Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090332 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 [1]: Enwi a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
Y diwrnodau penodedig
(b) Adran 66 (ymwelwyr ar gyfer cyrsiau penodol mewn gwaith cymdeithasol); (c) Adran 71 (rheolau) i'r graddau y mae'n gymwys i adrannau 63 a 66 o'r Ddeddf.
(4) Dyma'r darpariaethau -
(b) Adran 70(1) (swyddogaethau'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol yn darfod mewn perthynas â Chymru).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi diwrnodau i rai o ddarpariaethau Rhan IV (gweithwyr gofal cymdeithasol) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ddod i rym. Ymwneud â hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru y mae'r darpariaethau y mae'r Gorchymyn hwn yn dod â hwy i rym. 31 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:
(b) Adran 66, sy'n caniatáu i'r Cyngor wneud darpariaeth, drwy reolau, ar gyfer ymweld â mannau lle mae cyrsiau penodol mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu cynnal; (c) Adran 71, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch natur y rheolau y caiff y Cyngor eu gwneud. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol sicrhau cydsyniad y Cynulliad cyn y gall unrhyw reolau gael eu gwneud gan y Cyngor.
1 Hydref 2001 yw'r diwrnod a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:
(b) Adran 70(1), sy'n darparu i rai o ddarpariaethau'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol ('CCETSW') beidio â chael eu harfer mwyach mewn perthynas â Chymru (caiff CCETSW ei ddileu drwy gyfrwng Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 70(2) o'r Ddeddf). Mae'r swyddogaethau y mae i roi'r gorau i'w harfer yn debyg i'r swyddogaethau sy'n cael eu rhoi i'r Cyngor a'r Cynulliad gan y darpariaethau eraill y mae'r Gorchymyn hwn yn dod â hwy i rym. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir ag '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir ag '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); a chafodd y rhai a ddilynir â '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82).
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55). Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r p er yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.back
ISBN 0 11090332 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 31 August 2001 |