Offerynnau Statudol 2001 Rhif 3064 (Cy. 253 )

      Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001, ISBN 0 11090383 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 3064 (Cy. 253 )

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001

  Wedi'i wneud 4 Medi 2001 
  Yn dod i rym 12 Medi 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 [1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Teitl, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001 a daw i rym ar 12 Medi 2001.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at "yr Atodlen" yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

    (4) Yn y Gorchymyn hwn:

    ystyr "Rheoliad 1251/99 y Cyngor" ("Council Regulation 1251/99") yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol[4];

    ystyr "Rheoliad 1254/99 y Cyngor" ("Council Regulation 1254/99") yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo[5].

Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
     2.  - (1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

    (2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc., fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna  - 

    (3) Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna  - 

    (4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Medi 2001



ATODLEN
Erthyglau 1(2) a 2


RHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu £
1. Da byw
     
Buchod llaeth:          
Bridiau Ynysoedd y Sianel buwch 296
Bridiau eraill buwch 375
Buchod bridio cig eidion:          
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001(a) buwch 51(1)
Ar dir arall buwch 43(1)
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) pen 45(2)
Buchod llaeth i lenwi bylchau pen 30(3)
Mamogiaid:          
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001 mamog 10(4)
Ar dir arall mamog 11(5)
yn stôr (gan gynnwys yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) pen 0.87
Moch:          
Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 70
Moch porc pen 1.37
Moch torri pen 2.59
Moch bacwn pen 3.79
Dofednod:          
Ieir dodwy aderyn 0.90
Brwyliaid aderyn 0.09
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.20
Tyrcwn aderyn 1.27
2. Cnydau âr fferm
     
Haidd hectar 140(6)
Ffa hectar 158(7)
Had glaswellt hectar 125
Had llin hectar 22(8)
Ceirch hectar 163(9)
Rêp had olew hectar 82(10)
Pys:          
Sych hectar 200(11)
Dringo hectar 205
Tatws:          
Cynnar cyntaf hectar 835
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 860
Betys siwgr hectar 250
Gwenith hectar 197(12)
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
     
Ffa cyffredin hectar 410
Ysgewyll Brwsel hectar 1505
Bresych, safwy a brocoli blaguro hectar 1730
Moron hectar 2270
Blodfresych a brocoli'r gaeaf hectar 975
Seleri hectar 8255
Cennin hectar 2945
Letys hectar 4150
Wynwns:          
Bylbiau sych hectar 1305
Salad hectar 4125
Bylbiau awyr agored hectar 1600
Pannas hectar 2591
Riwbob (naturiol) hectar 4845
Maip a swêds hectar 1210
4.Cnydau gwarchodedig
     
Narsisi gorfod 1000 metr sgwâr 6980
Tiwlipau gorfod 1000 metr 7175
5. Ffrwythau'r berllan
     
Afalau:          
Seidr hectar 420
Coginio hectar 1275
Melys hectar 1250
Ceirios hectar 690
Gellyg hectar 965
Eirin hectar 1215
6. Ffrwythau meddal
     
Cyrens Duon hectar 740
Mafon hectar 3000
Mefus hectar 3500
7. Amrywiol
     
Hopys hectar 1670
8. Neilltir(1)
     
     hectar 28



NODIADAU I'R ATODLEN
Erthygl 2(4)

Nodyn i golofn 1


    (1) Ar gyfer y flwyddyn farchnata 2001/2002 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at weithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn uniongyrchol yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid.

Nodiadau i golofn 3


    (1) Didynner £126 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.

    Ychwaneger £20 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â graddfa is y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.

    Ychwaneger £40 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.

    (2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.

    Didynner £91 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.

    Ychwaneger £20 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â graddfa is y premiwm anarddwysáu.

    Ychwaneger £40 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu.

    Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm yngln â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.

    Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm yngln â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £91 ac (lle mae'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm yngln â phremiwm anarddwysáuestyniad) y swm o £20 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa is) neu £40 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa uwch).

    (3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.

    (4) Didynner £12 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5 o Reoliad 2467/98 y Cyngor.

    (5) Didynner £8 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm defaid blynyddol.

    (6) Didynner £219 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor.

    (7) Didynner £253 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (8) Didynner £264 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (9) Didynner £219 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (10) Didynner £258 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (11) Didynner £253 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (12) Didynner £220 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 2001 hyd 11 Medi 2002 yn gynhwysol.

Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) a 50(2) yn arbennig. Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.


Notes:

[1] 1986 p.5.back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672), trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan baragraff 4 o Atodlen 6 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1669/00 (OJ Rhif L193, 29.7.00, t.8).back

[4] OJ Rhif. L160, 26.6.99, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1038/01 (OJ Rhif L145, 31.5.01, t.16).back

[5] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090383 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 17 December 2001