Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001, ISBN
0 11090338 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2001 Rhif 2709 (Cy.228)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
17 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym
1 Medi 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 21(5) a (6), 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraff 1(5) o Atodlen 12 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghyunlliad Cenedlaethol Cymru[2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso 1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2001.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
ystyr "aelod cymunedol" ("community member") yw aelod o'r corff sefydledig a enwebwyd gan gyrff llywodraethu ysgolion o fewn y grp ac a benodwyd gan lywodraethwyr-aelodau y corff sefydledig o dan reoliad 5(b) neu 8(4);
ystyr "y clerc" ("the clerk") yw clerc y corff sefydledig a benodir yn unol â rheoliad 14;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr "y dyddiad diddymu" ("the dissolution date") yw'r dyddiad y diddymir corff sefydledig, wedi'i bennu mewn gorchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 9(5) neu 24(1);
ystyr "y dyddiad ffurfio" ("the formation date") yw'r dyddiad y ffurfir grp, wedi'i bennu yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6(1);
ystyr "y dyddiad ymadael" ("the leaving date") yw'r dyddiad y mae ysgol yn ymadael â grp, wedi'i bennu yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 22(1);
ystyr "y dyddiad ymuno" ("the joining date") yw'r dyddiad y mae ysgol yn ymuno â grp, wedi'i bennu yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 21(3);
ystyr "grp" ("group") yw'r grp o dair neu ragor o ysgolion y mae corff sefydledig yn cyflawni'r swyddogaethau canlynol drosto, sef -
(a) dal eiddo'r ysgolion hynny at ddibenion yr ysgolion, a
(b) penodi llywodraethwyr sefydledig ar gyfer yr ysgolion hynny;
ystyr "llywodraethwr-aelod" ("governor member") yw aelod o'r corff sefydledig a benodir gan gorff llywodraethu ysgol o dan reoliad 8(1) neu (3) neu reoliad 21(8);
dehonglir "llywodraethwr-aelod cychwynnol" ("initial governor member") yn unol â rheoliad 4(4); ac
ystyr "y Rheoliadau Newid Categori" ("the Change of Category Regulations") yw Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001[3].
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at reoliad â rhif, neu yn ôl fel y digwydd, at Atodlen yn y Rheoliadau hyn ac mae cyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sydd â'r rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno.
(3) Os oes tir yn cael ei drosglwyddo i unrhyw gorff a'i freinio ynddo yn unol â'r Rheoliadau hyn, bydd unrhyw hawliau neu rwymedigaethau -
(a) sy'n cael eu mwynhau neu eu tynnu gan y trosglwyddwr mewn cysylltiad â'r tir; a
(b) sy'n bodoli yn union cyn trosglwyddo'r tir,
hefyd yn cael eu trosglwyddo i'r corff hwnnw ac yn breinio ynddo yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.
(4) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl canlynol yr ystyr a briodolir iddynt gan y darpariaethau a nodir gyferbyn â hwynt yn yr ail golofn.
(5) Mae cyfeiriad at gategori mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn gyfeiriad at un o'r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf 1998.
Cyrff sefydledig a grwpiau 3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond os yw ysgol yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol neu os yw'n ysgol gymunedol y mae'r corff llywodraethu yn cynnig iddi ddod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol -
(a) y gall yr ysgol honno ffurfio rhan o grp; a
(b) y gall corff llywodraethu'r ysgol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu corff sefydledig.
(2) Ni all ysgol sydd â gwaddoliad, heblaw corff sefydledig, ffurfio rhan o grp ac ni chaiff ei chorff llywodraethu gynnig sefydlu corff sefydledig.
Sefydlu cyrff sefydledig 4.
- (1) Ni all corff sefydledig gael ei sefydlu ond o dan adran 21 o Ddeddf 1998 yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Bydd cyrff llywodraethu tair ysgol neu ragor sy'n dymuno sefydlu corff sefydledig penodol ac sy'n cynnig ffurfio grp y bydd y corff sefydledig yn gweithredu drosto yn gwneud cais gyda'i gilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu'r corff sefydledig hwnnw.
