Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090390 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 24(2) (gg) a 54 (3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]. Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Disgrifiad o brofion a thasgau
(b) medrau allweddol cyfathrebu, cymhwyso rhif a thechnoleg gwybodaeth.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan adran 24(2)(gg) o Ddeddf Addysg 1997 (fel y'i cymhwysir at Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan Orchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001) mae gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru ("ACCAC") y swyddogaeth o wneud trefniadau ar gyfer datblygu, gosod neu roi profion sydd i'w sefyll neu dasgau sydd i'w gwneud gyda golwg ar ennill cymwysterau allanol ac sy'n dod o fewn disgrifiad a bennir mewn rheoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn disgrifio'r profion a'r tasgau y caiff ACCAC eu datblygu, eu gosod neu eu rhoi. Mae'r rhain yn brofion a thasgau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, a fydd yn rhan o'r asesiad o gymhwysedd ym medrau sylfaenol llythrennedd a rhifedd ac ym medrau allweddol cyfathrebu, cymhwyso rhif a thechnoleg gwybodaeth. Notes: [1] 1997 p.44. Mewnosodwyd paragraff newydd (gg) sy'n estyn pwerau'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm yn is-adran (2) o adran 24 o'r Ddeddf honno gan is-adran (2) o adran 103 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) ("Deddf 2000"). Diwygiwyd adran 30(2) o Ddeddf 1997 gan adran 103(3) o Ddeddf 2000 i gynnwys cyfeiriad at yr adran 24(2)(gg) newydd yn Neddf 1997, gan ymestyn drwy hynny bwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i roi swyddogaethau'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm i Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Gweler hefyd Orchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 (O.S. 3907/320) sy'n rhoi i ACCAC y swyddogaeth a gynhwysir yn adran 24(2)(gg). I gael ystyr "prescribed" yn adran 24(2)(gg) gweler adran 56(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 150 o Ddeddf 2000.back [3] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.back
ISBN 0 11090390 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 27 December 2001 |