Offerynnau Statudol 2001 Rhif. 2963 (Cy.245)

      Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090341 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif. 2963 (Cy.245)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 23 Awst 2001 
  Yn dod i rym 24 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 83(1) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[3] a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 52(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[4]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 24 Awst 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod yng Nghymru

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "awdurdod" yw - 

    (a) cyngor sir,

    (b) cyngor bwrdeistref sirol, ac

    (c) cyngor cymuned;

    ystyr "y Gorchymyn Prif Gynghorau" yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990[6];

    ystyr "y Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg" yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Ffurflenni Cymraeg) 1991[7].

Diwygio'r Gorchymyn Cymunedau
     3.  - (1) Mae'r Gorchymyn Cymunedau'n cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.

    (2) Ar ôl Erthygl 1, yn lle "Form of declaration of acceptance of office", rhowch "Forms of declaration of acceptance of office".

    (3) Yn lle Erthygl 2, rhowch - 

    (4) Ar ôl Erthygl 2,

    (5) Ar ôl Atodlen 1, rhowch - 



Diwygio'r Gorchymyn Prif Gynghorau
    
4.  - (1) Mae'r Gorchymyn Prif Gynghorau'n cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.

    (2) Ar ôl Erthygl 1, yn lle "Form of declaration of acceptance of office", rhowch "Forms of declaration of acceptance of office".

    (3) Yn lle Erthygl 2, rhowch - 

    (4) Ar ôl Erthygl 2,

    (5) Ar ôl Atodlen 1, rhowch - 



Diwygio'r Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg
    
5.  - (1) Mae'r Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg yn cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.

    (2) Yn lle Erthygl 2, rhowch - 

    (3) Yn lle Erthygl 3, rhowch - 

    (4) Yn Atodlen I - 

    (5) Ar ôl Atodlen I, rhowch - 



    (6) Yn Atodlen II - 

    (7) Ar ôl Atodlen II, rhowch - 





Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


Jane. E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad

23 Awst 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ("Deddf 1972") yn gwahardd person sydd wedi'i ethol i swydd cadeirydd, is-gadeirydd, cynghorydd neu faer etholedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag gweithredu mewn swydd o'r fath oni bai fod y person hwnnw wedi gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd yn y ffurf a ragnodir gan orchymyn a bod y datganiad hwnnw yn cael ei draddodi i'r swyddog priodol yn y cyngor o fewn dau fis o ddyddiad yr etholiad. Os na chaiff datganiad o'r fath ei wneud a'i draddodi i'r swyddog priodol o fewn yr amser a bennwyd, bydd swydd y person hwnnw yn dod yn wag.

O dan adran 83(4) o Ddeddf 1972, bydd swydd person a etholir i swydd cadeirydd cyngor cymuned neu gynghorydd cymuned yn dod yn wag oni bai fod y person hwnnw yn gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd yn y ffurf a ragnodir gan orchymyn ar yr adeg briodol yng ng ydd personau priodol ac yn ei drosglwyddo i'r cyngor.

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2000 ("Deddf 2000") yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae Adran 51 o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned (ymysg eraill) fabwysiadu cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig y cynghorau hynny.

Mae adran 52 o Ddeddf 2000 yn ymwneud â'r ddyletswydd sydd ar aelodau ac aelodau cyfetholedig cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned i gydymffurfio â'r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan eu cynghorau o dan adran 51 o Ddeddf 2000.

Mae Adran 52(2) o Ddeddf 2000 yn darparu y gall ffurf datganiad derbyn swydd y gellir ei rhagnodi gan orchymyn o dan adran 83 o Ddeddf 1972 gynnwys ymrwymiad gan y sawl sy'n gwneud datganiad y byddant, wrth gyflwani eu swyddogaethau, yn parchu cod ymddygiad y cyngor sir, y cyngor bwrdeistref sirol neu'r cyngor cymuned perthnasol am y tro o dan adran 51 o Ddeddf 2000.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio tri gorchymyn sydd mewn grym o dan adran 83 o Ddeddf 1972 fel y bydd y sawl sy'n gwneud datganiad, pan fo cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned wedi mabwysiadu cod ymddygiad o dan adran 51 o Ddeddf 2000, yn ymrwymo y byddant wrth gyflawni eu swyddogaethau yn parchu cod ymddygiad y cyngor sydd am y tro yn bodoli o dan yr adran honno.


Notes:

[1] 1972 p.70.back

[2] 1993 p.38.back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S 1999/672).back

[4] 2000 p.22.back

[5] O.S. 1990/2477.back

[6] O.S. 1990/932.back

[7] O.S. 1991/1169.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090341 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 19 September 2001