(3) Bydd y cais yn cynnwys -
(a) datganiad bod corff llywodraethu pob ysgol wedi cytuno ar y cais;
(b) offeryn llywodraethu drafft ar gyfer y corff sefydledig wedi'i seilio ar y model a nodir yn Atodlen 1; ac
(c) datganiad yn cynnwys -
(i) enwau llywodraethwyr-aelodau cychwynnol y corff sefydledig i'w penodi yn unol â rheoliad 8(1);
(ii) y dyddiad y cynnigir sefydlu'r corff sefydedig; a
(iii) y categori y cynnigir i bob ysgol fod ynddo wrth ddod i'r grp neu ddatganiad fod ysgol benodol yn dod i'r grp yn ei chategori presennol.
(4) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo'r cais -
(a) bydd y corff sefydledig yn cael ei sefydlu fel corff corfforaethol o dan adran 21 o Ddeddf 1998 ar ddyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig; a
(b) ar y dyddiad sefydlu, y llywodraethwyr-aelodau cychwynnol a bennir yn y cais, yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r corff llywodraethu neu'r cyrff llywodraethu o dan sylw, fydd llywodraethwyr-aelodau cychwynnol y corff sefydledig.
5.
Ar ôl sefydlu'r corff sefydledig a chyn y dyddiad ffurfio, rhaid i'r llywodraethwyr-aelodau cychwynnol wneud y canlynol -
(a) mabwysiadu'r offeryn llywodraethu yn y ffurf a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) penodi aelodau cymunedol o blith y rhai a enwebwyd yn unol â rheoliad 8(2); ac
(c) dethol personau i gael eu penodi yn llywodraethwyr sefydledig i'r ysgolion yn y grp,
a dim ond at y dibenion hynny neu mewn cysylltiad â hwy y caiff y corff sefydledig arfer ei bwerau cyn y dyddiad hwnnw .
6.
- (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod aelodaeth y corff sefydledig wedi'i chyfansoddi'n briodol, bod yr offeryn llywodraethu wedi'i fabwysiadu a bod yr ysgolion yn ysgolion o'r categori a bennwyd yn y cais, neu y byddant yn ysgolion felly wrth ddod i'r grp, bydd drwy hysbysiad ysgrifenedig yn darparu -
(a) y bydd y corff sefydledig yn cyflawni'r swyddogaethau a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn ar gyfer yr ysgolion yn y grp o ddyddiad a bennir ganddo; a
(b) y bydd yr ysgolion a bennwyd yn y cais ar y dyddiad hwnnw yn ffurfio'r grp y mae'r corff sefydledig i weithredu drosto.
(2) Os nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni felly o fewn yr hyn sydd, yn ei farn ef, yn amser rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, gall drwy orchymyn ddiddymu'r corff sefydledig ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo yn y gorchymyn.
(3) Pan fydd unrhyw un o'r ysgolion yn dod i'r grp o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan gorff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n dod i'r grp yn cael ei drosglwyddo i'r corff sefydledig ar y dyddiad hwnnw, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo at ddibenion yr ysgolion sy'n ffurfio'r grp y mae'r corff hwnnw yn gweithredu drosto.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion a gyhoeddwyd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori gael eu cymeradwyo, yn dod i'r grp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.
7.
Rhaid i gorff llywodraethu unrhyw ysgol sydd yn y grp, neu a fydd yn y grp nad yw'n dod i'r grp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol, hysbysu'r awdurdod addysg lleol y dylai offeryn llywodraethu'r ysgol enwi'r corff sefydledig fel y corff penodi at ddibenion penodi llywodraethwyr sefydledig.
Aelodaeth cyrff sefydledig 8.
- (1) Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol sy'n cynnig sefydlu'r corff sefydledig benodi aelod o'r corff llywodraethu i fod yn llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig hwnnw.
(2) Rhaid i gyrff llywodraethu yr ysgolion sy'n cynnig sefydlu'r corff sefydledig enwebu personau i fod yn aelodau cymunedol.
(3) Os bydd llywodraethwr-aelod yn peidio â dal swydd yna -
(a) rhaid i'r clerc hysbysu holl gyrff llywodraethu holl ysgolion y grp; a
(b) rhaid i'r corff llywodraethu a benododd y llywodraethwr-aelod hwnnw benodi llywodraethwr-aelod newydd yn ei gyfarfod llawn nesaf.
(4) Os bydd aelod cymunedol yn peidio â dal swydd neu os oes angen penodi aelod cymunedol newydd oherwydd bod ysgol wedi ymuno â'r grp -
(a) rhaid i'r clerc hysbysu cyrff llywodraethu holl ysgolion y grp; a
(b) rhaid i lywodraethwyr-aelodau y corff sefydledig benodi rhywun i lenwi'r swydd neu aelod cymunedol newydd ar sail yr enwebiadau a wnaed gan gyrff llywodraethu'r ysgolion yn y grp.
