Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090351 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]: Enwi a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben. Y darpariaethau sy'n dod i rym 2. - (1) Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2002. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 17 Gorfennaf 2001 Adran 36. Adran 113. Adran 140 (1) a (2) a (4), (5) a (6) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod. Atodlen 7. Yn Atodlen 9 -
Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru -
Adran 97. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae hefyd yn dod â'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym, a hynny ar 1 Medi 2002. Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen isod. Mae adran 36 yn rhoi p er i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant ("y Cyngor Cenedlaethol") roi grantiau i awdurdod addysg lleol ar gyfer addysg a ddarperir gan ysgolion ar gyfer y rheiny sydd dros oedran ysgol gorfodol.Mae adran 113 yn dod ag Atodlen 7 i rym, sy'n cynnwys pwerau a dyletswyddau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech annigonol. Yn benodol, mae'n rhoi p er i'r Cyngor Cenedlaethol gyhoeddi cynigion i gau darpariaeth chweched dosbarth a gynhelir yn dilyn dau adroddiad arolygu anffafriol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefn i ymdrin â gwrthwynebiadau y mae'n rhaid ei dilyn cyn y gellir gweithredu unrhyw gynigion o'r fath.Mae adran 140 ((1) - (2) a (4) i(6)) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol mewn amgylchiadau penodol i drefnu ar gyfer asesiad i berson y cedwir datganiad o anghenion arbennig ar ei gyfer. Rhaid i'r asesiad gael ei wneud yn ystod blwyddyn olaf orfodol y person hwnnw yn yr ysgol. Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu trefn yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau. Esbonnir effaith y ddarpariaeth a bennir yn Rhan II o'r Atodlen isod. Mae adran 97 yn gymwys i sefydliad neu gyflogwr, sy'n darparu cyrsiau ar gyfer y rhai 19 oed a throsodd, ac a ariennir gan awdurdod addysg lleol neu'r Cyngor Cenedlaethol. Mae'n gosod sefydliad neu gyflogwr o'r fath o dan ddyletswydd i beidio â gwneud unrhyw daliad mewn perthynas â chymhwyster allanol onid yw'r cymhwyster hwnnw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol. (Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daethpwyd neu deuir â'r darpariaethau canlynol yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 i rym, mewn perthynas â Chymru, gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2000 p.21.back
ISBN 0 11090351 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 17 October 2001 |