhyw adeg, am y broses hon neu am y datganiad ei hun, gallwch gysylltu â'n swyddog achos [enw] yn [cyfeiriad a rhif ffôn]. Mae croeso i chi gysylltu. Yn gywir [Llofnod y swyddog cyfrifol] 1. Yn unol ag Adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 ("y Ddeddf"), a Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002, mae'r datganiad canlynol yn cael ei wneud ar [rhowch y dyddiad yma] gan [rhowch enw'r awdurdod yma] ("yr awdurdod addysg") mewn perthynas â [rhowch enw'r plentyn yma] y nodir ei manylion/ei fanylion isod. Plentyn Cyfenw: Enwau Eraill: Cyfeiriad Cartref: Rhyw: Dyddiad Geni: Crefydd: Iaith Gartref: Rhiant y plentyn neu'r person cyfrifol Cyfenw: Enwau Eraill: Cyfeiriad Cartref: Y Berthynas â'r Plentyn: Rhif Ffôn: 2. Wrth asesu anghenion addysgol [enw'r plentyn] o dan Adran 323 o Ddeddf Addysg 1996, yn unol â rheoliad 11 o'r Rheoliadau, cymerodd yr awdurdod y dystiolaeth a'r cyngor a nodir yn Atodiadau A i DD i'r datganiad hwn i ystyriaeth.
(Wrth wneud y datganiad hwn mae'r awdurdod wedi cymryd i ystyriaeth y sylwadau ychwanegol, y dystiolaeth a'r cyngor a nodir yn Atodiad E i'r datganiad hwn). [Nodwch yma anghenion addysgol arbennig y plentyn, yn nhermau anawsterau dysgu y plentyn sy'n galw am ddarpariaeth addysgol arbennig, yn ôl asesiad yr awdurdod.] Amcanion [Yma pennwch yr amcanion y dylai'r ddarpariaeth addysgol arbennig ar gyfer y plentyn anelu at eu bodloni.] Darpariaeth addysgol i fodloni anghenion ac amcanion [Pennwch yma y ddarpariaeth addysgol arbennig sydd ym marn yr awdurdod yn briodol i fodloni'r anghenion a bennwyd yn Rhan 2 ac i fodloni'r amcanion a bennir yn y Rhan hon, ac yn benodol pennwch -
(b) unrhyw addasiadau priodol o ran sut mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael ei gymhwyso, (c) unrhyw eithriadau priodol rhag cymhwyso'r Cwricwlwm Cenedlaethol, yn fanwl, a'r ddarpariaeth y bwriedir ei rhoi yn lle unrhyw eithriadau o'r fath er mwyn cadw at gwricwlwm cytbwys ac eang, ac (ch) os yw'n briodol cael llety preswyl, y ffaith honno.]
Monitro
(b) sefydlu targedau i hyrwyddo'r amcanion hynny, (c) monitro'r targedau y cyfeirir atynt yn (b) yn rheolaidd, (ch) monitro, yn rheolaidd, pa mor briodol yw unrhyw addasiadau o ran sut mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael ei gymhwyso, a (d) monitro, yn rheolaidd, pa mor briodol yw unrhyw ddarpariaeth a roddir yn lle eithriadau rhag cymhwyso'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Pennwch yma hefyd unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer adolygu'r datganiad hwn.] [Pennwch yma -
(b) unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addysg y plentyn heblaw mewn ysgol y mae'r awdurdod yn ei gwneud o dan adran 319 ac yn credu ei bod yn briodol ei phennu.]
