Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001, ISBN 0 11090328 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog priodol gan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001 a daw i rym ar 16 Awst 2001. Ffurf Gymraeg 2. - (1) Rhagnodir drwy hyn mai "Annibynnol" yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair "Independent" a bennir yn adran 22(3)(a)(i) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000[2]. (2) Gall y ffurfeiriad Cymraeg a ragnodir gan baragraff (1) gael ei ddefnyddio yn ychwanegol at y gair Saesneg cyfatebol neu yn ei le mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] Jenny Randerson Ysgrifennydd y Cynulliad dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg 15 Awst 2001 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 16 Awst 2001, yn gymwys i etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae adran 22 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofrestru pleidiau er mwyn iddynt gynnig ymgeiswyr mewn etholiadau perthnasol ("relevant elections") (sydd yn rhinwedd adran 22(5)(d) yn cynnwys etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol). Gwneir hynny drwy ddarparu na chaiff person sefyll yn ymgeisydd mewn etholiad o'r fath oni bai bod yna dystysgrif, i'w awdurdodi fel ymgeisydd, ac wedi'i rhoi gan neu ar ran swyddog enwebu plaid gofrestredig gymwys yn cyd-fynd â'i bapur enwebu, neu os yw ei bapur enwebu naill ai'n rhoi'r disgrifiad "Independent" neu os nad yw'n rhoi dim disgrifiad o gwbl. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi mai "Annibynnol" yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair "Independent" sydd i'w ddefnyddio i ddisgrifio'r ymgeisydd yn y papur enwebu mewn perthynas ag etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Notes: [1] 1993 p.38. I gael ystyr "the appropriate Minister" gweler adran 27(4) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn), i'r graddau yr oedd y swyddogaeth a enwyd i "the appropriate Minister" yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, fe'i gwnaed yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan unrhyw un o Weinidogion y Goron yr oedd y p er hwnnw yn arferadwy ganddo.back
ISBN 0 11090328 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 28 August 2001 |