Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090417 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(2) a (3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2002. (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2002. Diwygio'r Rheoliadau 2. - (1) Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 3, hepgorwch baragraff (a) ac ar ôl paragraff (d), mewnosodwch -
(ii) any borrowing arrangement (including any arrangement, whether by way of lease or otherwise, whose principal purpose is to raise money in respect of such an asset),
insofar as such expenditure is attributable to the supply or maintenance of that asset or to the repayment of principal, interest or other charges on monies lent to the authority in respect of the acquisition or maintenance of it.
(3) Yn rheoliad 7, o flaen "A local education authority", mewnosodwch "(1) Subject to paragraph (2)," ac ar ddiwedd y rheoliad hwnnw mewnosodwch -
(4) Yn rheoliad 19, ym mharagraff (1) yn lle "to take account of", rhowch ", if they so wish, to take account wholly or partly of", ac ar ôl paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw mewnosodwch -
(5) Yn rheoliad 20, yn lle 'B' yn y fformwla a bennir ym mharagraff (2), rhowch -
(6) Yn rheoliad 22, hepgorwch ", less the aggregate of the sum of the budget shares of special schools and any transitional funding determined under regulation 18", a mewnosodwch ar y diwedd -
(7) Ar ôl rheoliad 23 mewnosodwch -
23A. A local education authority may at any time during the financial year redetermine a school's budget share for that financial year in order to correct an error in a determination or redetermination under these Regulations, whether arising from a mistake as to the number of registered pupils at the school or otherwise.".
(8) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, ar ôl "used" mewnosodwch "except where the grant is made to the authority under a condition requiring it to be treated as part of the authority's individual schools budget".
2A. Expenditure in connection with nursery schools.".
(10) Ym mharagraff 14 o'r Atodlen honno, mewnosodwch ar ôl "1989", "and other functions relating to child protection".
(12) Ym mharagraff 28 o'r Atodlen honno ar ôl is-baragraff (b), mewnosodwch -
(13) Yn lle paragraff 28(p) o'r Atodlen honno, rhowch -
(14) Yn lle paragraff 33 o'r Atodlen honno, rhowch -
(b) its size and unavoidability,
it would not be reasonable to expect the governing body to meet from the school's budget share.".
(15) Yn lle paragraff 34 o'r Atodlen honno, rhowch -
(16) Ar ddiwedd y paragraff heb rif ar ddechrau Atodlen 3 mewnosodwch -
(17) Ar ôl paragraff 29 o Atodlen 3, mewnosodwch -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sy'n gymwys i Gymru yn unig erbyn hyn). Mae Rheoliadau 1999 yn rhagnodi'r gwariant sy'n ffurfio "cyllideb ysgolion lleol" awdurdod addysg lleol ac yn pennu pa wariant a all gael ei ddidynnu gan yr awdurdod o'r gyllideb ysgolion lleol er mwyn cyfrifo'u cyllideb ysgolion unigol. Maent yn darparu hefyd ar ba sail y mae'r gyllideb ysgolion unigol i gael ei dosbarthu rhwng yr ysgolion. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol ymdrin, mewn cynllun a baratoir ganddynt, â materion penodedig sy'n gysylltiedig ag ariannu'r ysgolion y maent yn eu cynnal. Mae'r Rheoliadau presennol yn gwneud nifer o newidiadau i Reoliadau 1999. Amlinellir y rhai pwysicaf isod: - 1. Mae Rheoliad 3 yn cael ei ddiwygio fel bod gwariant mewn cysylltiad ag ysgolion meithrin yn cael ei gynnwys yn y gyllideb ysgolion lleol ac fel bod y diffiniad o gostau ariannu cyfalaf nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ysgolion lleol hefyd yn cynnwys yr elfennau ar gyfer ariannu cyfalaf a geir yn nhaliadau'r Fenter Cyllid Preifat (PFI). 2. Mae Rheoliad 7 yn cael ei ddiwygio er mwyn galluogi awdurdod addysg lleol i beidio â dyrannu'r cyfan o'u cyllideb ysgolion unigol ar ffurf cyfrannau o'r gyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ysgol, ac yn hytrach na hynny gadw swm ar gyfer ail-benderfynu neu ar gyfer cywiro gwallau. 3. Mae Rheoliad 19 yn cael ei ddiwygio er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn eu fformwla i ail-benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb ac i ddosbarthu unrhyw falans ar unrhyw swm sy'n cael ei gadw o dan Reoliad 7 i'r ysgolion cyn diwedd y flwyddyn ariannol os yw heb ei ddyrannu. 4. Mae Rheoliad 20 yn cael ei ddiwygio er mwyn i'r cyfrifiad ar gyfer addasu cyfran ysgol o'r gyllideb pan fydd disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol ar neu ar ôl 1 Ebrill yn cynnwys symud o ysgol fabanod i ysgol iau hefyd. 5. Mae Rheoliad 22 yn cael ei ddiwygio er mwyn hepgor o'r gyllideb ysgolion unigol unrhyw ran ohoni a gafodd ei chadw ar y dechrau, at ddibenion cyfrifo'r ffigur o 75% o leiaf o'r cyllid y mae'n rhaid ei seilio ar niferoedd disgyblion. 6. Mae Atodlen 2 (sy'n rhestru'r gwariant cynlluniedig a all gael ei ddidynnu o'r gyllideb ysgolion lleol) yn cael ei diwygio fel a ganlyn:
(ii) mae paragraff 2A newydd yn cael ei fewnosod sy'n galluogi awdurdodau addysg lleol i ddidynnu gwariant mewn cysylltiad ag ysgolion meithrin o'u cyllideb ysgolion lleol; (iii) mae paragraff 19 yn cael ei ddiwygio fel bod awdurdodau addysg lleol yn gallu didynnu o'u gwariant cyllideb ysgolion lleol ar ddarparu safleoedd a chyfleusterau ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau allanol; (iv) mae paragraff 28(c) newydd yn ymdrin â swyddogaethau statudol yr awdurdodau addysg lleol o ran y Gwerth Gorau ac yn eu galluogi i dalu costau rhoi cyngor i'r ysgolion ar faterion y Gwerth Gorau; (v) Mae paragraff 33 yn cael ei ehangu er mwyn cynnwys taliadau i ysgolion sy'n wynebu costau nad oes modd eu hosgoi ac nad yw'n rhesymol disgwyl iddynt eu talu, yn ychwanegol at eitemau gwariant sydd heb eu rhag-weld.
7.
Mae Atodlen 3 (ffactorau neu feini prawf ychwanegol a all gael eu cymryd i ystyriaeth yn fformwla awdurdod addysg lleol ar gyfer dyrannu arian i ysgolion unigol) yn cael ei diwygio er mwyn caniatáu trefniadau trosiannol os bydd awdurdod addysg lleol yn cynnwys ffactorau neu feini prawf newydd yn eu fformwla; ac yn ychwanegu ffactor ar gyfer costau gweinyddu'r gyflogres. Notes: [1] 1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy. 40) a 2001/495 (Cy.22). Yn wreiddiol, yr oedd y rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru a Lloegr, ond cawsant eu dileu mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/478.back
ISBN 0 11090417 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 7 February 2002 |