Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001, ISBN 0 11090320 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001. (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Yn y Rheoliadau hyn mae'r cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. (4) Yn y Rheoliadau hyn -
yl banc nac yn rhan o wyliau hwy nag wythnos sy'n cael eu cymryd gan y sefydliad o dan sylw (pan fydd yr addysg a'r hyfforddiant sy'n cael eu harolygu yn cael eu darparu mewn sefydliad addysgol); ac
Ysbeidiau arolygu
(b) y Cynulliad Cenedlaethol; (c) Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant; (ch) unrhyw awdurdod addysg lleol neu gorff neu berson arall sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer unrhyw addysg neu hyfforddiant a arolygwyd (oni bai mai'r awdurdod, y person neu'r corff hwnnw sydd wedi paratoi'r cynllun gweithredu).
(4) Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu hefyd at unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n gofyn am gopi (yn ddi-dâl). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan IV o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn estyn cylch gwaith Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i gynnwys y mathau o addysg a hyfforddiant y cyfeirir atynt yn adran 75 o'r Ddeddf honno. Mae'r fframwaith ar gyfer arolygiadau o'r fath wedi'i nodi yn y Ddeddf, ond mae'r Ddeddf yn darparu i lawer o'r manylion gael eu nodi mewn Rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol. O dan y Ddeddf rhaid i arolygiadau gael eu cynnal mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant penodol y mae'r Ddeddf yn dod â hwy o fewn cylch gwaith Prif Arolygydd Cymru, ond gall y Prif Arolygydd gynnal arolygiadau ardal hefyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â'r ddau fath o arolygu. Mae Rheoliad 1 yn cynnwys diffiniadau. Mae Rheoliad 2 yn darparu bod arolygiadau addysg neu hyfforddiant penodol i'w cynnal bob pum mlynedd. Mae Rheoliad 3 yn nodi o fewn pa gyfnod y mae rhaid i adroddiadau arolygu gael eu gwneud (ar gyfer arolygiadau ac arolygiadau ardal). Mae Rheoliad 4 yn nodi o fewn pa gyfnod y mae rhaid cyhoeddi cynlluniau gweithredu ac yn darparu ar gyfer dull cyhoeddi cynlluniau o'r fath. Mae'n pennu hefyd y personau neu'r cyrff y mae'n rhaid anfon copi o gynllun gweithredu atynt. Mae'n gymwys i arolygiadau ac arolygiadau ardal. Notes: [1] 2000 p.21. I gael ystyr "prescribed" yn adran 77 gweler is-adran (9) o'r adran honno.back [2] Gweler adran 4 o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 (p.57). Amnewidiwyd y teitl presennol, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant, gan adran 73(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.back
ISBN 0 11090320 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 14 August 2001 |