Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090404 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru, Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn:
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
(b) peidio â chael eu hystyried yn dystiolaeth am gynnwys y mapiau drafft hynny.
(10) Er mwyn sicrhau bod yr holl mapiau drafft y mae'n eu paratoi mor gywir â phosibl, rhaid i'r Cyngor ddefnyddio unrhyw ddata perthnasol sydd ar gael yn rhesymol iddo.
(ii) ym mhencadlys pob awdurdod lleol perthnasol a phob awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol, os o gwbl;
(b) os yw wedi anfon copi o'r map drafft a gynhyrchwyd o dan reoliad 3(8) ar raddfa nad yw'n llai nag 1:25,000, naill ai ar ffurf brintiedig neu, os yw'r Cyngor a'r derbynnydd yn cytuno, ar ffurf electronig, ynghyd â hysbysiad sy'n cynnwys yr un wybodaeth ag y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi o dan is-baragraff (c) o'r paragraff hwn, i bob un o'r cyrff a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn ac i unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol;
(2) Rhaid i hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion y paragraff hwn:
(b) datgan mai effaith y map drafft, os yw wedi'i gadarnhau, fydd pennu dros faint o'r tir y bydd y cyhoedd, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r cyfyngiadau y mae'r Ddeddf yn darparu ar eu cyfer, yn cael hawl i fynd arno o dan adran 2 o'r Ddeddf pan ddaw'r adran honno i rym; (c) datgan na fydd cadarnhau'r map drafft yn rhagfarnu hawl unrhyw berson y mae ganddo fuddiant mewn tir sydd wedi'i gynnwys yn y tir a ddangosir ar y map drafft fel tir adran 4(2) i apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn y cadarnhad hwnnw yn erbyn cynnwys y tir hwnnw; (ch) rhoi manylion ynghylch y modd y gall aelodau o'r cyhoedd archwilio copi o'r map drafft; (d) rhoi manylion ynghylch y modd y gall aelodau o'r cyhoedd gyflwyno sylwadau i'r Cyngor ynglyn â dangos, neu fethu â dangos, unrhyw ddarn o dir ar y map drafft fel tir agored fel y diffinnir "open country" yn y Ddeddf, neu fel tir comin cofrestredig ac esbonio na fydd rhaid i'r Cyngor ystyried y sylwadau hynny ond os ydynt yn dod i law'r Cyngor o fewn y cyfnod ymgynghori ac y dylai unrhyw berson sy'n cyflwyno sylwadau o'r fath gadw mewn cof y gellir cyhoeddi cynnwys y sylwadau hynny; (dd) datgan y gall unrhyw berson y mae ganddo fuddiant mewn unrhyw dir a ddangosir ar y map drafft fel tir adran 4(2), drwy gais ysgrifenedig sy'n dod i law cyn diwedd y cyfnod ymgynghori, ac sy'n nodi natur y buddiant hwnnw a'r tir y mae'n ymwneud ag ef, ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddarparu i'r person hwnnw yn rhad ac am ddim un copi a gynhyrchwyd o dan reoliad 3(8) o'r map drafft neu ddarn o'r map drafft sy'n ymwneud â'r tir hwnnw, a bod rhaid i'r copi hwnnw fod ar ffurf brintiedig neu, os yw'r Cyngor a'r person hwnnw yn cytuno, ar ffurf electronig; (e) datgan y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw gais o dan is-baragraff (dd) ato; (f) pennu'r cyfnod ymgynghori, sef cyfnod nad yw'n llai na thri mis o'r dyddiad y cyhoeddir gyntaf hysbysiad sy'n cydymffurfio â'r paragraff hwn; ac (ff) peidio â'i gyhoeddi gyntaf yn gynharach na'r dyddiad y mae'r Cyngor wedi cydymffurfio, mewn perthynas â'r map drafft y mae'r hysbysiad yn ymweud ag ef, â holl ofynion paragraffau (1)(a) ac (1)(b).
(3) Gall unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (1)(c) neu sy'n cael ei anfon yn unol â pharagraff (1)(ch), yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys o dan baragraff (2), gynnwys unrhyw wybodaeth bellach y gwêl y Cyngor yn dda.
(b) tynnu sylw'r rhai y mae'n ymddangos bod ganddynt fuddiant mewn tir a ddangosir fel tir adran 4(2) ar fap drafft, drwy ba ddull bynnag sy'n briodol, y ffaith bod y map hwnnw wedi'i ddyroddi ac ym mhle y gellir ei archwilio.
(2) Ni fydd y ddyletswydd sy'n cael ei gosod o dan baragraff (1) yn rhagfarnu dyletswyddau'r Cyngor o dan reoliad 4 ond ni fydd unrhyw fethiant ar ran y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) mewn perthynas â map drafft yn annilysu dyroddi'r map drafft hwnnw gan y Cyngor neu unrhyw gamau eraill y mae'n ofynnol i'r Cyngor eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.
(b) yn dwyn enw, cyfeiriad a chod post y person sy'n cyflwyno'r sylw; (c) yn cynnwys manylion digonol am y tir y mae'n ymwneud ag ef er mwyn ei gwneud yn bosibl adnabod y tir hwnnw; (ch) yn cynnwys unrhyw fanylion i alluogi'r Cyngor i ddeall unrhyw addasiad y mae'r person sy'n cyflwyno'r sylw yn cynnig y dylid ei wneud i'r map drafft; a (d) os yw'n cael ei wneud gan berson sy'n honni fod ganddo fuddiant yn y tir y mae'n ymwneud ag ef, yn nodi natur y buddiant hwnnw.