9.
- (1) Y cworwm ar gyfer penderfyniad gan gorff llywodraethu ysgol o dan reoliad 8 fydd dwy ran o dair (wedi'i dalgrynnu i fyny i rif cyfan) o'r llywodraethwyr mewn swydd sydd â hawl i bleidleisio.
(2) Pedair blynedd fydd cyfnod swydd aelod o'r corff sefydledig ond gellir ail-benodi aelod.
(3) Ni all person bleidleisio dros ei benodi ei hun na'i ailbenodi ei hun yn aelod o gorff sefydledig.
(4) Rhaid llenwi swyddi gwag erbyn cyfarfod nesaf y corff sefydledig neu gan y cyfarfod ar ôl hynny os daw'r swydd yn wag lai na thri mis cyn y cyfarfod nesaf.
(5) Os na lenwir swydd wag aelod yn unol â pharagraff (4) gall y Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r corff sefydledig drwy orchymyn ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo, a bydd darpariaethau rheoliad 24(1)(ch) a (d) a (2) i (5) yn gymwys i'r diddymu hwnnw ac eithrio y bydd y cyfnod o chwe mis y cyfeirir ato yn rheoliad 24(2) yn cychwyn ar unrhyw ddyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig.
Cymhwyso ag anghymhwyso 10.
- (1) Ni all llywodraethwr sefydledig a benodwyd i ysgol yn y grp gan gorff sefydledig fod yn llywodraethwr- aelod o'r corff sefydledig hwnnw ac ni chaiff bleidleisio ar benodiadau i'r corff sefydledig.
(2) Rhaid i aelod cymunedol -
(a) bod â buddiannau busnes neu fuddiannau eraill yn y gymuned leol;
(b) peidio â bod yn rhiant i ddisgybl cofrestredig, yn aelod o'r corff llywodraethu, yn aelod o'r staff addysgu neu o'r staff nad ydynt yn addysgu nac yn ddisgybl cofrestredig, yn unrhyw ysgol yn y grp;
(c) peidio â bod yn aelod etholedig o awdurdod addysg lleol sy'n cynnal unrhyw ysgol yn y grp nac yn berson a gyflogir gan awdurdod o'r fath yn ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol; ac
(ch) bod wedi cyrraedd 18 oed ar ddyddiad ei benodi.
(3) Bydd llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig yn peidio â dal swydd pan fydd yn peidio â bod yn aelod o gorff llywodraethu'r ysgol a'i benododd.
(4) Ni chaiff aelod o'r corff sefydledig fod yn weithiwr cyflogedig i'r corff hwnnw.
Anghymhwyso rhag dal swydd 11.
Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas ag anghymhwyso person rhag dal swydd, neu barhau mewn swydd, fel aelod o gorff sefydledig.
12.
Caiff aelod o gorff sefydledig ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy hysbysu'r clerc yn ysgrifenedig.
Cyfyngiadau 13.
Ni fydd aelod o gorff sefydledig yn cael unrhyw dâl, heblaw mân dreuliau rhesymol ag angenrheidiol, ac ni chaiff gymryd unrhyw fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol o unrhyw gontractau a wnaed gan y corff sefydledig na chael unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir a ddelir gan y corff sefydledig.
Clerc 14.
- (1) Rhaid i'r corff sefydledig benodi person i fod yn glerc iddo.
(2) Ni chaiff aelod o'r corff sefydledig weithredu fel clerc, ond pan fydd y clerc yn methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod, caiff y corff sefydledig benodi aelod i fod yn glerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw (heb effeithio ar ei safle fel aelod).
Cynnal cyfarfodydd 15.
- (1) Rhaid i'r corff sefydledig wneud y canlynol -
(a) ethol aelod yn gadeirydd yn y cyfarfod cyffredin cyntaf ym mhob blwyddyn;
(b) penderfynu ar gworwm y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na hanner (wedi'i dalgrynnu i fyny i'r rhif cyfan agosaf) o gyfanswm aelodau'r corff sefydledig pan fydd yn gyfan; ac
(c) cadw cofnodion o drafodion y cyfarfodydd a threfnu eu bod ar gael i gyrff llywodraethu'r ysgolion sydd yn y grp pan ofynnir amdanynt.
