Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2708 (Cy.227)

      Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090337 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAUSTATUDOL


2001 Rhif 2708 (Cy.227)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 17 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Medi 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2001 neu wedyn.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau)1997[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(2), yn lle "£11,718" rhoddir "£11,952".

    (3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir - 

      " (a) £73 where the relevant income does not exceed £11,116; and

      (b) £38 where that income exceeds £11,116 but does not exceed £11,952."

    (4) Yn rheoliad 4 - 

    (a) ym mharagraff (3), yn lle "£10,914" rhoddir "£11,129"; a

    (b) ym mharagraff (4) - 

      (i) yn lle "£10,914" rhoddir "£11,129", a

      (ii) yn lle "£10,735" rhoddir "£10,950".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 ("Rheoliadau 1997") mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2001 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer peidio â chasglu mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer grant gwisg ysgol o ran gwariant ar ddillad a dynnwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2001/2002 a'r blynyddoedd ysgol dilynol.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer grantiau teithio ac yn cynyddu swm y grant a delir.


Notes:

[1] 1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/1969, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505 ac O.S. 2000/1939 (Cy.137).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090337 4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 12 September 2001