Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090399 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132(3) a (4)[1], a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[2] fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[3], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac ni fyddant yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau am grant a wnaed cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym. Diwygiadau 2. Yn y ffurflen (Saesneg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[4]) -
For the purpose of deciding whether someone is a member of your family, "family" means:
(b) a married or unmarried couple and a member of the same household for whom one of them is or both are responsible and who is a child or a young person; (c) a person who is not a member of a married or unmarried couple and a member of the same household for whom that person is responsible and who is a child or young person.
A payment made to the victim of vCJD or the victim's partner or surviving partner is disregarded for that person's lifetime.
3.
Yn y Ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999[6]:
Er mwyn penderfynu a yw rhywun yn aelod o'ch teulu, ystyr "teulu" yw:
(b) pâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae un ohonynt neu'r ddau ohonynt yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc; (c) person nad yw'n aelod o bâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae'r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc.
Mae taliad sydd wedi'i dalu i ddioddefwr vCJD neu i bartner y dioddefwr neu i bartner sydd wedi'i oroesi yn cael ei anwybyddu drwy gydol oes y person hwnnw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio i wneud cais am grant adleoli o dan adrannau 131 i 140 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 (O.S. 1999/2315 fel y'i diwygiwyd). Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 (O.S. 1997/2847 fel y'i diwygiwyd). Mae Rheoliadau Grantiau Adleoli 1997 (O.S. 1997/2764) yn cymhwyso Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) fel y maent yn effeithiol o dro i dro, gyda'r newidiadau sydd wedi'u rhagnodi. Gan hynny, mae diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4007 (Cy.333)) wedi'i gwneud yn angenrheidiol diwygio'r ffurflenni, a'r Rheoliadau hyn sy'n gwneud y diwygiadau angenrheidiol. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â thaliadau arbennig a delir i ddioddefwyr amrywiolyn clefyd Creutzfeldt-Jakob a'u teuluoedd agos. Notes: [1] Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 140(1).back [2] 1996 p.53; gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back [4] O.S. 1997/2847, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/810, 1999/1541, 1999/3469 (Cy. 55), 2000/1710 (Cy. 116) a 2001/2072 (Cy. 144).back [5] Mewnosodwyd cwestiwn 4.34A gan O.S. 2001/780.back [6] O.S. 1999/2315 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/3469 (Cy. 55), 2000/1710 (Cy. 116) a 2001/2072 (Cy. 144).back
ISBN 0 11090399 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 14 January 2002 |