Offerynnau Statudol 2001 Rhif 3811 (Cy.316)

      Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001, ISBN 0 11090377 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 3811 (Cy.316)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

CYLLID

Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001

  Wedi'u gwneud 29 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 74(2) a (3) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    ystyr "y Cynghorau Cyfansoddol" ("the Constituent Councils") yw Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a;

    ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cyrff Ardolli (Cyffredinol) 1992 [3];

    ystyr "y Pwyllgor" ("the Committee") yw Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 [4]; ac

    ystyr "Rhondda Cynon Taf" ("Rhondda Cynon Taff") yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf.

Cymhwyso
     3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r Pwyllgor, i'r Cynghorau Cyfansoddol ac i Rondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2001.

Ardollau a amnewidiwyd
    
4.  - (1) Er gwaethaf rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, awdurdodir y Pwyllgor gan y Rheoliadau hyn i gyflwyno:

erbyn 14 Chwefror 2002 fan bellaf i alluogi'r Pwyllgor, y Cynghorau Cyfansoddol a Rhondda Cynon Taf i gydymffurfio â'r Gorchymyn.

    (2) Os bydd y Pwyllgor yn cyflwyno ardollau newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw symiau a dalwyd iddo mewn perthynas â'r hen ardollau gael eu trin fel petaent wedi'u talu mewn perthynas â'r ardollau newydd.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y per i wneud Rheoliadau mewn perthynas â chyrff ardolli sydd yn cynnwys y Pwyllgor ar gyfer Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 74 a 143 o Ddeddf 1988.

Tynnodd Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 (O.S. Rhif 2001/1338 (Cy.84)) (y Gorchymyn) Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o'r Pwyllgor hwnnw ar 31 Mawrth 2001. Roedd y Pwyllgor ar y dyddiad hwnnw eisioes wedi cyflwyno ardollau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2001-2002.

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gyflwyno ardollau a amnewidiwyd i'w Gynghorau Cyfansoddol ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol honno. Fe fydd yr ardollau newydd hyn yn cymeryd lle'r rhai a gyflwynwyd yn gynharach. Yn achos Rhondda Cynon Taf, fe fydd yr ardoll a amnewidiwyd yn ddim tra bydd y ffigurau ar gyfer y cynghorau eraill yn cael eu haddasu'n unol â'r Gorchymyn.


Notes:

[1] 1988 p.41. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladaol o dan adrannau 74 a 143 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 2001/1338 (Cy. 84).back

[3] O.S. 1992/2903.back

[4] 1966 p.38.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090377 3


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 5 December 2001