Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090347 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddaliadau amaethyddol, y mae'r cyfan neu ran ohonynt wedi eu lleoli yng Nghymru, ac y mae ceisiadau am daliad yn unol a'r System Integredig Gweinyddu a Rheoli yn cael eu gwneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson y cyfeirir penderfyniad ato, ceisydd ar gyfer adolygiad neu berson sy'n apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw olynydd, ysgutor, ymddiredolwr mewn methdaliad, derbynnydd neu ddatodwr i berson neu geisydd o'r fath.
(b) penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chwotau defaid a gwartheg at ddibenion y polisi amaethyddol cyffredin, ond dim ond ynghylch ceisiadau am gymorthdaliadau ar gyfer blwyddyn IACS 2001 neu unrhyw flwyddyn IACS wedi hynny ac nid ynghylch unrhyw flynyddoedd cyn hynny.
Adolygu penderfyniadau - Cam 1
(b) y cynllun cymhorthdal y ceisir yr adolygiad mewn perthynas ag ef a'r flwyddyn IACS y cyfeiriodd y penderfyniad ati; (c) y penderfyniad sydd i'w adolygu a'i ddyddiad; (ch) manylion llawn y seiliau y ceisir yr adolygiad arnynt; a (d) y newid yn y penderfyniad a geisir.
(3) Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn y Swyddfa Ranbarthol y gwnaed y penderfyniad gwreiddiol ynddi.
(b) gwahodd y ceisydd i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r ceisydd yn credu ei bod yn briodol; ac (c) rhoi cyfle i'r ceisydd i gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig.
7.
- (1) Yn dilyn adolygiad o benderfyniad yn unol â rheoliad 6 uchod caiff pennaeth Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol -
(b) diwygio neu newid y penderfyniad mewn unrhyw agwedd y mae yn credu ei bod yn briodol; neu (c) diddymu'r penderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.
(2) Rhaid i bennaeth y Swyddfa Ranbarthol roi ei benderfyniad o dan baragaff (1) uchod yn ysgrifenedig, gan nodi'r ffeithiau y seilir y penderfyniad arnynt a'r rhesymau dros y penderfyniad.
(b) y cynllun cymhorthdal y ceisir yr adolygiad mewn perthynas ag ef a'r flwyddyn IACS y cyfeiriodd y penderfyniad ati; (c) y penderfyniad gan y Swyddfa Ranbarthol sydd i'w adolygu a'i ddyddiad; (ch) manylion llawn y seiliau y ceisir yr adolygiad pellach arnynt; a (d) y newid yn y penderfyniad a geisir .
(3) Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei swyddfeydd ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ wedi'i farcio "ar gyfer yr Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol ".
(b) gwahodd y ceisydd i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r ceisydd yn credu ei bod yn briodol; ac (c) rhoi cyfle i'r ceisydd i gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig.
10.
- (1) Yn dilyn adolygiad o benderfyniad yn unol â rheoliad 9 uchod caiff Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol -
(b) diwygio neu newid y penderfyniad mewn unrhyw agwedd y mae yn credu ei bod yn briodol; neu (c) diddymu'r penderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.
(2) Rhaid i'r Uned Apelau roi ei benderfyniad o dan baragaff (1) uchod yn ysgrifenedig, gan nodi'r ffeithiau y seilir y penderfyniad arnynt a'r rhesymau dros y penderfyniad.
(b) £50 yn achos apêl y mae'r ceisydd yn fodlon iddo gael ei ystyried heb wrandawiad llafar.
12.
- (1) Pan wneir cais o dan reoliad 11, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi y personau hynny y mae yn credu eu bod yn briodol i adolygu'r penderfyniad a rhoi copïau o'r canlynol i'r personau hynny -
(b) y penderfyniad o dan reoliad 10 uchod; ac (c) unrhyw ddogfen neu nodyn o dystiolaeth a ddangoswyd neu a gymerwyd mewn perthynas ag adolygiad blaenorol.
(2) Rhaid i'r personau a benodir o dan y rheoliad hwn adolygu'r penderfyniad ac fe gânt -
(b) gwahodd y ceisydd a'r Cynulliad Cendlaethol i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r personau a benodir yn credu eu bod yn briodol; ac (c) rhoi cyfle i'r ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol roi tystiolaeth neu wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu ar lafar yn ddibynnol ar y ffurf o apêl y gofynnodd y ceisydd amdano ac y talodd y ffi briodol ar ei gyfer.
(3) Yn dilyn eu hadolygiad o'r mater rhaid i'r personau a benodir gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(b) am eu argymhellion ynghylch dyfarnu ar y cais gan ystyried y gyfraith sy'n gymwys i'r ffeithiau.
(4) Ar ôl ystyried y materion a adroddir iddynt o dan baragraff (3) uchod caiff y Cynulliad Cenedlaethol -
(b) diwygio neu newid ei benderfyniad mewn unrhyw fodd y mae yn credu ei fod yn briodol; neu (c) diddymu ei benderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.
(5) Wrth ddod i'w benderfyniad yn unol â pharagraff (4) uchod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i'r casgliadau a'r argymhellion a adroddir iddo gan y personau a benodir o dan y rheoliad hwn ond nid yw yn rhwym i ddilyn y cyfan neu unrhyw ran o'r argymhellion hynny.