(2) Yn y cyfarfod cyntaf rhaid i'r corff sefydledig benodi llywodraethwyr sefydledig i'r ysgolion yn y grp yn unol ag offerynnau llywodraethu'r ysgolion o dan sylw.
Adroddiad blynyddol 16.
- (1) Rhaid i'r corff sefydledig gyhoeddi adroddiad blynyddol o'i weithgareddau er gwybodaeth i gyrff llywodraethu'r ysgolion yn y grp gan nodi'r canlynol -
(a) enwau pob aelod, gan dynnu sylw at unrhyw newidiadau ers yr adroddiad blynyddol diwethaf a chan enwi'r cadeirydd;
(b) crynodeb o benderfyniadau a gweithredoedd y corff sefydledig ers i'r adroddiad blynyddol diwethaf gael ei gyhoeddi oni bai bod cofnodion cyfarfodydd y corff sefydledig yn cael eu cyhoeddi ar wahân;
(c) datganiad o unrhyw incwm a gwariant yn dangos y balans fel y mae ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol sy'n dod o fewn cyfnod yr adroddiad; ac
(ch) datganiad am unrhyw warediadau, pryniadau neu roddion arwyddocaol ac am unrhyw rwymedigaethau sy'n parhau ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol sy'n dod o fewn cyfnod yr adroddiad.
(2) Rhaid cyhoeddi'r adroddiad cyntaf o fewn dwy flynedd ar ôl y dyddiad ffurfio a gall ymdrin â chyfnod sy'n hwy na blwyddyn.
(3) Yn dilyn yr adroddiad cyntaf, rhaid cyhoeddi adroddiadau blynyddol heb fod yn ddiweddarach na'r cyfarfod nesaf ar ôl diwedd y flwyddyn yr adroddir arni.
Cyfrifon 17.
- (1) Rhaid i'r corff sefydledig gadw cyfrifon, sicrhau bod archwilwyr allanol annibynnol yn eu harchwilio a chyhoeddi ymhob blwyddyn ariannol gopi o'r cyfrifon am y flwyddyn ariannol flaenorol fel y'u harchwiliwyd ynghyd â datganiad eu bod wedi cael eu harchwilio.
(2) Rhaid i'r corff sefydledig gydymffurfio o fewn mis â chais ysgrifenedig gan unrhyw berson i roi copi o gyfrifon diweddaraf y corff iddo.
Gwybodaeth a chofnodion 18.
- (1) Rhaid i'r corff sefydledig roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth y gofynnir amdani o dro i dro.
(2) Rhaid i'r corff sefydledig gadw ei holl gofnodion am o leiaf chwe mlynedd.
Swyddogaethau cyrff sefydledig 19.
Bydd gan gyrff sefydledig y swyddogaethau canlynol -
(a) dal tir ac eiddo arall yr ysgolion yn y grp at ddibenion yr ysgolion hynny;
(b) penodi llywodraethwyr sefydledig i bob ysgol yn y grp; ac
(a) benthyg y symiau hynny y mae'r corff sefydledig yn credu eu bod yn briodol ac mewn cysylltiad a'r benthyg hwnnw, roi unrhyw forgais, arwystl neu warant arall dros unrhyw dir neu eiddo arall sydd gan y corff sefydledig;
(b) derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall, a'i ddefnyddio neu ei ddal ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgolion yn y grp;
(c) cymryd rhan mewn codi arian i'r graddau y mae'n gymharus â'i statws elusennol;
(ch) caffael a gwaredu unrhyw dir neu eiddo;
(d) gwneud unrhyw gontractau gan gynnwys contractau cyflogi;
(dd) gwneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoli'r corff sefydledig ac unrhyw bwyllgorau ac ar gyfer cynnal busnes y corff hwnnw neu fusnes unrhyw bwyllgorau;
(e) penodi pwyllgorau;
(f) dirprwyo arfer unrhyw bwerau i aelodau unigol neu i bwyllgorau, ac eithrio'r rheiny sy'n ymwneud â phenodi llywodraethwyr sefydledig, rhoi unrhyw warant neu waredu unrhyw dir; ac
(ff) cyflogi unrhyw staff (na chânt fod yn aelodau) sy'n angenrheidiol a gwneud pob darpariaeth angenrheidiol ar gyfer y staff hynny.
(2) Dim ond drwy gydsyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol y gellir arfer y per i fenthyg symiau a rhoi gwarant neu waredu unrhyw dir a nodir uchod.
Ymuno â grp ar ôl sefydlu'r corff sefydledig i ddechrau 21.
