Offerynnau Statudol 2002 Rhif 46 (Cy.5)

      Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090415 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 46 (Cy.5)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'u gwneud 14 Ionawr 2002 
  Yn dod i rym 4 Chwefror 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 4 Chwefror 2002.

Diwygio Rheoliadau
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau "NC tests" (yn y ddau le) ac "NC tasks" rhowch - 

      " "NC tests" and "NC tasks" mean, respectively, National Curriculum tests and National Curriculum tasks administered to pupils in accordance with the statutory arrangements;".

    (3) Yn rheoliad 3(11) hepgorwch "first".

    (4) Yn rheoliad 7(2)(a)(ii) hepgorwch "grant-maintained school, a grant-maintained special school or a".

    (5) Yn Atodlen 1, yn lle is-baragraff (2) o baragraff 1 rhowch - 

      " The results of teacher assessment of the pupil's level in the attainment targets in English entitled 'Speaking and Listening', 'Reading' and 'Writing', and in the attainment targets in Welsh entitled 'Oral (Speaking, Viewing and Listening)', 'Reading' and 'Writing'.".

    (6) Yn Atodlen 2, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 hepgorwch y geiriau o "and by NC tests" i ddiwedd yr is-baragraff hwnnw, a hepgorwch y cyfan o is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.

    (7) Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (1) o baragraff 1 yn lle "Welsh Office" rhowch "National Assembly for Wales".

    (8) Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 yn lle "shown (in every case) both as determined by teacher assessment and by NC tests", rhowch "as determined by teacher assessment", a hepgorwch is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.



Llofndowyd ar ran Cynulliad Cenedlethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Ionawr 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 er mwyn tynnu darpariaethau sy'n ymwneud â phrofion o'r enw "standard task assessments"  -  gweler rheoliad 2(1)  -  (3), (5)  -  (6) ac (8). Arferai'r profion hynny gael eu rhoi i ddisgyblion 7 oed ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond cawsant eu diddymu o 2002 ymlaen  -  gweler Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45 (Cy.4)). Maent hefyd yn dileu cyfeiriad at ysgolion a gynhelir â grant ac ysgolion arbennig a gynhelir â grant (nad ydynt yn bodoli mwyach) ac yn rhoi cyfeiriad at "the National Assembly for Wales" yn lle cyfeiriad at "the Welsh Office"  -  gweler rheoliadau 2(4) a (7).


Notes:

[1] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44) a chan baragraff 106 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31); ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). I gael ystyr "regulations" a "prescribed" gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/573, fel y'i diwygiwyd gan O.S 1997/2709, O.S. 1998/2705, O.S. 1999/1497 ac O.S. 2001/890 (Cy.41).back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090415 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 8 February 2002