(3) Heb ragfarnu paragraff (4), gall y Cyngor, os yw'n cael unrhyw sylw nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) am ei fod wedi hepgor gwybodaeth benodol, ofyn i'r person a gyflwynodd y sylw ddarparu unrhyw wybodaeth a hepgorwyd o fewn unrhyw gyfnod pellach y mae'r Cyngor yn ei ganiatáu a rhaid i'r Cyngor, os yw'r wybodaeth honno yn cael ei darparu o fewn y cyfnod hwnnw, ystyried y sylw hwnnw.
(b) paratoi datganiad ysgrifenedig sy'n nodi'r addasiadau hynny ac yn ymgorffori datganiad cryno o'r rhesymau dros eu gwneud; ac (c) nodi ar y map sy'n cael ei baratoi yn unol ag is-baragraff (a) o'r paragraff hwn ac ar unrhyw gopi o'r map hwnnw y ffaith mai hwnnw sy'n cynrychioli'r map drafft fel y'i cadarnhawyd gydag addasiadau.
(4) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at gadarnhau map yn gyfeiriadau at ei gadarnhau yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf. Y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth Cyngor Mynydda Prydain Cyndeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Yr Asiantaeth Cefn Gwlad (os oes gan dir sydd wedi'i gynnwys mewn map drafft ffin â Lloegr) Undeb Amaethwyr Cymru Y Comisiwn Goedwigaeth Fforymau mynediad lleol perthnasol Y Weinyddiaeth Amddiffyn Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Cymru Awdurdodau parciau cenedlaethol perthansol Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru Cymdeithas y Mannau Agored Cymdeithas y Crwydwyr Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned yng Nghymru y mae'r ardal y maent yn gyfrifol amdani yn cynnwys tir sydd wedi'i gynnwys mewn map drafft Awdurodau lleol perthansol Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, neu Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, neu Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent, neu Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (os ydyw'r ardal y mae'r Ymddiriedolaeth Archaeolegol honno yn gyfrifol amdani yn cynnwys tir sydd wedi'i gynnwys mewn map drafft) Aberdâr Aberystwyth Bangor Y Barri Coed-duon Aberhonddu Pen-y-bont ar Ogwr Bryn-mawr Caernarfon Caerdydd Canolog Aberteifi Caerfyrddin Cas-gwent Bae Colwyn Cwmbrân Dolgellau Sir y Fflint Grangetown Hwlffordd Llandrindod Llandudno Llanelli Llangefni Llanrwst Maesteg Merthyr Tudful Castell-nedd Casnewydd Canolog Y Drenewydd Doc Penfro Penarth Pontypridd Port Talbot Pwllheli Rhuthun Rhymni Y Rhyl Dwyrain Abertawe Treorci Wrecsam (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan adran 11 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf"), gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu drwy reoliadau y gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth baratoi mapiau, yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf, ac a fydd yn dangos pob tir agored (fel y diffinnir y term cyfatebol Saesneg 'open country' gan y Ddeddf) a phob tir comin cofrestredig yng Nghymru. Mae hawl y cyhoedd i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf yn cael ei diffinio drwy gyfeirio at y mathau hyn o dir, yn ddarostyngedig i eithriadau ac ychwanegiadau penodol a nodir yn y Ddeddf. Mae Rheoliad 3 yn nodi'r gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer paratoi mapiau drafft gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ("y Cyngor") o dan Ran 1 o'r Ddeddf, gan gynnwys darparu ynghylch ffurf a graddfa mapiau drafft nad ydynt i fod ar raddfa sy'n llai nag 1:10,000 (neu, os nad yw'n bosibl sicrhau'r raddfa honno drwy ddefnyddio'r dechnoleg mapiau sylfaen sydd ar gael yn rhesymol i'r Cyngor, y raddfa fwyaf sy'n ymarferol drwy ddefnyddio'r dechnoleg sylfaen mapiau honno) ond sy'n darparu pŵer i gopïau gael eu paratoi a'u cyhoeddi ar raddfeydd gwahanol, os yw'n briodol. Mae Rheoliad 3(3) yn ei gwneud yn ofynnol bod mapiau neu fapiau mewnosod ar raddfa fwy yn cael eu paratoi os yw'n angenrheidiol neu'n ddymunol gwneud hynny er mwyn ddangos ffin tir adran 4(2) yn gywir. Mae Rheoliad 3(5) yn ei gwneud yn ofynnol bod mapiau drafft (gan gynnwys mapiau mewnosod) yn cael eu paratoi ar ffurf electronig ac eithrio os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny Mae Rheoliad 4 yn sefydlu'r gweithdrefnau ar gyfer dyroddi a chyhoeddi map drafft ar ôl iddo gael ei baratoi. Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi cyhoeddusrwydd ynghylch darpariaethau mapiau drafft yn gyffredinol. Mae Rheoliad 6 yn sefydlu'r gweithdrefnau ynghylch ymgynghori ynglyn â mapiau drafft sydd wedi'u dyroddi. Mae Rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cadarnhau mapiau drafft, boed hynny gydag addasiadau neu beidio. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â dyroddi mapiau drafft sydd wedi'u cadarnhau a'u dyroddi ar ffurf dros dro o dan adran 5(d) neu (e) o'r Deddf nac yn ymwneud â'r hawl i apelio yn erbyn y mapiau drafft sydd wedi'u cadarnhau a'u dyroddi felly, nac ynghylch dyroddi mapiau ar eu ffurf derfynol. Bydd y gweithdrefnau ar gyfer hyn oll yn destun Rheoliadau pellach. Notes: [1] 2000 p.37. Mae'r cyfeiriad yn adran 11 at reoliadau yn golygu, mewn perthynas â Chymru, reoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler diffiniad "regulations" yn adran 45(2)).back
ISBN 0 11090404 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 22 January 2002 |