Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001, ISBN 0 11090363 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(1) a (2), 3(1), (2) a (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1], fel y'i darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972[2], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001, bydd yn gymwys i Gymru, a daw i rym ar 30 Hydref 2001. Dehongli 2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -
(2) Mae cyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn oni ddywedir fel arall.
(b) y man arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru; (c) y defnydd arfaethedig ar y tatws; (ch) yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan arfaethedig y tatws; (d) rhywogaeth y tatws; (dd) y maint o datws; ac (e) rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
(2) Rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd datws Almaenaidd i Gymru ar ôl 30 Medi 2001 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 23 Tachwedd 2001 fan bellaf -
(b) y man lle doed â hwy i mewn i Gymru; (c) y defnydd arfaethedig ar y tatws; (ch) yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan neu gyrchfan arfaethedig y tatws; (d) rhywogaeth y tatws; (dd) y maint o datws; ac (e) rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr "prosesu" ("processing") yw unrhyw driniaeth ddiwydiannol, gan gynnwys graddio, didoli, golchi a phacio, p'un ai gyfer manwerthu neu beidio.
er sy'n cael ei roi gan erthygl 22(1) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten Almaenaidd yn blanhigyn a oedd wedi'i lanio neu'n debygol o gael ei lanio yn groes i'r prif Orchymyn; a(b) y p er a roddwyd gan erthygl 22(2) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten Almaenaidd a oedd yn cael ei chadw ar safle neu'n cael ei symud ohono, neu a oedd yn debyg o gael ei chadw neu ei symud, yn blanhigyn a oedd yn cael ei gadw neu'n cael ei symud o'r safle yn groes i'r prif Orchymyn.
(3) Gall arolygydd, at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, arfer y pwerau sy'n cael eu rhoi gan erthygl 25(1)(a) i (c) a 25(2) o'r prif Orchymyn, fel petai'n gwirio cydymffurfedd â'r prif Orchymyn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gosod gofynion penodol ynghylch hysbysu ar bersonau sy'n mewnforio tatws o'r Almaen, sydd wedi'u tyfu yn ystod 2001 neu'n ddiweddarach. Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i fewnforwyr sy'n dod â thatws o'r fath i mewn i Gymru ar 30 Hydref 2001 neu ar ôl hynny hysbysu arolygydd sydd wedi'i awdurdodi o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("y prif Orchymyn") yn ysgrifenedig o leiaf ddau ddiwrnod ymlaen llaw, gan roi manylion penodol ynghylch, ymhlith pethau eraill, glanio'r tatws a'r ffordd y bwriedir eu defnyddio (erthygl 3(1)). Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i fewnforwyr tatws Almaenaidd, a gyrhaeddodd Gymru rhwng 1 Hydref 2001 a'r dyddiad y mae'r Gorchymyn yn dod i rym, sef ar 30 Hydref 2001, roi gwybodaeth benodol debyg i arolygydd erbyn 23 Tachwedd fan bellaf (erthygl 3(2)). Mae'r Gorchymyn yn darparu bod arolygydd y mae ganddo seiliau rhesymol dros amau bod darpariaethau'r Gorchymyn wedi'u torri yn gallu arfer mewn perthynas â thatws Almaenaidd bwerau gorfodi penodol sy'n cael eu rhoi gan erthygl 22 o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r Gorchymyn hwnnw (erthygl 4(2)). Gall arolygydd sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn arfer pwerau hefyd i wirio cydymffurfedd (drwy archwilio, samplu a marcio eiddo a/neu safleoedd) sy'n cael eu rhoi gan erthygl 25, heblaw erthygl 25(1)(d), o'r prif Orchymyn (erthygl 4(3)). Mae i unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyflwyno neu unrhyw b er sy'n cael ei arfer o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, os yw'r p er i wneud hynny yn cael ei roi gan y prif Orchymyn, yr un effaith â phetai wedi'i gyflwyno neu wedi'i arfer o dan yr erthygl berthnasol yn y prif Orchymyn (erthyglau 4(4) a (5)) fel bod darpariaethau canlyniadol perthnasol y prif Orchymyn, gan gynnwys darpariaethau ynghylch tramgwyddau, yn dod yn weithredol pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno neu b er arall wedi'i arfer.Notes: [1] 1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) ac fe'i diwygiwyd ymhellach gan adran 17(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53).back [3] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 a Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [4] O.S. 1993/1320; a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245, 1999/2641 (Cy.8) a 2001/2500 (Cy.203).back
ISBN 0 11090363 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 12 November 2001 |