Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2732 (Cy.231)

      Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090385 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2732 (Cy.231)

BWYD, CYMRU

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 26 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 13 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), (b), (c), (d) ac (f) a (3), 17(1), 19(1)(a), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraffau 2(1), 3(1), 5a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi a chan adrannau 1, 10(1)(a) ac (c) a (2), 11, 29(2)(b), 35(1), 76(3) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[2], ac Atodlen 2 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[3], ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990 i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf 1990, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 13 Awst 2001.

Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997
    
2.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997[4]) yn cael eu diwygio yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) - 

    (a) mewnosodir yr ymadrodd "(subject to paragraph (4) below)" ar ddechrau paragraff (c) o'r diffiniad o "specified risk material";

    (b) mewnosodir y diffiniadau canlynol rhwng y diffiniad o "listed premises" a'r diffiniad o "official veterinary surgeon" - 

      " "mechanically recovered meat" means meat which - 

      (a) is derived from residual meat on animal bones; and

      (b) has been obtained by mechanical means;"; ac

    (c) rhoddir y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad presennol o "vertebral column" - 

      " "vertebral column" excludes the vertebrae of the tail and the transverse process of the lumbar vertaebrae but includes dorsal root ganglia;".

    (3) Mewnosodir y paragraff canlynol ar ddiwedd rheoliad 2 - 

        " (4) Notwithstanding paragraph (c) of the definition of "specified risk material" in paragraph (1) above, where the carcase of a bovine animal containing vertebral column which is specified bovine material has been imported in accordance with article 6(2A) of the Specified Risk Material Order 1997 [5], the part of the carcase not comprising the vertebral column shall not be regarded as specified risk material for the purposes of these Regulations.".

    (4) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (deunydd defaid a geifr penodedig), mewnosodir yr ymadrodd "(subject to paragraph (4) below)" cyn yr ymadrodd "specified sheep or goat material".

    (5) Mewnosodir y paragraffau canlynol ar ddiwedd rheoliad 3 - 

        " (4) Material derived from a sheep or goat born, continuously reared and slaughtered in any of the countries specified in paragraph (5) below is not specified sheep or goat material as defined by paragraph (1) above.

        (5) The countries are - 

           Argentina

           Australia

           Botswana

           Brazil

           Chile

           Costa Rica

           Namibia

           New Zealand

           Nicaragua

           Paraguay

           Singapore

           Swaziland and

           Uruguay.".

    (6) Mae'r paragraff canlynol yn cael ei roi yn lle paragraff (1) o reoliad 4 (deunydd buchol penodedig) - 

        " (1) In these Regulations, "specified bovine material" means - 

      (a) (subject to paragraph (7) below) the intestines from the duodenum to the rectum of a bovine animal, regardless of where it was slaughtered or died or its age at slaughter or death;

      (b) the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or died in the United Kingdom or Portugal when it was aged over 6 months - 

        (i) the head (excluding the tongue but including the brain, eyes, trigeminal ganglia and tonsils),

        (ii) the thymus,

        (iii) the spleen,

        (iv) the spinal cord, and

        (v) (subject to paragraph (6) below) in the case of a bovine animal described in this sub-paragraph which was slaughtered or died when it was aged over 12 months, the vertebral column; and

      (c) (subject to paragraph (5) below) the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or died elsewhere than in Portugal or the United Kingdom when it was aged over 12 months - 

        (i) the skull (including the brain and eyes),

        (ii) the tonsils,

        (iii) the spinal cord, and

        (iv) (subject to paragraph (7) below) the vertebral column;".

    (7) Mewnosodir y paragraff canlynol yn lle paragraff (4) o reoliad 4 - 

        " (4) In each of sub-paragraphs (b) and (c) of paragraph (1) above the reference to Portugal does not include a reference to the Autonomous Region of the Azores.".

    (8) Mewnosodir y paragraffau canlynol ar ddiwedd rheoliad 4 - 

        " (5) Material derived from a bovine animal born, continuously reared and slaughtered in any of the countries specified in regulation 3(5) above is not specified bovine material as defined by paragraph (1)(a) or (c) above.

