Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001, ISBN 0 11 515485 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o ymarfer â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 225, 363, 652A a 652D o Ddeddf Cwmnïau 1985[1], fel y'i hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr laith Gymraeg 1993[2], ynghyd â phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:1. - (1) Gellir dyfynnu'r rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001, a deuant i rym ar 17th Medi 2001. (2) Yn y rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adran neu adran rifog yn cyfeirio at adran o Ddeddf Cwmnïau 1985 fel y'i cymhwysir at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliadau 3 a 4 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001[3]. 2. Mae ffurflenni LLP 225 cym (Newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig), LLP 363 cym (Ffurflen flynyddol Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig, LLP 652a cym (Cair am ddileu enw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig o'r gofrestr) ac LLP 652c cym (Tynnu'n ôl gais am ddileu enw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig o'r gofrestr yn wirfoddol), a welir yn yr Atodlen, gyda'r amrywiadau hynny y bydd amgylchiadau'n peri bod eu hangen, yn ffurflenni ychwanegol sydd wedi eu pennu at ddibenion adrannau 225, 363, 652A a 652D o Ddeddf Cwmnïau 1985 i'w defnyddio gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y dywed ei dogfen gorffori fod ei swyddfa gofrestredig i'w lleoli yng Nghymru. 3. Y manylion neu'r wybodaeth a gynhwysir yn ffurflen LLP 652a cym yw'r manylion neu'r wybodaeth a bennir at ddibenion adran 652A o Ddeddf Cwmnïau 1985. J. S. Holden, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Adran Masnach a Diwydiant 13th Awst 2001 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurflenni newydd LLP225 cym, LLP363 cym, LLP652a cym ac LLP652c cym. Mae'r ffurflenni hyn yn cyfateb i ffurflenni LLP225, LLP363, LLP652a ac LLP652c a bennwyd gan Reoliadau (Ffurflenni) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001 (O.S. 2001/927), ac mae'r ffurflenni newydd wedi cael eu pennu'n ychwanegol at y ffurflenni olaf a enwyd. Mae'r ffurflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg, a deuant i rym ar 17th Medi 2001. Caiff unrhyw un o'r ffurflenni eirhoi gan y Cofrestrydd Cwmnïau i unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd â dogfen gorffori yn nodi bod ei swyddfa gofrestredig i'w lleoli yng Nghymru ac sy'n hysbysu'r Cofrestrydd ei bod am dderbyn ffurflen Gymraeg yn lle ffurflenni LLP225, LLP363, LLP652a ac LLP652c. Notes: [1] 1985 c. 6.back
ISBN 0 11 515485 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 28 August 2001 |