[Yma pennwch anghenion anaddysgol y plentyn y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol darparu ar eu cyfer os yw'r plentyn i gael lles priodol o'r ddarpariaeth addysgol arbennig a bennwyd yn Rhan 3.] [Yma pennwch unrhyw ddarpariaeth anaddysgol y mae'r awdurdod yn bwriadu trefnu ei bod ar gael neu y maent wedi'u bodloni y bydd awdurdod iechyd, awdurdod gwasanaethau cymdeithasol neu ryw gorff arall yn trefnu ei bod ar gael, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer ei darparu. Pennwch hefyd yr amcanion ar gyfer y ddarpariaeth, a'r trefniadau ar gyfer monitro'r cynnydd wrth fodloni'r amcanion hynny.] Dyddiad Swyddog o'r awdurdod ag awdurdod priodol Atodiad A: Cyngor Rhiant
[Nodwch yma (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag asesu anghenion addysgol arbennig ac â datganiadau o'r anghenion hynny o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Maent yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 1994, sy'n cael eu diddymu (rheoliad 25). Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol ddirprwyo swyddogaethau o dan y Rheoliadau yn gyffredinol i athro neu athrawes gymwysedig, neu mewn achos penodol, i'r aelod o'r staff sy'n addysgu'r plentyn (rheoliad 3). Mae'r Rheoliadau hefyd yn cydategu'r fframwaith gweithdrefnol ar gyfer gwneud asesiad a datganiad a gynhwysir yn Rhan IV o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlenni 26 a 27 iddi. Gwneir darpariaeth fanwl ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy'r post (rheoliad 5). Mae'r Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i gopïau o hysbysiadau o gynnig awdurdod addysg lleol i wneud asesiad, eu penderfyniad i wneud asesiad neu hysbysiadau o gais rhiant neu gorff cyfrifol am asesiad, gael eu cyflwyno i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdod iechyd a phennaeth ysgol y plentyn neu'r pennaeth AAA os yw'r plentyn yn derbyn addysg feithrin berthnasol (rheoliad 6). Yn ddarostyngedig i eithriadau, maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol gymryd camau gwahanol, gan gynnwys darparu gwybodaeth ragnodedig, wrth wneud asesiad neu ddatganiad o fewn terfynau amser rhagnodedig (rheoliadau 12 a 17 yn y drefn honno). Mae'r Rheoliadau'n darparu bod rhaid i'r awdurdodau addysg lleol, wrth wneud asesiad o anghenion addysgol arbennig plentyn, ofyn am gyngor rhiant y plentyn, cyngor addysgol, cyngor meddygol, cyngor seicolegol, cyngor gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol er mwyn gwneud asesiad boddhaol (rheoliad 7). Os oes cyngor o'r fath wedi'i sicrhau wrth wneud asesiad blaenorol o fewn y 12 mis diwethaf a bod personau penodol yn fodlon ei fod yn ddigonol, nid oes angen sicrhau cyngor newydd (rheoliad 7(5)). Gwneir darpariaeth ynghylch y personau y mae'n rhaid gofyn iddynt roi cyngor addysgol, meddygol a seicolegol (rheoliadau 8 i 10). Wrth wneud asesiad, darperir bod rhaid i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth sylwadau gan y rhiant, tystiolaeth a gyflwynir gan y rhiant, a'r cyngor sydd wedi'i sicrhau (rheoliad 11). Gwneir darpariaeth i blentyn heb ddatganiad a dderbynnir i ysgol arbennig er mwyn cael ei asesu aros yno pan fydd yr asesiad wedi'i gwblhau (rheoliad 13). Mae'r Rheoliadau'n rhagnodi'r drafft hysbysiad sydd i'w gyflwyno i riant ynghyd â datganiad drafft o anghenion addysgol arbennig neu ddatganiad diwygiedig, neu hysbysiad diwygio (rheoliadau 14 a 15 a Rhan A a B o Atodlen 1 yn y drefn honno). Rhagnodir ffurf a chynnwys datganiad hefyd (rheoliad 16 ac Atodlen 2). Gwneir darpariaeth fanwl ynghylch sut mae adolygiad blynyddol o ddatganiad gan awdurdod addysg lleol o dan adran 328 o Ddeddf Addysg 1996 i gael ei gynnal (rheoliadau 18 i 22). Mae'n ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol anfon rhestrau cyfansawdd o ddisgyblion y mae arnynt angen adolygiadau blynyddol at benaethiaid ac at yr awdurdodau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn pob tymor ac at y Gwasanaeth Gyrfaoedd bob blwyddyn (rheoliad 18). Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer adolygiadau os yr adolygiad cyntaf ar ôl i'r plentyn ddechrau ar ei ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad. Mae rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau sicrhau bod datganiadau'n cael eu diwygio erbyn 15 Chwefror yn y flwyddyn y bydd y plentyn yn trosglwyddo rhwng cyfnodau yn ei addysg. Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer trosglwyddo datganiad o un awdurdod addysg lleol i un arall (rheoliad 23). Mae dyletswyddau'r trosglwyddwr yn cael eu trosglwyddo i'r trosglwyddai, ac o fewn chwe wythnos ar ôl y trosglwyddo, rhaid i'r trosglwyddai gyflwyno hysbysiad i'r rhiant yn rhoi gwybod iddo neu iddi am y trosglwyddo, a ydynt yn bwriadu gwneud asesiad, a phryd y maent yn bwriadu adolygu'r datganiad (rheoliad 23(2), (3) a (4)). Pan na fyddai'n ymarferol ei gwneud yn ofynnol i'r trosglwyddai drefnu i'r plentyn fynychu ysgol a bennir yn y datganiad, darperir nad oes angen iddynt wneud hynny, ond y gallant drefnu i'r plentyn fynychu ysgol arall nes ei bod yn bosibl diwygio'r datganiad (rheoliad 23(6)). Ceir cyfyngiadau ar ddatgelu datganiadau a rhaid cymryd camau i atal personau diawdurdod rhag cael eu gweld (rheoliad 24). Gwneir darpariaeth ar gyfer trosi o'r gyfundrefn a osodwyd gan Reoliadau 1994 i'r gyfundrefn a osodir gan y Rheoliadau hyn (rheoliad 26). Yn fras, gall unrhyw gamau a gymerwyd o dan Reoliadau 1994 gael eu cwblhau o dan y rheoliadau hynny. Os oes asesiad wedi'i ddechrau cyn 1 Ebrill 2002, caiff yr awdurdod addysg lleol barhau i wneud yr asesiad o dan Reoliadau 1994. Er hynny, os nad yw'r asesiad wedi'i gwblhau cyn 1 Medi 2002, fe fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r asesiad fel pe bai wedi'i ddechrau odanynt ar y dyddiad hwnnw (rheoliad 26(3)). Notes: [1] 1996 p.56. I gael ystyr "regualtions" gweler adran 579(1) o'r Ddeddf. Mewnosodwyd adrannau 316A(2), 325(2A) a 2(B), 328(3A) a (3B), 329(2A) a 329A(9) gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10), adran 1, paragraff 6 o Atodlen 8, paragraff 7 o Atodlen 8, paragraff 8 o Atodlen 8 ac adran 8 yn y drefn honno. Mewnosodwyd paragraffau 2(3), 2B(3), 6(3), 8(3A), 11(2A) o Atodlen 27 gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, Atodlen 1, paragraffau 3 a 14 ac Atodlen 8, paragraffau 9(2) a 10(2) yn y drefn honnoback [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] 1970 p.42. Mewnosodwyd adran 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 102(3).back [4] 1977 p.49. Fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a Deddf Iechyd 1999 (p.32).back [6] 1973 p.50. Amnewidiwyd adrannau 8, 9 a 10 gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), adran 45.back [10] Pan fydd datganiad wedi'i wneud ar gyfer plentyn, bydd y datganiad hwnnw'n pennu a gaiff y plentyn ei addysgu mewn ysgol arbennig neu mewn man arall.back [11] Mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig 2001 (O.S. 2001/600) yn darparu bod rhaid i apêl gael ei gwneud heb fod yn hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i ddau fis ddod i ben o'r adeg y mae'r awdurdod yn hysbysu'r rhiant o'r hawl i apelio. O dan baragraff 11(5) o Atodlen 27 i Ddeddf Addysg 1996, ni chaiff awdurdod lleol roi'r gorau i gynnal datganiad os oes rhiant wedi apelio yn erbyn dyfarniad yr awdurdod i roi'r gorau i gynnal datganiad ac nad yw'r tribiwnlys wedi dyfarnu ar yr apêl honno neu nad yw wedi'i thynnu'n ôl.back [13] 1986 p.33; diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, paragraffau 16 i 18 o Atodlen 8.back [14] 1989 p.41; mae diwygiad i adran 87(3) yn yr arfaeth yn sgil Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), adran105.back [15] 1996 p.57; diwygiwyd adran 2(8) gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 42 ac Atodlen 6, a diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 3 gan Ddeddf Addysg 1997, adran 42 ac Atodlen 6, paragraff 12.back
ISBN 0 11 090422 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 14 February 2002 |