Offerynnau Statudol 2001 Rhif 4000 (Cy.328)

      Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090410 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 4000 (Cy.328)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 13 Rhagfyr 2001 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a (3) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.

    (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992
    
2. Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau")[2] yn cael eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     3. Mae rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn - 

    (a) mae'r diffiniad o "general anaesthesia list" yn cael ei hepgor;

    (b) yn y diffiniad o "treatment" mae'r geiriau "general anaesthesia and" yn cael eu dileu.

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
    
4. Mae rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (rhestr ddeintyddol) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn - 

Diwygio rheoliad 5D o'r prif Reoliadau
    
5. Mae rheoliad 5D o'r prif Reoliadau (rhestr anaesthesia gyffredinol) yn cael ei hepgor.

Diwygio rheoliad 5E o'r prif Reoliadau
    
6. Mae rheoliad 5E o'r prif Reoliadau (dileu cofnodion o'r rhestr anaesthesia gyffredinol neu ei diwygio) yn cael ei hepgor.

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
    
7.  - (1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth deintyddion) yn cael ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff 4(3)(g) (trefniant gofal parhaus) mae'r geiriau "general anaesthesia or" yn cael eu dileu.

    (3) Ym mharagraff 16 (3)(c) (cymysgu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a thriniaeth gofal preifat) mae'r geiriau " in which case the treatment shall be provided wholly under general dental services or wholly privately" yn cael eu dileu.

    (4) Mae paragraff 17 (triniaeth achlysurol) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn - 

    (5) Yn lle paragraff 21 (anaesthesia gyffredinol a thawelyddu) rhoddir - 

    (6) Mae paragraff 33A (adeiladau: anaesthesia gyffredinol) yn cael ei hepgor.

    (7) Mae paragraff 40 (anaesthetigau cyffredinol) yn cael ei hepgor.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn rhoi diwedd ar ddarparu triniaeth o dan anaesthesia gyffredinol o dan wasanaethau deintyddol cyffredinol.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 5(2) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995") adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 6(e).
Amnewidiwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24.
Rhifwyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), ac Atodlen 2, paragraff 4 iddi; gan Ddeddf 1990, adran 24(2) a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 25(a).
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.
back

[2] O.S.1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1993/2209, 1995/3092, 1996/704, 1998/1648, 2000/3118 (C.197), 2001/1359 (Cy.87), 2133 (Cy.148) a 2706 (Cy.226).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090410 9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 24 January 2002