Offerynnau Statudol 2001 Rhif 3322 (Cy.275)

      Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090353 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 3322 (Cy.275)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 2001 
  Yn dod i rym 1 Hydref 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
     2. Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu dim ac i gael taliad llawn), ar ddiwedd paragraff (m) ychwanegir y gair "or" a'r paragraff canlynol  - 

Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau
     3. Ym mharagraff 1(a)(ii) o reoliad 7 o'r prif Reoliadau (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad), yn lle "or (m)" rhowch "(m) or (n)".

Diwygio Atodlen 1A o'r prif Reoliadau
    
4. Yn Atodlen 1A o'r prif Reoliadau (cyfnodau dilysrwydd hysbysiadau hawl), ar ôl paragraff 9 ychwanegir y paragraff canlynol - 

"      10. A relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act.

12 months or until the child's 18th birthday whichever is longer".




Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


J.E.Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad

28 Medi 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau penodol ac ad-dalu taliadau penodol a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac ar gyfer talu treuliau teithio penodol a dynnir wrth fynd i'r ysbyty.

Mae Rheoliad 2 yn galluogi plant sy'n ymadael gofal awdurdod lleol ac sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod hwnnw fanteisio drwy beidio â thalu dim taliadau neu gael ad-daliadau llawn, a chael talu eu treuliau teithio.

Mae Rheoliadau 3 a 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.


Notes:

[1] 1977 p.49; mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).

Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990, i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.
back

[2] O.S. 1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1364 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417, 1999/767 a 2840, 2001/1397 (Cy. 92).back

[3] 1989 p.41; Mewnosodwyd adrannau 23A a 23B gan adran 2 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35); gweler hefyd OS2001/2189 (Cy.151).back

[4] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0 11090353 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 19 October 2001