Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090397 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(2) a 4[1] a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[2] fel y'i hymestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[3] yn gwneud y Rheoliadau Canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac ni fyddant yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau am grant a wnaed cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym. Diwygio 2. Yn y ffurflen (Saesneg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996[4]):
For the purpose of deciding whether someone is a member of your family, "family" means:
(b) a married or unmarried couple and a member of the same household for whom one of them is or both are responsible and who is a child or a young person; (c) a person who is not a member of a married or unmarried couple and a member of the same household for whom that person is responsible and who is a child or young person.
A payment made to the victim of vCJD or the victim's partner or surviving partner is disregarded for that person's lifetime.
3.
Yn y ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998[6]:
Er mwyn penderfynu a yw rhywun yn aelod o'ch teulu, ystyr "teulu" yw:
(b) pâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae un ohonynt neu'r ddau ohonynt yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc; (c) person nad yw'n aelod o bâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae'r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc.
Mae taliad sydd wedi'i dalu i ddioddefwr vCJD neu i bartner y dioddefwr neu i bartner sydd wedi'i oroesi yn cael ei anwybyddu drwy gydol oes y person hwnnw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113 fel y'i diwygiwyd). Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996 (O.S. 1996/2891 fel y'i diwygiwyd). Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4007(Cy.333)) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) ac maent yn ymwneud ag unrhyw daliadau o ymddiriedolaeth vCJD a delir i geisydd. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â thaliadau arbennig a delir i ddioddefwyr amrywidyn clefyd Creutzfeldt Jakob a'u teuluoedd agosaf. Notes: [1] Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 101.back [2] 1996 p.53; gweler erthygl 2 o ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [4] O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, 1997/978, 1998/809, 1996/1607, 1999/3470 (Cy.56), 2000/1735(Cy.119) a 2001/2071(Cy.143).back [5] Mewnosodwyd cwestiwn 3.34A gan O.S.2001/2071(Cy.143)back [6] Amnewidiwyd O.S. 1998/1113 gan O.S. 1999/2316, 1999/3470(Cy.56) 2000/1735(Cy.119) a 2001/2071(Cy.143)back
ISBN 0 11090397 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 14 January 2002 |