Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090409 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwer a roddwyd iddo gan adran gan adran 43(6) a (7) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, Cymhwyso a Dehongli 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002. 2. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. 3. Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 ac Atodlenni iddi. Y diwrnodau penodedig 4. Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 21 Ionawr 2002. 5. Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Ebrill 2002. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] John Marek Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol 17 Ionawr 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 yng Nghymru ar 21 Ionawr 2002 er mwyn caniatáu i reoliadau sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig (AAA) gael eu gwneud cyn cychwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf sy'n ymwneud ag AAA. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2002 y darpariaethau eraill yn y Ddeddf sy'n ymwneud ag AAA, gan gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud ag addysgu plant ag AAA yn ysgolion y brif ffrwd, darparu cyngor a gwybodaeth i rieni plant ag AAA, a threfniadau ar gyfer datrys anghydfodau ynghylch materion sy'n ymwneud ag AAA, adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig a diwygio datganiadau AAA. Notes: [1] 2001 c.10.back
ISBN 0 11090409 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 23 January 2002 |