- (1) Dim ond gyda chytundeb cyrff llywodraethu'r holl ysgolion sydd eisoes yn y grp y caiff ysgol ymuno â grp.
(2) Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei wneud ar y cyd yn ysgrifenedig gan gorff llywodraethu'r ysgol sy'n ceisio ymuno â'r grp a'r corff sefydledig a bydd y cais yn cynnwys -
(a) datganiad fod cyrff llywodraethu'r holl ysgolion yn y grp yn cytuno i'r ysgol ymuno â'r grp; a
(b) datganiad o'r categori y cynigir i'r ysgol ddod i'r grp ynddo neu ddatganiad y bydd yr ysgol yn dod i'r grp yn ei chategori presennol.
(3) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu bod hynny'n briodol, yn datgan yn ysgrifenedig fod yr ysgol yn ffurfio rhan o'r grp o'r dyddiad hwnnw a bennir ganddo a phan fodlonir yr amodau hynny a bennir ganddo.
(4) Pan fydd yr ysgol sy'n ymuno â'r grp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.
(5) Rhaid i'r corff sefydledig geisio cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol i addasu ei offeryn llywodraethu.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3) uchod bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sy'n ymuno â'r grp yn cael ei drosglwyddo i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo, at ddibenion yr ysgolion sy'n cael eu cynnwys yn y grp y mae'r corff hwnnw yn gweithredu drosto.
(7) Nid yw paragraff (6) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion a gyhoeddwyd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori gael eu cymeradwyo, yn ymuno â'r grp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.
(8) Ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3), bydd corff llywodraethu'r ysgol sy'n ymuno â'r grp yn penodi aelod o'u corff llywodraethu i fod yn llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig.
(9) Os nad yw'r ysgol sy'n ymuno â'r grp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol wneud cais i'r awdurdod addysg lleol i'r awdurdod hwnnw amrywio neu adnewyddu offeryn llywodraethu'r ysgol fel y bydd yn enwi'r corff sefydledig fel y corff penodi at ddibenion penodi llywodraethwyr sefydledig a bydd yr awdurdod addysg lleol yn gwneud hynny fel y gall penodiad y llywodraethwyr sefydledig fod yn effeithiol o'r dyddiad y mae'r ysgol yn ymuno â'r grp.
Ymadael â grp 22.
- (1) Os yw corff llywodraethu ysgol yn dymuno i'r ysgol honno ymadael â'r grp rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o dri mis o leiaf i gyrff llywodraethu'r holl ysgolion eraill yn y grp, i'r corff sefydledig ac i'r Cynulliad Cenedlaethol, a phan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben gall y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan yn ysgrifenedig fod yr ysgol yn ymadael â'r grp ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo.
(2) Os yw'r ysgol sy'n ymadael â'r grp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), bydd unrhyw dir sydd, yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sy'n ymadael â'r grp yn cael ei drosglwyddo i gorff llywodraethu'r ysgol honno, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori, yn ymadael â'r grp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.
(5) Os nad yw'r ysgol sy'n ymadael â'r grp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, rhaid i'r corff llywodraethu wneud cais i'r awdurdod addysg lleol i offeryn llywodraethu'r ysgol gael ei amrywio neu ei amnewid er mwyn i gyfeiriadau at y corff sefydledig gael eu dileu o'r dyddiad y bydd yr ysgol yn ymadael â'r grp.
23.
Os yw ysgol yn ymadael â grp neu'n cael ei chau a bod gan y grp dri neu ragor o aelodau o hyd bydd y corff sefydledig yn addasu ei offeryn llywodraethu gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
Dirwyn cyrff sefydledig grp i ben 24.
