Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) (Ffioedd) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) (Ffioedd) 2001, ISBN 0 11090361 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enwi, cychwyn, cymhwyso a dod i ben 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) (Ffioedd) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 30 Hydref 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys tan ganol nos ar 31 Rhagfyr 2001. Ffioedd 2. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, godi ffi resymol mewn perthynas â chostau a dynnir yn rhesymol ganddo neu ganddi neu ar ei ran ef neu ar ei rhan hi ar ddeiliad unrhyw safle (gan gynnwys daliad) lle gwneir gwaith goruchwylio neu arolygu er mwyn penderfynu bod cynhyrchion yn gymwys i'w hanfon o dan Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) 2001[3]. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4] Jane E. Hutt Ysgrifennydd Cynulliad 29 Hydref 2001 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd godi ffi resymol am waith goruchwylio neu arolygu a wneir er mwyn i gynhyrchion gael eu hanfon o dan Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) 2001 (O.S. 2001/3459 (Cy.279)). Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 2001/3459 (Cy.279).back
ISBN 0 11090361 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 12 November 2001 |