Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090357 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 34(5) a 62(1) i (3) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol [2]drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym -
(b) yn achos rheoliad 10, ar 1 Rhagfyr 2001; ac (c) yn achos rheoliad 11, ar 1 Mai 2002.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(b) yn y diffiniad o "the approved supply list"[4], for "(3rd Edition)" rhowch "(Sixth edition)", ac yn lle "24th January 1996" rhowch "15th August 2000".
Nodiadau traddodi: achosion pan nad oes angen rhaghysbysu
Nodiadau traddodi: cylchdeithiau'r cludwr
(b) ym mharagraff (2)(a)(ii), hepgorwch "motor vehicle".
Nodiadau traddodi: dyletswydd traddodai nad yw'n derbyn llwyth sy'n cael ei gyflenwi
10A: - (1) This regulation applies where, in accordance with regulation 10(6)(c), a consignor proposes that a consignment be delivered to other specified premises in respect of which there is held any waste management licence necessary to authorise receipt of the waste. (2) Before the consignment is delivered to those premises -
(ii) to each copy shall be attached a copy of any relevant previous carrier's schedule, annotated to show which consignment was not accepted;
(b) the carrier shall complete Part C on each of those copies;
(ii) shall retain one copy (on which Parts A to D have been completed and the relevant codes entered); and (iii) shall give the three remaining copies (on which Parts A to D have been completed and the relevant codes entered) to the carrier.
(3) The carrier may, where he has received written instructions from the consignor to that effect, complete Part D of each of the copies of the consignment note on behalf of the consignor, and where he does so he shall send to the consignor the consignor's copy (on which Parts A to D have been completed and the relevant codes entered).
(b) are given to the consignee on delivery of the consignment.
(5) Subject to regulation 10, on receiving the consignment the consignee shall -
(b) retain one copy; (c) give one copy to the carrier; and (d) forthwith furnish one copy to the Agency for the place to which the consignment has been transported.
(6) The carrier shall retain the copy of the consignment note given to him by the consignee."
Ffioedd
(b) hepgorwch baragraff (2)(a)(i); ac
Ffurf ar nodyn traddodi
(b) yn Rhan C, yn lle "(name & address)" rhowch "(name, address & postcode)"; ac (c) yn Rhan E, rhwng "this waste" ac "on", ac ar ôl "the waste described in B", mewnosodwch "at the address given in A2".
Atodlen y cludwr (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996 [O.S. 1996/972] ("y Prif Reoliadau") mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriadau yn rheoliad 1 o'r Prif Reoliadau at yr argraffiadau presennol o'r arweiniad i'r dulliau dosbarthu a labelu a gymeradwywyd a'r rhestr gyflenwi a gymeradwywyd o dan Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 1994. Cafodd Rheoliadau 1994 eu diwygio'n fwyaf diweddar gan Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) (Diwygio) 2000 [O.S. 2000/2381] a gellir cael copïau o'r (Pedwerydd) argraffiad newydd o'r arweiniad i ddulliau labelu a gymadwywyd a'r (Chweched) argraffiad newydd o'r rhestr gyflenwi a gymeradwywyd oddi wrth HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 2WA. Mae Rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6(1) o'r Prif Reoliadau drwy ddileu'r cyfyngiad ynghylch batris "cerbydau modur" mewn perthynas â llwythi batris asid plwm nad oes angen rhaghysbysiad ar eu cyfer. Yn achos ail draddodi a thraddodi dilynol mewn cyfres o draddodiadau mae Rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau fel bod rhaid rhoi'r cod sy'n dynodi'r traddodi cyntaf yn y gyfres honno ar y nodyn traddodi yn ychwanegol at y cod perthnasol ar gyfer y traddodi o dan sylw. Mae Rheoliad 6(a) yn diwygio rheoliad 8(1)(d) o'r Prif Reoliadau drwy estyn o 24 awr i 72 awr yr amser y mae'n rhaid i gylchdaith cludwr gael ei chwblhau ynddo. Mae Rheoliad 6(b) yn dileu'r cyfyngiad ynghylch batris "cerbydau modur" o'r eithriad ynghylch llwythau batris asid plwm yn rheoliad 8(2)(ii) o'r Prif Reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cludwr ddarparu copi o'r nodyn traddodi i'r Asiantaeth cyn symud y gwastraff cyntaf ar y gylchdaith. Mae Rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 10(3)(c) o'r Prif Reoliadau i'w gwneud yn ofynnol, pan fydd traddodai sy'n gwrthod cyflenwad wedi cael nodyn traddodi, bod y copi o unrhyw atodlen gludwr y mae'n ei anfon ymlaen at Asiantaeth yr Amgylchedd ("yr Asiantaeth") ar gyfer y cyrchnod newydd yn cael ei anodi i ddangos pa rai oedd y llwythi na chawsant eu derbyn. Mae rheoliad 8 yn mewnosod rheoliad 10A newydd. Mae rheoliad 10A yn darparu bod rhaid paratoi nodyn traddodi newydd os yw llwyth yn cael ei wrthod gan y traddodai ac yn cael ei ailgyfeirio at safle heblaw'r un y cafodd ei gasglu ohono neu lle'r oedd wedi'i gynhyrchu ac yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer y nodyn traddodi newydd. Mae'n caniatáu hefyd i gludwr lofnodi Rhan D o'r nodyn traddodi os oes ganddo ganiatâd ysgrifenedig gan y traddodwr. Mae rheoliad 9(a) yn diwygio rheoliad 14(1) o'r Prif Reoliadau fel bod ffioedd yn cael eu pennu gan yr Asiantaeth mewn cynllun codi tâl o dan adran 41 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, yn hytrach na chan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae rheoliad 9(b) yn diwygio rheoliad 14(2)(a) drwy ddileu'r amod cyntaf ar gyfer esemptio ail gylchdaith cludwr neu gylchdaith ddilynol mewn cyfres o gylchdeithiau rhag taliad o ffi ar gyfer neilltuo cod (sef mai'r cludwr yw'r traddodai hefyd mewn perthynas â phob traddodi ym mhob un o'r cylchdeithiau). Mae rheoliad 9(c) yn diwygio'r amodau yn rheoliad 14(2)(a)(iii) o'r Prif Reoliadau drwy ei gwneud yn glir bod cyfanswm y terfyn pwysau o 400kg yn gymwys i bob cylchdaith yn y gyfres. Mae rheoliad 10 yn gwneud mân ddiwygiadau i'r ffurf ragnodedig ar nodyn traddodi yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau. Mae Rheoliad 11 yn rhoi ffurf ragnodedig newydd o atodlen cludwr yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau. Cod post cyfeiriad y tarddle, yr amser y llofnododd y cludwr, a disgrifiad o'r gwastraff sy'n cael ei symud yw'r wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen. Notes: [1] 1990 p.43; diwygiwyd adran 62 gan baragraff 80 o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gall yr Ysgrifennydd Gwladol arfer y pwerau hyn a'r rhai sy'n dod o dan Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 ("Deddf 1974") mewn perthynas â Lloegr yn unig; gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a'r cofnodion sy'n ymwneud â Deddf 1974 a Deddf Diogelu'r Amgylchedd yn Atodlen 1 iddo ac adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46).back [2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back [3] O.S. 1996/972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2019 a 1997/251.back [4] Diwygiwyd y diffiniad o "approved supply list" gan baragraff 2 i'r Atodlen i O.S. 1996/2019.back
ISBN 0 11090357 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 7 November 2001 |