Offerynnau Statudol 2001 Rhif 3710 (Cy.306)

      Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090395 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 3710 (Cy.306)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994
    
3.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994[1] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 9(1) o Atodlen 2 (Darparu gwybodaeth) yn lle'r geiriau "the appropriate further education funding council (as defined in section 1(6) of the Further and Higher Education Act 1992)" rhowch y geiriau "the appropriate council (within the meaning of section 61A of the Further and Higher Education Act 1992[2])".

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998
     4.  - (1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 hepgorwch - 

      " "Training and Enterprise Council" means a company limited by guarantee formed for the purpose of entering into, and with whom the Secretary of State has entered into, arrangements under section 2 of the Employment and Training Act 1973 for the purpose of assisting persons to select, train for, and obtain or retain employment."

    (3) Yn lle rheoliad 3(2)(m), rhowch - 

      " (m) the National Council for Education and Training for Wales;".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu Awdurdodau Addysg Lleol) 1998
     5.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu Awdurdodau Addysg Lleol) 1998[4] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 hepgorwch - 

      " "Training and Enterprise Council", in relation to an authority, means every body with whom the Secretary of State has made arrangements under section 2 of the Employment and Training Act 1973 for the purpose of assisting persons who reside in the authority's area to select, train for, obtain or retain employment;"

    (3) Yn lle rheoliad 4(d) rhowch - 

      " (d) the National Council for Education and Training for Wales;".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998
     6.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998[5] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 5 (Hysbysu Arolygiad) - 

    (a) ym mharagraff (1)(g) yn lle'r geiriau "a further education funding council" rhowch y geiriau "the National Council for Education and Training for Wales";

    (b) ym mharagraff (1)(i) yn lle'r geiriau "the Training and Enterprise Council for the area in which the school is located" rhowch y geiriau "the National Council for Education and Training for Wales".

    (3) Yn rheoliad 6 (Cyfarfod â'r Rhieni) - 

    (a) ym mharagraff (c)(ii) yn lle'r geiriau "a further education funding council" rhowch y geiriau "the National Council for Education and Training for Wales";

    (b) ym mharagraff (d)(iv) yn lle'r geiriau "a further education funding council" rhowch y geiriau "the National Council for Education and Training for Wales".

    (4) Yn rheoliad 8 (Cynlluniau Gweithredu) - 

    (a) ym mharagraff (3)(b) yn lle'r geiriau "the Training and Enterprise Council for the area in which the school is situated" rhowch y geiriau "the National Council for Education and Training for Wales";

    (b) ym mharagraff (3)(c) yn lle'r geiriau "a further education funding council" rhowch y geiriau "the National Council for Education and Training for Wales".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999
     7.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[6] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (Cynnwys a pharhad Cynllun Trefniadaeth yr Ysgol) - 

    (a) ar ôl "section 26(2)(a)" rhowch "and (ab)"[7];

    (b) yn lle "which provides" rhowch "which provide";

    (c) ar ôl "exercise their functions" rhowch "and powers".

    (3) Yn rheoliad 4 (Cyhoeddi'r Cynllun Drafft) yn lle paragraff (1)(a)(viii) rhowch - 

        " (viii) the National Council for Education and Training for Wales;".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999
     8.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999[8] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 7 (Cyrff eraill y dylid anfon cynigion atynt) yn lle paragraff (2)(a) rhowch - 

      " (a) the National Council for Education and Training for Wales, if the proposals affect the provision of education to which section 31(1) of the Learning and Skills Act 2000 applies;".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999
     9.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[9] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 6(9) yn lle'r geiriau "a further education funding council" rhowch y geiriau "the National Council for Education and Training for Wales".

    (3) Hepgorwch baragraff 20 o Atodlen 1 (Gwybodaeth gyffredinol sydd i'w chyhoeddi gan yr awdurdodau, Rhan II - y ddarpariaeth addysgol arbennig) ac yn ei le rhowch y canlynol - 

         " 20. The authority's arrangements and policies for persons with learning difficulties who are over compulsory school age but have not attained the age of nineteen years and who attend any institution outside the higher education sector where the National Council for Education and Training for Wales has secured provision under section 31 of the Learning and Skills Act 2000, in respect of transport to and from those institutions.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2001



YR ATODLEN [11]
     1. Adrannau 347(2), 509(6), 527A(4) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[12].

     2. Adran 21(3)(c) o Ddeddf Arolygu Ysgolion 1996[13] a pharagraff 6 o Atodlen 3 iddi.

     3. Adran 39(3) o Ddeddf Addysg 1997[14]).

     4. Adrannau 26, 31(7) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[15].



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliadau o ganlyniad i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Maent yn disodli cyfeiriadau at Gyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru a Chynghorau Hyfforddi a Menter â chyfeiriadau at Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae rheoliad 8 hefyd yn adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf honno mewn perthynas â chynnwys cynllun trefniadaeth ysgol.

Dyma'r Rheoliadau sy'n cael eu diwygio.

    Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994;

    Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998;

    Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu Awdurdodau Addysg Lleol) 1998;

    Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998;

    Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999;

    Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999;

    Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999.


Notes:

[1] O.S. 1994/651.back

[2] 1992 p.13. Mewnosodwyd adran 61A gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 37.back

[3] O.S. 1998/644.back

[4] O.S. 1998/880.back

[5] O.S. 1998/1866.back

[6] O.S. 1999/499.back

[7] Mewnosodwyd adran 26(2)(ab) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 80.back

[8] O.S. 1999/1780.back

[9] O.S. 1999/1812.back

[10] 1998 p.38.back

[11] Cafodd yr holl bwerau a restrir yn yr Atodlen eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol, a chafodd pob un o'r pwerau hyn mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[12] 1996 p.56. Amnewidiwyd adran 509(6) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 133. Mewnosodwyd adran 527(A) gan Ddeddf Addysg 1997, adran 9.back

[13] 1996 p.57.back

[14] 1997 p.44.back

[15] 1998 p.31. Diwygiwyd adran 26 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 80.back



English version



ISBN 0 11090395 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 9 January 2002