Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090389 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1] a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Cynllun hwn. Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Teitl y Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 7 Rhagfyr 2001 (2) Bydd y Cynllun hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Cynllun hwn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(2) Yn y Cynllun hwn, mae unrhyw gyfeiriad -
(b) at is-baragraff â rhif (heb gyfeiriad cyfatebol at baragraff penodol) yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.
Talu'r grantiau a symiau'r grantiau
(bb) cyfleusterau gwaredu sefydlog ar gyfer slyri ac elifiant silwair, neu (cc) cyfleusterau (heblaw toeon) ar gyfer gwahanu dŵ r glân a dŵ r brwnt, os yw'r cyfleusterau hynny'n lleihau'r angen i storio slyri; neu
(ii) unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei roi mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;
(b) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur gyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf;
(2) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol bod gwariant yr hawlir grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) wedi'i dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.
(b) tuag at unrhyw wariant a dynnir mewn perthynas â busnes amaethyddol sy'n golygu cynyddu ei allu i gynhyrchu.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3 oni bai ei fod wedi'i fodloni y bydd y gwariant y rhoddir y grant tuag ato yn arwain at rywfaint o leiaf o fantais amgylcheddol i'r parth perygl nitradau o dan sylw.
(b) y byddai'r gwaith yr hawlir y grant mewn perthynas ag ef yn rhwystro dibenion cymorth a roddwyd yn flaenorol o arian a ddarparwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd neu'r Gymuned Ewropeaidd; (c) bod y gwariant yr hawlir y grant tuag ato yn ormodol, o roi sylw i holl amgylchiadau'r achos; neu (ch) bod gwneud y gwaith y rhoddir y grant mewn perthynas ag ef eisoes wedi dinistrio neu wedi difrodi harddwch naturiol ac amwynder cefn gwlad i raddau na ellir eu cyfiawnhau ar sail unrhyw fantais amaethyddol a geir yn ei sgil.
(2) Cyn gweithredu o dan is-baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(b) rhoi cyfle i'r person yr effeithir arno ymddangos gerbron person a benodir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael ei wrando ganddo; (c) ystyried adroddiad person a benodir felly a rhoi copi ohono i'r person yr effeithir arno.
Diddymu a darpariaethau trosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun) Mae'r Cynllun hwn yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 dyddiedig 17 Mai 1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ac yn benodol Erthyglau 4 i 7 sy'n ymdrin â buddsoddi mewn daliadau amaethyddol. Mae'r Cynllun hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau mewn perthynas â busnesau amaethyddol sydd wedi'u lleoli yn rhannol o leiaf mewn parthau perygl nitradau, fel y'u diffinnir gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Dŵ r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996. Mae'r cymorth grant ar gael (yn ôl cyfradd o 40%) tuag at wariant (hyd at uchafswm o £85,000) a dynnir gan y busnes amaethyddol rhwng y dyddiad y daeth rhan sylweddol y Cynllun i rym (7 Rhagfyr 2001) a 17 Ebrill 2003 mewn perthynas â chyfleusterau ar gyfer trafod, storio a gwaredu gwastraffoedd fferm penodol a gwahanu dwr glân a dwr brwnt (paragraff 3). Mae nifer o gyfyngiadau ar roi grantiau o dan y Cynllun yn cael eu gosod (paragraff 4). Mae'r Cynllun yn dangos sut mae'r grantiau i gael eu hawlio (paragraff 5) ac yn caniatáu i arian grant gael ei ddal yn ôl o dan amgylchiadau penodol (paragraff 6). Mae Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 1996 yn cael ei ddiddymu. Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Cynllun hwn. Notes: [1] 1970 p.40; gweler adran 28 i gael diffiniad o "the appropriate authority". O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), erthygl 2(a) ac Atodlen 1, cafodd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [2] OS 1996/888 addiwygiwyd gan OS 1997/2971 a 1998/1202.back [3] OS 1991/324 a ddiwygiwyd gan OS 1997/547.back
ISBN 0 11090389 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 27 December 2001 |