- (1) Pe bai aelodaeth grp yn disgyn o dan dri oherwydd bod un neu ragor o ysgolion yn ymadael neu'n cael eu cau yna -
(a) rhaid i'r clerc roi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol mai felly y mae;
(b) cymerir yr hysbysiad ymadael a roddir gan yr ysgol neu gyhoeddiad y cynigion i'w chau fel hysbysiad diddymu;
(c) diddymir y corff sefydledig ar unrhyw ddyddiad y gall y Cynulliad Cenedlaethol bennu trwy orchymyn;
(ch) rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol yn y grp (heblaw ysgol sydd i gael ei chau) wneud cais i'r awdurdod addysg lleol i'w hofferyn llywodraethu ei hun gael ei addasu (fel y gall cyfeiriadau at gorff sefydledig gael eu dileu o'r dyddiad diddymu);
(d) rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydledig osod llywodraethwyr partneriaeth yn lle'r llywodraethwyr sefydledig o'r dyddiad diddymu ymlaen onid ydynt erbyn y dyddiad hwnnw naill ai wedi gwneud cais i ymuno â grp arall neu wedi gwneud cais, ynghyd â chyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion eraill, i sefydlu corff sefydledig.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol gyhoeddi cynigion newid categori yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori i ddod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol gymunedol, os nad ydynt (yn ôl fel y digwydd) o fewn chwe mis o ddyddiad yr hysbysiad ymadael a roddir gan yr ysgol neu o fewn chwe mis o gymeradwyo'r cynigion i gau'r ysgol -
(a) wedi ffurfio neu wedi ymuno â grp arall; neu
(b) wedi sefydlu gwaddoliad, heblaw corff sefydledig, sy'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y gall fodloni'r gofynion a bennir o dro i dro o dan baragraff 4(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1998.
(3) Ar unrhyw adeg ar ôl i'r cyfnod perthnasol o chwe mis y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ddod i ben, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol cyhoeddi cynigion i'r ysgol newid i gategori penodedig arall.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn achos ysgol nad ydyw'n cael ei chau, ar y dyddiad diddymu bydd unrhyw dir neu eiddo arall sydd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol honno yn cael ei drosglwyddo i gorff llywodraethu'r ysgol ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori, yn dod, ar neu cyn y dyddiad diddymu, yn ysgol o gategori gwahanol.
Datrys Anghydfodau 25.
Os ceir anghydfod rhwng cyrff llywodraethu ysgolion yn y grp neu rhwng un neu fwy o'r ysgolion yn y grp a'r corff sefydledig yna caiff un o'r partïon i'r anghydfod hwnnw wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y mater.
Defnyddio tir 26.
Ni fydd trosglwyddo tir i gorff sefydledig o dan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar hawliau'r corff llywodraethu mewn perthynas â'r tir hwnnw o dan Atodlen 13 i Ddeddf 1998.
Trosglwyddo tir 27.
Wrth ei chymhwyso at unrhyw drosglwyddiad tir yn rhinwedd rheoliadau 6, 21, 22 neu 24, rhaid darllen cyfeiriadau at y dyddiad trosglwyddo yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988[5] fel cyfeiriadau at y dyddiad ffurfio, y dyddiad ymuno, y dyddiad ymadael neu'r dyddiad diddymu, yn ôl fel y digwydd.
Diddymu 28.
Drwy hyn diddymir Rheoliadau Cyrff Sefydledig 1999[6].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
Anhwylder meddwl
1.
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw'n debygol o gael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983[8].
Methdaliad
2.
Anghymhwysir person rhag dal swydd, neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig -
(a) os dyfarnwyd ef neu hi yn fethdalwr neu os atafaelwyd ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi ei ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddirymu neu wedi'i ddad-wneud;
(b) os yw wedi gwneud unrhyw gyfaddawd neu drefniant gyda'i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth iddynt, a heb gael ei ryddhau mewn perthynas ag ef.
Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau
3.
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw'n destun gorchymyn anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986[9] neu orchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986[10] (methu talu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).
Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau
4.
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig -
(a) os yw'r person hwnnw wedi'i ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen gan orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu gan yr Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddwyn neu gamreoli yng ngweinyddiaeth yr elusen yr oedd yn gyfrifol amdani neu yr oedd yn gyfrannog ynddi, neu yr oedd drwy ei ymddygiad wedi cyfrannu iddo neu wedi'i hwyluso; neu
(b) os yw wedi'i symud, o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 1990[11]) (pwerau'r Llys Sesiwn i ymdrin â rheolaeth elusennau), rhag ymwneud â rheolaeth unrhyw gorff.
Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi
5.
- (1) Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw wedi'i gynnwys yn y rhestr o athrawon ac athrawesau a gweithwyr gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi.
(2) Yn is-baragraff (1), ystyr "y rhestr" ("the list") yw'r rhestr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[12].
Personau a anghymhwysir rhag bod yn berchnogion ysgolion annibynnol
6.
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw wedi'i anghymhwyso yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu 471 o Ddeddf Addysg 1996 rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu'n athrawes neu'n weithiwr cyflogedig arall mewn unrhyw ysgol.
Collfarnau troseddol
7.
