Offerynnau Statudol 2001 Rhif 3708 (Cy.304)

      Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090375 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 3708 (Cy.304)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(7) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac adrannau 544 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[2] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad[3].

     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.

    (2) Maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

    
2. Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989[4]) fel a ganlyn  - 

    (a) yn rheoliad 4(1)(a) yn lle'r geiriau ", a special school not so maintained or a grant-maintained school" rhowch y geiriau "or a special school not so maintained"; a

    (b) diddymir rheoliad 8.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989 ("Rheoliadau 1989") mewn perthynas â Chymru.

Diwygir Rheoliad 4 o Reoliadau 1989 er mwyn tynnu'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir â grant (sef categori o ysgol nad yw'n bod mwyach).

Diddymir Rheoliad 8 fel nad oes gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mwyach gymeradwyo darparu tir ac adeiladau newydd sy'n golygu gwaith adeiladu neu newidiadau i dir ac adeiladau presennol mewn ysgol, sefydliad addysg bellach neu uwch neu hostel ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Mae'r diddymiad yn tynnu'r angen am gymeradwyaeth o dan y Rheoliadau yn unig ac nid yr angen am unrhyw gymeradwyaeth neu gydsyniad arall o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Gwnaed diwygiadau tebyg ar gyfer Lloegr gan Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/692).


Notes:

[1] 1988 p.40. Diwygiwyd adran 218(7) gan Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 38, Rhan I. Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14(4) o Ddeddf Addysg 1994 (p.30).back

[2] 1996 p. 56; diwygiwyd adran 544 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), Atodlen 30, paragraff 160. I gael y diffiniad o "regulations" gweler adran 579(1).back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] (ch) O.S. 1989/351, fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2001/692. Mae'r Rheoliadau yn parhau i fod yn effeithiol (mewn perthynas â Chymru) yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 39 i Ddeddf Addysg 1996.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090375 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 3 December 2001