Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001(Cychwyn) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001(Cychwyn) 2001, ISBN 0 11090327 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 9(1) o Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 [1]: Enwi a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (Cychwyn) 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001. Y Diwrnod Penodedig 2. - (1) Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) i rym yw 26 Awst 2001. (2) Dyma'r darpariaethau -
(b) Adran 2 (prif nod y Comisiynydd); (c) Adran 3 (adolygu arfer swyddogaethau'r Cynulliad a swyddogaethau personau eraill); (ch) Adran 4 (adolygu a monitro trefniadau); (d) Adran 5 (p er ychwanegol i ystyried a gwneud sylwadau);(dd) Adran 5 (swyddogaethau pellach y Comisiynydd); (e) Adran 6 (darpariaethau canlyniadol etc.); (f) Adran 7 (darpariaethau ariannol); ac (ff) Yr Atodlen (personau a threfniadau sy'n destun adolygiad).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 26 Awst 2001 i'r darpariaethau canlynol yn Neddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 ("Deddf 2001") ddod i rym: -
(b) Adran 2, sy'n mewnosod adran 72A yn Neddf 2000 sy'n darparu mai diogelu a hybu hawliau a lles plant y mae Rhan V o Ddeddf 2000 yn gymwys iddynt yw prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau; (c) Adran 3, sy'n mewnosod adran 72B yn Neddf 2000 sy'n galluogi'r Comisiynydd i adolygu effaith arfer swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") a swyddogaethau personau eraill a bennir yn Atodlen 2A i Ddeddf 2000, sydd hefyd yn cael ei mewnosod gan adran 3. Mae adran 72B yn darparu y gall y Cynulliad ddiwygio Atodlen 2A drwy orchymyn o dan amgylchiadau penodol; (ch) Adran 4, sy'n diwygio adran 73 o Ddeddf 2000 sy'n ymdrin ag adolygu a monitro trefniadau penodol ar gyfer c ynion, eiriolaeth a chwythu'r chwiban ac sy'n mewnosod Atodlen 2B yn Neddf 2000. Yn benodol mae'r diwygiadau yn darparu y gall y Cynulliad ddiwygio Atodlen 2B drwy orchymyn o dan amgylchiadau penodol;(d) Adran 5, sy'n mewnosod adran 75A yn Neddf 2000 ynghyd a diwigiadau canlyniadol i adran 74. Mae adran 75A yn galluogi'r Comisiynydd i ystyried unrhyw fater sy'n effeithio ar hawliau neu les plant yng Nghymru ac i wneud sylwadau i'r cynulliad yng Nghylch hynny; (dd) Adran 6, sy'n gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i adran 76 o Ddeddf 2000; (e) Adran 7, sy'n gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i adran 118(8) o Ddeddf 2000; (f) Adran 8, sy'n cynnwys darpariaethau ariannol canlyniadol; ac (g) yr Atodlen, sy'n mewnosod Atodlen 2A a 2B yn Neddf 2000.
Notes: [1] 2001 p.18.back
ISBN 0 11090327 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 24 August 2001 |