Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001, ISBN 0 11 090289 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2001. Diwygiadau 2. Rhoddir y dyddiad "23rd September 2001" yn lle'r dyddiad "23rd July 2001" yn y darpariaethau canlynol -
(b) rheoliad 7(7) a rheoliad 8(8) o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995[4] ); ac (c) paragraff 3 o Ran I o Atodlen 13 i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995[5].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Penderfyniad y Comisiwn 2001/304/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2001/345/EC yn caniatáu marciau deuol ar gig, briwgig, paratoadau cig a chynhyrchion cig am gyfnod trosiannol. Yn achos cig, mae'r Penderfyniadau hyn wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1508) (Cy.105) sy'n diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/539). Yn achos cynhyrchion cig, maent wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001 sy'n diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082). Yn achos briwgig a pharatoadau cig, mae'r Penderfyniadau wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1740) (Cy.123) sy'n diwygio Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205). Ym mhob achos, mae'r cyfnod trosiannol yn dod i ben ar 23 Gorffennaf 2001. Nid yw'r dyddiad i'w weld ym Mhenderfyniadau'r Comisiwn. Mae'r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod trosiannol tan 23 Medi 2001. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 1994/3082. Ychwanegwyd paragraff 3A(3) o Ran VI o Atodlen 2 gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1508 (Cy.105).back [4] O.S. 1995/3205. Ychwanegwyd rheoliadau 7(7) ac 8(8) gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) 2001, O.S 2001/1740 (Cy.123).back [5] O.S. 1995/539. Ychwanegwyd paragraff 3 o Ran I o Atodlen 13 gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1508 (Cy.105).back
ISBN 0 11 090289 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 30 July 2001 |