Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090313 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 118(4), (6), (7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1]: Enwi a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
Y diwrnodau penodedig
(b) os caiff y cais ei wrthod -
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 39 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('Deddf 2000') i rym mewn perthynas â Chymru. Mae adran 39 o Ddeddf 2000 yn diwygio adran 21 o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984 ('Deddf 1984') er mwyn estyn ystyr "nursing home" ('cartref nyrsio'). Effaith y diwygiad yw ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n rhedeg safle a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio gan ymarferydd deintyddol er mwyn trin cleifion o dan anaesthesia gyffredinol gofrestru'r safle hwnnw yn gartref nyrsio o dan Ran II o Ddeddf 1984, oni bai bod yr esemptiad yn gymwys. Mae'r esemptiad yn gymwys os yw'r safle yn cael ei ddefnyddio gan ymarferydd deintyddol er mwyn trin cleifion o dan anaesthesia gyffredinol ar ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae adran 39 yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2001, i alluogi ceisiadau am gofrestru i gael eu gwneud mewn perthynas â safleoedd sy'n dod yn gofrestradwy o'r newydd yn unig. Ar 31 Awst 2001 y daw gweddill adran 39 i rym. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol. Gall safleoedd sy'n gofrestradwy o'r newydd barhau i weithredu heb gofrestru ar ôl 31 Awst 2001, tra bydd y broses gofrestru yn mynd yn ei blaen, cyhyd â'u bod wedi gwneud cais am gofrestru cyn y dyddiad hwnnw. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir ag '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70) ; a chafodd y rhai a ddilynir ag '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80).
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68). Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r p er yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.back[3] Mae swyddogaethau cofrestru'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o Ddeddf 1984 wedi'u dirprwyo i awdurdodau iechyd yng Nghymru. Rhoddwyd y swyddogaethau hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Ddeddf 1984 ond cawsant eu gwneud yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Dirprwyodd Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddol) 1996 (O.S.1996/708)) swyddogaethau cofrestru'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran II o Ddeddf 1984 i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru. Mae O.S. 1996/708 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel pe bai'r swyddogaethau hynny o dan Ddeddf 1984 a wnaed yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol gan OS 1999/672 ac a oedd wedi'u dirprwyo o'r blaen i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru gan O.S. 1996/70 wedi cael eu dirprwyo i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol: gweler adrannau 23(3) a 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).back
ISBN 0 11090313 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 9 August 2001 |