Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090306 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001, ac eithrio rheoliad 5(b) a ddaw i rym ar 1 Medi 2001. (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 2. Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau")[2] yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn. Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau 3. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) -
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosodwch -
Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau
(b) ar ddiwedd y Tabl hwnnw mewnosodwch yng ngholofn (1) y rhif Rhufeinig "X" a mewnosodwch yng ngholofn (2) "Clinical audit allowances".
Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
31E (1) In the relevant period a dentist shall -
(b) take reasonable steps to ensure that any assistant of his also undertakes such activities.
(2) In this paragraph -
(ii) from a date after 1st August 2001, the period of three years commencing with that later date,
and each successive period of three years
(b) Ar ôl paragraff 31E (fel y'i mewnosodir gan baragraff (a) uchod) mewnosodwch -
31F (1) A dentist shall establish, and operate in accordance with this paragraph, a practice based quality assurance system which is applicable to all the persons specified in sub-paragraph (2). (2) The specified persons are -
(b) any other dentist either employed by him or engaged as a deputy, and (c) any employee of the dentist other than one falling within sub-paragraph (b) above.
(3) A dentist shall ensure that in respect of his practice based quality assurance system, he has specified a person (who need not be connected with the dentist's practice) to be responsible for operating that system.
(b) a system to ensure that effective measures of infection control are used, (c) a system to ensure that all legal requirements relating to health and safety in the workplace are satisfied, (d) a system to ensure that all legal requirements relating to radiological protection are satisfied, and (e) a system to ensure that any requirements of the General Dental Council in respect of the continuing professional development of dentists are satisfied.
Quality assurance system return
(b) whether any changes to his practice or procedures have occurred as a result of the operation of the practice based quality assurance system and if so, the nature of those changes.
(2) Where a dentist practises in partnership with one or more dentists whose names are included in the dental list, the information referred to in sub-paragraph (1) shall be provided in respect of the partnership as a whole instead of by each dentist individually.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r Rheoliadau'n diwygio rheoliad 19(1) o'r prif Reoliadau fel bod y cofnod ar gyfer pwnc dyfarniad VIII, "Lwfansau datblygiad proffesiynol parhaus" yn cael ei roi yn lle "Lwfansau addysg ôl-raddedig" a bod dyfarniad X newydd yn cael ei ychwanegu, ar y pwnc "Lwfansau archwiliadau clinigol". Mae'r Rheoliadau'n diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau ymhellach, sef Atodlen sy'n nodi'r telerau gwasanaeth sy'n gymwys i ddeintyddion sydd ar restr ddeintyddol Awdurdod Iechyd. Ychwanegir tri theler gwasanaeth newydd i'r perwyl y bydd rhaid i ddeintydd, dros gyfnodau o dair blynedd yn olynol, wneud 15 awr o weithgareddau sy'n cynnwys archwilio clinigol, sefydlu a gweithredu system sicrwydd ansawdd sydd wedi'i seilio ar y practis a rhoi ffurflen flynyddol i'r Awdurdod Iechyd ar gyfer y system honno. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 5(2) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 6(e). Amnewidiwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24. Rhifwyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), ac Atodlen 2, paragraff 4 iddi; gan Ddeddf 1990, adran 24(2) a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 25(a). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back [2] O.S.1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1993/2209, 1995/3092, 1996/704, 1998/1648 a 2000/3118.back [3] Mewnosodwyd paragraff 31D gan O.S.1998/1648, rheoliad 7(4).back
ISBN 0 11090306 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 8 August 2001 |