Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090438 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, ac yn gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 18 February 2002. Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998[3] fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) i (4) isod. (2) Yn lle rheoliad 5 (Pwerau Arolygydd) rhoddir:
5. - (1) The Provisions of this regulation are without prejudice to the circumstances in which an inspector may by virtue of the Order exercise the powers conferred by the Order. (2) On having reasonable grounds for suspecting a contravention or likely contravention of regulation 3, an inspector may, for the purpose of these Regulations, exercise -
(b) the power conferred by article 22(2) of the Order as read with article 24(1) to (3) of the Order, as if a potato originating in Egypt kept on or moved from premises, or likely to be so, were a plant kept on or moved from the premises in contravention of the Order.
(3) On having reasonable grounds for suspecting a contravention or likely contravention of regulation 4, an inspector may, for the purpose of these Regulations, exercise the power conferred by article 22(2) of the Order as read with article 24(1) to (3) of the Order, as if a potato originating in Egypt processed at any premises in breach of these Regulations were a plant kept on or moved from the premises in contravention of the Order.
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 5A (Ffioedd ar gyfer samplu mewnforion tatws) yn lle "a fee of £35," rhoddir "a fee of £37.50,". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2001/664/EC[6] sy'n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC[7] ("y Penderfyniad") sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn perthynas â'r Aifft. Maent yn gwneud hynny drwy ychwanegu at y rhestr o offerynnau sy'n diwygio'r Penderfyniad sydd wedi'i gynnwys yn yr Atodlen i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (O.S. 1998/201) ("y Rheoliadau") (rheoliad 2(4)). Cyfeirir bellach at Pseudomonas solanacearum Smith (Smith) fel Ralstonia solanacearum Smith (Yabuuchi) et al. (gweler Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC (OJ Rhif L235, 21.9.1998, t. 1)) er nad yw'r cyfeiriad ato yn y Penderfyniad wedi'i ddiwygio eto. Mae Penderfyniad 2001/664/EC yn adnewyddu'r fframwaith y gellir mewnforio tatws o'r Aifft odano i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd yn ystod tymor 2001/2002. Mae'r Rheoliadau hyn yn egluro hefyd ar ba sail y gellir defnyddio pwerau arolygwyr o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 mewn perthynas â'r Rheoliadau (rheoliad 2(2)), a chynyddu'r ffi sy'n daladwy gan fewnforwyr y mae samplau wedi'u cymryd o'u tatws er mwyn profi i weld a yw Ralstonia solanacearum Smith (Yabuuchi) et al. yn bresennol (rheoliad 2(3)). Mae'r cynnydd yn y ffi yn adlewyrchu codiad mewn costau labordy ac mae'n gyson â'r cynnydd mewn chwyddiant. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167, O.S. 2000/350 (W.8) ac O.S. 2001/2356 (W.194).back [4] OJ Rhif L233, 31.8.2001, t.49.back [6] OJ Rhif L233, 31.8.2001, t. 49.back [7] Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC, OJ Rhif L115, 9.5.1996, t. 47back
ISBN 0 11090438 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 7 March 2002 |