Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090373 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 66(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] sydd bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru [2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990[3] ("Rheoliadau 1990") fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 1 (dehongli) -
(b) ar ôl y diffiniad o "bill of exchange" mewnosodir y diffiniad canlynol -
(3) Yn rheoliad 2 (buddsoddiadau wedi'u cymeradwyo) -
(b) Ym mharagraff (d) yn lle'r geiriau "an authorised institution" rhoddir y geiriau "a deposit-taker".
Darpariaeth arbed (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990 yn cynnwys rhestr o fuddsoddiadau sydd wedi'u cymeradwyo at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (sy'n gosod rheolau ar gyfrifon refeniw a chyllid cyfalaf yr awdurdodau lleol). Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau 1990 ar ôl i Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 ddod i rym. Darpariaeth arbed yw rheoliad 4, a'i effaith yw bod buddsoddiadau a oedd yn fuddsoddiadau wedi'u cymeradwyo ar 30 Tachwedd 2001 yn parhau yn fuddsoddiadau wedi'u cymeradwyo at ddibenion Rhan IV. Notes: [1] 1989 p.42.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1990/426; cafodd diwygiad perthnasol ei wneud gan O.S. 1995/1982.back [4] Mewnsodwyd diffiniad "deposit-taker" yn adran 43 gan Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) 2001 (O.S. 2001/3649).back
ISBN 0 11090373 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 29 November 2001 |