Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090300 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Awst 2001 a byddant yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Diwygio'r prif Reoliadau
(b) diffiniad "additive" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[7]; (c) diffiniad "sweetener" yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[8]; (ch) diffiniad "sweetener" yn rheoliad 2(1) (dehnogli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[9]; a (d) Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[10] -
(ii) yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol) Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â'r disgrifiad "ice cream" yng ngholofn 1.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123), a hynny drwy ddiweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb 95/31/EC ynghylch meini prawf purdeb penodol er mwyn ymdrin â diwygiad i'r cyfeiriad a wnaed gan Gyfarwyddeb 2000/51/EC i'r graddau yr amnewidiodd y Gyfarwyddeb honno fanylebau newydd ar gyfer syrop maltitol a thrwy ddiweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1995/3123: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1996/1477, 1997/814 a 1999/982.back [4] Y cyfeiriad ar gyfer Cyfarwyddeb 2000/51/EC yw OJ Rhif L198, 4.8.2000, t.41.back [6] OS 1981/1063: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1983/1211 a 1995/3123.back [7] OS 1984/1566: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.back [8] OS 1992/1978, yr offeryn diwygio perthnasol yw OS 1995/3123.back [9] OS 1995/3187, y ceir diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [10] OS 1996/1499 y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11090300 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 6 August 2001 |