(b) y rhesymau dros y penderfyniad; (c) ei resymau am beidio â dilyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol argymhellion y personau penodedig; ac (ch) effaith ei benderfyniadau ar dalu neu beidio â thalu'r cymhorthdal.
(7) Os y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud penderfyniad yn unol a pharagraff (4)(b) neu (c) uchod, rhaid dychwelyd y ffi y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 11(3) uchod i'r ceisydd. Cynllun Premiwn Blynyddol Defaid Atodiad Ardal Lai Ffafriol y Cynllun Premiwn Blynyddol Defaid Cynllun Premiwn Arbennig Cig Eidion Cynllun Premiwn Buchod Sugno Cynllun Taliadau Anarddwys Cynllun Taliadau Arwynebedd Tir Âr Cynllun Tir Mynydd (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â daliadau (p'un a ydynt wedi'u lleoli yn gyfan gwbl yng Nghymru neu'n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig), a weinyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993. Maent yn cyflwyno hawliau cyfreithiol am y tro cyntaf i geisio adolygiad o benderfyniadau penodol gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chymorthdaliadau amaethyddol a chwotas penodol ac i apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny ar ôl eu hadolygu. Maent yn gymwys o'r flwyddyn IACS 2001 ymlaen ac hefyd i daliadau Tir Mynydd a wneir yn 2001. Nodir y mathau o benderfyniadau y gellir eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn yn rheoliad 4. Penderfyniadau yw'r rhain i wrthod, gostwng neu adennill yn gyfan gwbl neu'n rhannol daliadau a wnaed o dan y cynlluniau a nodir yn yr Atodlen a phenderfyniadau mewn perthynas â chwotau da byw at ddibenion y polisi amaethyddiaeth cyffredin. Gweithredir y weithdrefn ar gyfer adolygu drwy gais a wneir heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r ceisydd am y penderfyniad sydd i'w adolygu (rheoliad 5). Cam 1 Cynhelir yr adolygiad yn y lle cyntaf gan bennaeth y Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol lle gwnaed y penderfyniad gwreiddiol. Rhoddir pwerau penodol mewn perthynas ag adolygiadau o'r fath, ac yn dilyn adolygiad rhaid rhoi'r penderfyniad ar ffurf benodedig (rheoliadau 5-7). Cam 2 Caiff ceisydd sydd heb ei fodloni gan ganlyniad yr adolygiad gan bennaeth Swyddfa Ranbarthol wneud cais am adolygiad pellach gan Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r broses yn debyg i'r un ar gyfer Cam 1 ac fe'i nodir yn rheoliadau 8-10. Cam 3 Caiff ceisydd sydd yn parhau yn anfodlon wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael adolygiad ar y penderfyniad gan banel o bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 11(1)). Mae ffi o £100 yn daladwy mewn perthynas â chais o'r fath sydd i'w glywed ar lafar a £50 os yw'r cais i gael ei ystyried yn ysgrifenedig yn unig (rheoliad 11(3)). Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi personau i gynnal y cam hwn o'r adolygiad (rheoliad 12(1)). Mae'n rhaid i bersonau a benodir o dan reoliad 12 adolygu penderfyniad yr Uned Cymorthdaliadau Amaethyddol Canolog ac mae ganddynt bwer i ystyried gwybodaeth ychwanegol neu i wahodd sylwadau oddi wrth y ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 12(2)). Yn dilyn eu hadolygiad o'r penderfyniad rhaid i'r personau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau ffeithiol a'u hargymhellion i'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 12(3)). Mae angen i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud penderfyniad gan roi sylw i'r casgliadau a'r argymhellion a gyflwynir iddo gan y personau a benodir (rheoliad 12(4) a (5)). Mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei benderfyniad yn ysgrifenedig a rhoi manylion llawn y ffeithiau a'r rhesymau dros ei benderfyniad (rheoliad 12(6)). Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod ceisydd wedi bod yn llwyddiannus yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn yr adolygiad rhaid iddo ad-dalu'r ffi a dalwyd (rheoliad 12(7)). Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau i bersonau a benodir ganddo o dan reoliad 12(1) (rheoliad 12(8)). Rhaid i benderfyniadau gael eu hysbysu yn unol â rheoliad 13. Notes: [1] 1972 p.68. Dynodwyd y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 2(2) gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back [2] O.J. L391, 31.12.1992, t.36.back [3] O.J. L27, 4.2.1995, t.3.back [4] O.J. L156, 7.7.1995, t.27.back [5] O.J. L197, 22.8.1995, t.2.back [6] O.J. L94, 9.4.1999, t.1.back [7] O.J. L212, 30.7.1998, t.23.back [8] O.J. L340, 31.12.1999, t.29.back [9] O.J. L314, 14.12.2000, t.8.back [10] O.J. L355, 5.12.1992, t.1.back [11] O.J. L338, 28.12.1994, t.16,back [12] O.J. L329, 30.12.1995, t.18.back [13] O.J. L206, 16.8.1996, t.4.back [14] O.J. L335, 24.12.1996, t.1.back [15] O.J. L94, 9.4.1997, t.1.back [16] O.J. L182, 21.7.2000, t.4.back [17] O.J. L72, 14.03.2001, t.6.back [18] O.S. 1993/1317 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1134, O.S. 1997/1148, O.S. 1999/1820 ac O.S. 2000/2573.back
ISBN 0 11090347 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 12 October 2001 |