        (6) Notwithstanding paragraph (1)(b)(v) above, the vertebral column of - 

      (a) a bovine animal born and continuously reared in Portugal or the United Kingdom and slaughtered there when it was aged over 12 months but no more than 30 months; or

      (b) a beef assurance scheme animal,

    shall not be regarded as specified bovine material for the purpose of these Regulations.

        (7) Notwithstanding paragraph (1)(c)(iv) above, the vertebral column of a bovine animal born, continuously reared and slaughtered in Austria, Finland or Sweden shall not be regarded as specified bovine material for the purposes of these Regulations.

        (8) In paragraph (6)(b) above, "beef assurance scheme animal" means a bovine animal such as is specified in regulation 3(2)(a) or (b) of the Fresh Meat (Beef Controls) (No.2) Regulations 1996 [6].".

    (9) Rhoddir y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 6 (cymeradwyaethau, awdurdodiadau a chofrestriadau) - 

    (10) Rhoddir y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 8 (gwaharddiadau sy'n gymwys i'r asgwrn cefn) - 

    (11) Mae rheoliad 9 (cofrestru safleoedd lle mae cig yn cael ei adfer drwy gyfrwng mecanyddol o anifeiliaid sy'n cnoi cil) yn cael ei ddiddymu.

    (12) Mewnosodir y rheoliad canlynol yn union ar ôl rheoliad 15 (gwahardd tynnu madruddyn cefn anifail sy'n cnoi cil) - 

    (13) Ym mharagraff (1) o reoliad 26 (y pwer i roi cyfarwyddiadau) - 

    (14) Ym mharagraff (2) o reoliad 26 mewnosodir y geiriau "or as the case may be the Agency" cyn y gair "may".

Diwygio Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997
    
3.  - (1) I'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, caiff Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 ei ddiwygio yn unol â paragraffau canlynol y Rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1) o erthygl 2 (dehongli) - 

    (3) Mewnosodir y paragraff canlynol ar ddiwedd erthygl 2 - 

    (4) Ym mharagraff (1) o erthygl 3 (deunydd defaid a geifr penodedig), mewnosodir yr ymadrodd "(subject to paragraph (2) below)" cyn yr ymadrodd "specified sheep or goat material".

    (5) Mewnosodir y paragraffau canlynol ar ddiwedd erthygl 3 - 

    (6) Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff (1) o erthygl 4 (deunydd buchol penodedig) - 

    (7) Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff (2) o erthygl 4 - 

    (8) Ychwanegir y paragraffau canlynol ar ddiwedd erthygl 4 - 

    (9) Yn erthygl 6 - 

    (10) Yn Atodlen 2 (ffurf tystysgrif fewnforio) yn lle'r datganiad rhoddir y datganiad canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Gorffennaf 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) ac i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964, fel y'i diwygiwyd eisoes). Mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 ("y prif Reoliadau") yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.

Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997
    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn adlewyrchu yng Nghymru ddarpariaethau Atodiad XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1). Mae'r Atodiad hwnnw yn gosod mesurau trosiannol mewn perthynas â thynnu deunydd risg penodedig ac fe'i mewnosodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 gan Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1326/2001 (OJ Rhif L177, 30.6.2001, t.60).

    
3. Mae'r diwygiadau sylweddol sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i'r prif Reoliadau fel a ganlyn: - 

    (a) yng ngoleuni'r mesurau trosiannol y cyfeirir atynt uchod

      (i) mae rheoliad 3 o'r prif Reoliadau (sy'n diffinio "specified sheep and goat material") yn cael ei ddiwygio i hepgor o'r diffiniad ddeunydd sy'n deillio o ddefaid a geifr a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd (rheoliad 2(4) a (5));

      (ii) mae rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (sy'n diffinio "specified bovine material") yn cael ei ddiwygio'n sylweddol fel bod, yn benodol, deunydd sy'n deillio o anifeiliaid buchol a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd bellach y tu allan i gwmpas y diffiniad (rheoliad 2(6) i (8));