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5) isod, anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig os yw unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) isod yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ef neu hi -
(a) o fewn y cyfnod o bum mlynedd yn diweddu gyda'r dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad y person hwnnw fel arall wedi bod yn effeithiol; neu
(b) ers penodiad y person hwnnw,
wedi'i gollfarnu, p'un ai yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall, o unrhyw dramgwydd a'i ddedfrydu i'r carchar (pa un ai yw'r ddedfryd wedi'i gohirio neu beidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb y dewis o ddirwy.
(3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw'r person hwnnw o fewn y cyfnod o 20 mlynedd yn diweddu gyda'r dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad y person hwnnw fel arall wedi bod yn effeithiol, wedi'i gollfarnu fel y nodwyd uchod am unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i'r carchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.
(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd ar unrhyw adeg wedi'i gollfarnu fel y nodwyd uchod o unrhyw dramgwydd a'i ddedfrydu i'r carchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.
(5) At ddibenion is-baragraffau (2) i (4) uchod, anwybyddir unrhyw gollfarn gan neu gerbron llys y tu allan i'r Deyrnas Unedig am dramgwydd na fyddai, pe bai'r ffeithiau sy'n arwain at y tramgwydd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn dramgwydd o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd -
(a) o fewn cyfnod o bum mlynedd yn diweddu gyda'r dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodiad fel arall wedi bod yn effeithiol; neu
(b) ers ei benodiad,
wedi'i gollfarnu o dan adran 547 o Ddeddf Addysg 1996 (niwsans ac aflonyddwch ar safle addysg) am dramgwydd a ddigwyddodd ar safle ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol a gynhelir â grant a'i ddedfrydu i ddirwy.
Methu â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd
8.
- (1) Bydd aelod o gorff sefydledig sydd, heb gydsyniad y corff sefydledig o dan sylw, wedi methu â bod yn bresennol mewn dau gyfarfod dilynol o'r corff hwnnw, o'r diwrnod ar ôl yr ail gyfarfod, yn cael ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel aelod o'r corff sefydledig hwnnw.
(2) Pan fydd aelod o'r corff sefydledig wedi anfon ymddiheuriad i'r clerc cyn y cyfarfod nad yw'r aelod hwnnw yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, bydd cofnodion y cyfarfod yn cofnodi cydsyniad y corff sefydledig neu fel arall i'w absenoldeb a bydd copi o'r cofnodion yn cael ei anfon i'r aelod o dan sylw yn ei breswylfa arferol.
(3) Ni fydd aelod o gorff sefydledig sydd wedi'i anghymhwyso o dan is-baragraff (1) uchod yn gymwys i gael ei enwebu neu ei benodi fel aelod o'r corff sefydledig hwnnw yn ystod y deuddeg mis yn union ar ôl ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1).
Hysbysu'r clerc
9.
Os bydd aelod, yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 1 i 7, yn cael ei anghymhwyso rhag dal neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r clerc.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys yng Nghymru yn unig, yn gwneud darpariaeth ynglyn â sefydlu, aelodaeth a swyddogaethau cyrff sefydledig a'r camau i'w cymryd mewn cysylltiad ag ysgolion sy'n ymuno neu'n ymadael â grp o ysgolion y mae'r corff sefydledig yn gweithredu drosto. Maent hefyd yn darparu ar gyfer dirwyn grp o gyrff sefydledig i ben. Maent yn ailadrodd, gyda rhai newidiadau ac ychwanegiadau, ddarpariaethau a geid yn flaenorol yn Rheoliadau Cyrff Sefydledig 1999, sy'n cael eu diddymu.
Mae corff sefydledig yn gorff corfforaethol wedi'i sefydlu o dan adran 21 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i gyflawni'r swyddogaethau canlynol mewn perthynas â thair neu ragor o ysgolion ("y grp") y mae pob un ohonynt naill ai yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol, sef -
(a) dal eiddo ar ran yr ysgolion hynny at ddibenion yr ysgolion;
(b) penodi llywodraethwyr sefydledig ar gyfer yr ysgolion hynny;
(c) hybu cydweithredu rhwng yr ysgolion yn y grp.
Mae'r Rheoliadau a'r newidiadau o'r Rheoliadau blaenorol yn cael eu hesbonio'n fanylach isod.
Rheoliad 2: mae'n cynnwys diffiniadau.
