Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001, ISBN 0 11090388 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001. Diddymu Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 2. Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 drwy hyn wedi'i ddiddymu[3]. Diwygio Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 3. - (1) I'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, caiff Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997[4]) ei ddiwygio yn unol â pharagraffau canlynol y Rheoliad hwn. (2) Ym mharagraff (1) o erthygl 2 (dehongli) -
(b) mewnosodir y diffiniad canlynol ar y diwedd -
(3) Mewnosodir y paragraff canlynol ar ddiwedd erthygl 2 -
(4) Ym mharagraff (1) o erthygl 3 (deunydd defaid a geifr penodedig), mewnosodir yr ymadrodd "(subject to paragraph (2) below)" cyn yr ymadrodd "specified sheep or goat material".
(3) The countries are -
Australia Brazil Botswana Chile Costa Rica Namibia New Zealand Nicaragua Paraguay Singapore Swaziland and Uruguay.".
(6) Mae'r paragraff canlynol yn cael ei roi yn lle paragraff (1) o erthygl 4 (deunydd buchol penodedig) -
(b) the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or died in the United Kingdom or Portugal when it was aged over 6 months -
(ii) the thymus, (iii) the spleen, (iv) the spinal cord, and (v) (subject to paragraph (4) below) in the case of such an animal which was slaughtered or died when it was aged over 12 months, the vertebral column; and
(c) (subject to paragraph (3) below) the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or died elsewhere than in Portugal or the United Kingdom when it was aged over 12 months -
(ii) the tonsils, (iii) the spinal cord, and (iv) (subject to paragraph (5) below) the vertebral column.".
(7) Mae'r paragraff canlynol yn cael ei roi yn lle paragraff (2) o erthygl 4 -
(8) Ychwanegir y paragraffau canlynol ar ddiwedd erthygl 4 -
(4) Notwithstanding paragraph (1)(b)(v) above, the vertebral column of -
(b) a beef assurance scheme animal, shall not be regarded as specified bovine material for the purpose of this Order.
(5) Notwithstanding paragraph (1)(c)(iv) above, the vertebral column of a bovine animal born, continuously reared and slaughtered in Austria, Finland or Sweden shall not be regarded as specified bovine material for the purposes of this Order.
(9) Yn erthygl 6 -
(b) mewnosodir y paragraff canlynol ar ôl paragraff (3) -
(b) not less than 72 hours before a person intends to import the carcase, that person has given notice of the intended import to the director of the Meat Hygiene service of the Food Standards Agency for the region of that Service in which the premises are situated (or, if there is no such director, the officer of the Food Standards Agency responsible for the exercise of similar functions)."
(10) Yn Atodlen 2 (ffurf tystysgrif fewnforio) yn lle'r datganiad rhoddir y datganiad canlynol -
*Either: This product does not contain and is not derived from specified risk material as defined in Annex I, point 1(a) of Decision 2000/418/EC, produced after 31 March 2001, or mechanically recovered meat obtained from the bones of bovine, ovine or caprine animals, produced after 31 March 2001. The animals have not been slaughtered, after 31 March 2001, after stunning by means of a gas injected into the cranial cavity or killed instantaneously by the same method, or slaughtered after laceration, after stunning, of central nervous tissue by means of an elongated rod-shaped instrument introduced into the cranial cavity. *Or: This product does not contain and is not derived from bovine, ovine or caprine materials other than those derived from animals born, reared and slaughtered in the following countries: -
Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu'r rhan honno o Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 (OS 2001/2732, Cy.231), a oedd yn honni gwneud diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964), ond a oedd yn cynnwys gwallau drafftio. Yr oedd y diwygiadau a wnaed i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) gan Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 wedi'u gwneud yn ddilys ac nid ydynt yn cael eu diddymu gan y Rheoliadau hyn. Diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964, fel y'i diwygiwyd eisoes) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. Mae Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 ("y prif Orchymyn") yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. 3. Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i'r prif Orchymyn yn adlewyrchu darpariaethau Atodiad (XI) i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1). Gosododd yr Atodiad hwnnw fesurau trosiannol mewn perthynas â thynnu deunydd risg penodedig ac fe'i mewnosodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 gan Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1326/2001 (OJ Rhif L177, 30.6.2001, t.60). 4. Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mae diffiniad o "vertebral column" yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd paragraff 1 a pharagraff 5 newydd yn cael ei ychwanegu (rheoliad 3(2) a (3)). 5. Mae erthygl 3 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio "specified sheep and goat material") yn cael ei diwygio i hepgor o'r diffiniad ddeunydd sy'n deillio o ddefaid a geifr a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd (rheoliad 3(4) a (5)). 6. Mae erthygl 4 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio "specified bovine material") yn cael ei ddiwygio'n sylweddol fel bod, yn benodol, deunydd sy'n deillio o anifeiliaid buchol a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd bellach y tu allan i gwmpas y diffiniad (rheoliad 3(6) i (8)); 7. Mae erthygl 6 o'r prif Orchymyn (sy'n rheoli mewnforio deunydd risg penodedig) yn cael ei diwygio i osod gofynion newydd ynghylch mewnforio carcasau anifeiliaid buchol sy'n cynnwys esgyrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig, ac mae ffurf newydd ar dystysgrif fewnforio yn cael ei rhoi yn lle'r hen un yn Atodlen 2 (rheoliad 3(9) a (10)). Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 8. Mae mân ddiwygiadau yn cael eu gwneud i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) i newid cyfeiriadau anghywir at "the Minister" i "the National Assembly for Wales". 9. Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] OS 1999/2788.back [3] OS 2001/2732 (Cy. 231).back [4] OS 1997/2964, a ddiwygiwyd gan OS 2000/2811 ac OS 2000/3387 (Cy.224).back [5] OS 1997/2965, fel y'i diwygiwyd gan OS 1997/3062, OS 1998/2405 (a ddiwygiwyd ei hun gan OS 1997/2431), OS 1999/539, OS 2000/656, OS 2000/2659 (Cy.172), OS 2000/3387 (Cy.224) ac OS 2000/1973.back
ISBN 0 11090388 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 21 December 2001 |