Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090400 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], gan roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â'r Ddeddf honno â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau canlynol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Ionawr 2002 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 2. Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliad 3. 3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 95/45/EC", ychwanegir y geiriau "and Directive 2001/50/EC" ar y diwedd[4]. Diwygiadau canlyniadol 4. - (1) Caiff rheoliad 3 o Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000[5] ei hepgor. (2) Yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (3), caiff cyfeiriadau at Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, eu cymryd fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000 a chan y rheoliadau hyn. (3) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn cyfeirio atynt -
(b) Diffiniad "additive" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[7]); (c) Diffiniad "colour" yn Rhan ll o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[8]; (ch) Diffiniad "colour" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[9]); a (d) Diffiniad "the additives Regulations" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996[10].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, sy'n gymwys i Brydain Fawr. Mae rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb 95/45/EC ynghylch purdeb penodol er mwyn ymdrin â'r diwygiad i'r Gyfarwyddeb honno a wnaed gan Gyfarwyddeb 2001/50/EC o ran y manylebau ar gyfer carotenau cymysg a beta-caroten. Mae rheoliad 4 yn diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 yn Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981, Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984, Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996. Nid oes arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i wneud mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Notes: [1] 1990 p.16; diwygiwyd adran 6(4) o'r Ddeddf gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40) a chan baragraff 10(3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) ("Deddf 1999"). Diwygiwyd adran 17(1) gan baragraff 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 (p.28) a diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 ohoni.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1995/3124 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/1799 (Cy. 124)back [4] Cyfeirnod Cyfarwyddeb 2001/50/EC yw OJ Rhif L 190, 12.7.2001, t.14.back [5] O.S. 2000/1799 (Cy. 124)back [6] O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124back [7] O.S. 1984/1566; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.back [8] O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.back [9] O.S. 1995/3187; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [10] O.S. 1996/1499; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.; gweler hefyd O.S. 1999/1136back
ISBN 0 11090400 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 15 January 2002 |