Rheoliad 3: mae'n darparu mai dim ond ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol y mae'r corff llywodraethu'n bwriadu iddi fod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol sydd yn gallu ffurfio rhan o grp ac yn gallu gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu corff sefydledig. Ni all ysgol y mae ganddi waddoliad eisoes (heblaw corff sefydledig) byth ffurfio rhan o grp ac ni chaiff ei chorff llywodraethu gynnig sefydlu corff sefydledig.
Rheoliadau 4 i 7, Atodlen 1: maent yn ymdrin â sefydlu cyrff sefydledig, gwneud eu hofferyn llywodraethu a throsglwyddo tir.
Rheoliadau 8 a 9: maent yn ymdrin ag aelodaeth cyrff sefydledig, cworwm ar gyfer eu penderfyniadau, cyfnodau swyddi'r aelodau a materion eraill.
Rheoliadau 10, 11 a 12 ac Atodlen 2: maent yn nodi'r rheolau cymhwyster ar gyfer penodiad fel aelod o gorff sefydledig a'r amgylchiadau pan fydd yr aelodau yn anghymwys i ddal swydd (neu i barhau i ddal swydd).
Rheoliad 13: mae'n darparu bod aelod o gorff sefydledig yn cael mân dreuliau rhesymol yn unig a bod rhaid iddo beidio â chael unrhyw fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol o gontractau a wneir gan y corff sefydledig na chael unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir a ddelir gan y corff sefydledig.
Rheoliad 14: mae'n ymdrin â phenodi clerc i'r corff sefydledig.
Rheoliad 15: mae'n ymdrin â chynnal cyfarfodydd cyrff sefydledig.
Rheoliad 16: mae'n darparu i gyrff sefydledig gyhoeddi adroddiadau blynyddol.
Rheoliad 17: mae'n darparu ar gyfer cadw cyfrifon gan gyrff sefydledig.
Rheoliad 18: mae'n darparu yngln â gwybodaeth a chofnodion.
Rheoliad 19: mae'n nodi'r swyddogaethau a roddir i gyrff sefydledig.
Rheoliad 20: mae'n nodi'r pwerau y gall cyrff sefydledig eu harfer mewn cysylltiad â'u swyddogaethau.
Rheoliad 21: mae'n nodi'r weithdrefn ar gyfer ymuno â grp ar ôl sefydlu'r corff sefydledig i ddechrau gan gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo tir.
Rheoliadau 22 a 23: maent yn nodi gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd ysgol yn dymuno ymadael â grp gan gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo tir.
Rheoliad 24: mae'n darparu ar gyfer dirwyn cyrff sefydledig i ben.
Rheoliad 25: mae'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu ar anghydfodau rhwng cyrff llywodraethu ysgolion mewn grp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.
Rheoliad 26: mae'n cynnwys darparieth yngln â defnddio tir.
Rheoliad 27: mae'n addasu Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn ei chymhwysiad at drosglwyddiadau tir o dan y Rheoliadau.
Mae'r Rheoliadau yn ymgorffori mân newidiadau i adlewyrchu'r ffaith y gall ysgol sy'n sefydlu, ymuno neu ymadael â chorff sefydledig fod yn mynd trwy newid categori ysgol o dan Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 sy'n dod i rym ar yr un pryd â'r Rheoliadau hyn. Heblaw am hynny, dyma'r prif newidiadau i'r Rheoliadau blaenorol:
(a) Mae'r Rheoliadau newydd yn nodi'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd ysgol yn dymuno ymadael â grp (rheoliadau 22 a 23).
(b) Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirwyn cyrff sefydledig i ben (rheoliad 24).
(c) Maent yn estyn Atodlen 2 (anghymhwyso rhag dal swydd) i ymdrin ag anhwylder meddwl, personau y gwaherddir neu y cyfyngir ar eu cyflogaeth o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 a phersonau ag anghymhwyswyd rhag bod yn berchnogion ysgolion annibynnol yn rhinwedd Gorchmynion a wnaed o dan adran 470 neu 471 o Ddeddf Addysg 1996. Yn ychwanegol, o dan y Rheoliadau newydd mae aelod o gorff sefydledig sydd (heb gydsyniad y corff hwnnw) yn methu â bod yn bresennol mewn dau gyfarfod olynol o'r corff hwnnw yn cael ei anghymhwyso rhag dal swydd am gyfnod o 12 mis.
Nid yw'r Rheoliadau yn ymdrin â throsglwyddo tir yn achos ysgol sy'n newid ei chategori. Ymdrinnir â hyn yn Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001.