      (iii) mae rheoliad 8 o'r prif Reoliadau (gwaharddiad sy'n gymwys i asgwrn cefn anifeiliaid sy'n cnoi cil) yn cael ei ddisodli gan ddarpariaeth sy'n gwahardd defnyddio esgyrn buchod, defaid a geifr wrth gynhyrchu cig sy'n cael ei adfer yn fecanyddol (rheoliad 2(10)) ac mae rheoliad 9 (cofrestru safleoedd lle mae cig yn cael ei adfer drwy gyfrwng mecanyddol o anifeiliaid sy'n cnoi cil) yn cael ei ddiddymu (rheoliad 2(11));

      (iv) mae rheoliad newydd, 15A, sy'n ymdrin â dull trin carcasau a fewnforir sy'n cynnwys esgyrn cefn sy'n ddeunydd buchol penodedig, yn cael ei fewnosod yn y prif Reoliadau (rheoliad 2(12)); a

    (b) gyda golwg ar y diwygiad a wnaed i reoliad 26 o'r prif Reoliadau gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Eithriadau) (Cymru a Lloegr) 2000 (OS 2000/656), mae'r rheoliad hwnnw'n cael ei ddiwygio ymhellach i alluogi'r Asiantaeth Safonau Bwyd neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddiadau ynghylch gwaredu deunydd risg penodedig (rheoliad 2(13) a (14)).

     4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau yng ngoleuni rhai o'r diwygiadau sylweddol y cyfeirir atynt uchod a deddfu Deddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) (rheoliad 2(2), (3) a (9)).

Diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997
    
5. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964, fel y'i diwygiwyd eisoes ) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. Mae Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 ("y prif Orchymyn") yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.

    
6. Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i'r prif Orchymyn yn adlewyrchu darpariaethau Atodiad XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1). Gosododd yr Atodiad hwnnw fesurau trosiannol mewn perthynas â thynnu deunydd risg penodedig ac fe'i mewnosodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 gan Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1326/2001 (OJ Rhif L177, 30.6.2001, t.60).

    
7. Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mae diffiniad o "vertebral column" yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd paragraff 1 a pharagraff 5 newydd yn cael ei ychwanegu (rheoliad 3(2) a (3)).

    
8. Mae erthygl 3 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio "specified sheep and goat material") yn cael ei diwygio i hepgor o'r diffiniad ddeunydd sy'n deillio o ddefaid a geifr a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd (rheoliad 3(4) a (5)).

    
9. Mae rheoliad 4 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio "specified bovine material") yn cael ei ddiwygio'n sylweddol fel bod, yn benodol, deunydd sy'n deillio o anifeiliaid buchol a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd bellach y tu allan i gwmpas y diffiniad (rheoliad 3(6) i (8));

    
10. Mae Erthygl 6 o'r prif Orchymyn (sy'n rheoli mewnforio deunydd risg penodedig) yn cael ei diwygio i osod gofynion newydd ynghylch mewnforio carcasau anifeiliaid buchol sy'n cynnwys esgyrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig, ac mae ffurf newydd ar dystysgrif fewnforio yn cael ei rhoi yn lle'r hen un yn Atodlen 2 (rheoliad 3(9) a (10)).

    
11. Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Stryd Wood Caerdydd, CF10 1EN.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] 1981 p.22.back

[3] Mae swyddogaethau a oedd yn cael eu harfer o'r blaen gan "the Ministers" o dan y Ddeddf Diogelwch Bwyd yn arferadwy bellach mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back

[4] OS 1997/2965, fel y'i diwygiwyd gan OS 1997/3062, OS 1998/2405 (a ddiwygiwyd ei hun gan OS 1997/2431), OS 1999/539, OS 2000/656, OS 2000/2659 (Cy.172), OS 2000/3387 (Cy.224) ac OS 2000/1973.back

[5] OS 1997/2964, a ddiwygiwyd gan OS 2000/2811 ac OS 2000/3387 (Cy.224).back

[6] OS 1996/2097, a ddiwygiwyd gan OS 1996/2522, OS 2000/656 ac OS 2000/3388 (Cy.225).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090385 4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 21 December 2001