Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090413 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(b), (c), (d), (e) ac (f), (3), 17(1), 19(1)(b), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], a pharagraffau 5(1)(a) a (2)(a) a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], gan roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno; A chan ei fod wedi'i ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[4]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[5]; mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. - (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2002, ac eithrio paragraffau (2), (3), (4) a (5) o reoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Rhagfyr 2002. Diwygiadau i Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 2. - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, caiff Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995[6] eu diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) caiff y diffinaidau canlynol eu mewnosod yn y lle priodol yn yr wyddor -
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (esemptiadau ac eithriad ar gyfer trwyddedau presennol) -
(ii) direct to the final consumer at the local market nearest to the holding where the birds or the rabbits were reared and slaughtered; (iii) direct to retailers for sale direct to the final consumer, provided the retailers make such sales in the same locality as, or in a neighbouring locality to, the holding where the birds or the rabbits were reared and slaughtered; or (iv) at a market (other than a local market) during the period of two weeks which immediately precede Christmas Day and Easter Sunday each year;
(bA) in so far as a producer who annually rears and slaughters under 10,000 rabbits sells fresh rabbit meat derived from rabbits the producer has reared and slaughtered at premises under the producer's control direct to a person who buys the meat for the person's own consumption;"; a
(b) yn is-baragraff (g), mewnosodir "(bA)" cyn "(c)".
(4) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (2) rhoddir y canlynol -
(5) Yn rheoliad 3(3) a (4), yn lle'r gair "slaughterhouse" rhoddir y gair "holding".
(7) Ym mhob un o baragraffau (1) a (2) o reoliad 15 (dogfennau cludo) diddymir yr ymadrodd "Subject to paragraph (3) below".
(b) has a drainage system linked to the waste water pipes which minimises the risk of contamination of meat;".
(11) Ym mharagraff 11(j) o Atodlen 8, yn lle'r gair "producer" rhoddir y gair "occupier".
(ii) from a slaughterhouse licensed as a low throughput slaughterhouse, or cutting premises licensed as low throughput cutting premises, by means of transport designed and equipped in such a way that the temperatures specified in Schedule 12 are maintained throughout transportation;".
Diwygiad Canlyniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 ("Rheoliadau 1995") i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae Rheoliadau diwygio tebyg yn cael eu gwneud ar gyfer Lloegr a'r Alban. Effaith y diwygiadau yw -
(b) gwahardd person rhag gweithredu lladd-dy sydd â thrwybwn isel oni bai ei fod wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd am nifer a tharddiad yr adar a'r cwningod sydd i'w cigydda yno (rheoliad 2(6)); (c) diddymu rheoliad 15(3) (esemptio rhag y gofyniad i anfon dogfennau cludiant gyda chig ffres) a gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 15(1) a (2) (rheoliad 2(7) ac (8)); (ch) diwygio rheoliad 18(1)(a) (dyletswydd meddiannydd i gadw cofnodion) i'w gwneud yn ofynnol i feddiannydd safle trwyddedig gofnodi tarddiad cig sy'n dod i'r safle (rheoliad 2(9)); (d) diwygio gofynion paragraff 5 o Ran I o Atodlen 5 mewn perthynas ag offer oeri mewn lladd-dai trwybwn isel a safleoedd torri trwybwn isel (rheoliad 2(10)); (dd) cywiro gwall ym mharagraff 11 o Atodlen 8 (rheoliad 2(11)); (e) diwygio gofynion paragraff 1(a) o Atodlen 14 i Reoliadau 1995 mewn perthynas â chludo cig ffres adar o ladd-dai trwybwn isel a safleoedd torri trwybwn isel (rheoliad 2(12)).
2.
Daw'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2002 ac eithrio'r rhai ym mharagraffau (2), (3), (4) a (5) o reoliad 2 sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2002.
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC ynghylch problemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i osod ar y farchnad, y ceir ei destun wedi'i gydgrynhoi yn atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1).
4.
Mae Rheoliad 3 (a wneir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Cafodd swyddogaethau "the Secretary of State" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [5] OS 1996/3124, fel y'i diwygiwyd gan OS 1997/3023, OS 1998/994, OS 1999/683, OS 2000/656, OS 2000/1885 (Cy. 131), OS 2000/2257 (Cy.150), OS 2001/1660 (Cy.119), OS 2001/2198 (Cy. 158) ac OS 2001/2219 (Cy. 159)back [6] O.S. 1995/540, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1997/1729, O.S. 2000/656 ac O.S. 2001/2198 (Cy.158).back
ISBN 0 11090413 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 6 February 2002 |