Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090317 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 3(1) a (2) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2001. Bydd yn gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2001. Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 2. - (1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[3] wrth ei gymhwyso i Gymru yn unol â pharagraffau canlynol yr erthygl hon. (2) Disodlir erthygl 8(2) gan y canlynol -
(ii) is accompanied by a plant passport valid for that zone;
(b) any plant, plant product or other object originating within that zone which is specified opposite the reference to that zone and is of a description specified in any item of Part AII of Schedule 5 other than item 1.6, 1.7 or 1.8, unless that plant, plant product or other object has been the subject of a satisfactory plant health inspection at the place of production and is accompanied by a plant passport valid for that zone."
(3) Disodlir erthygl 17(2), gan y canlynol -
(b) in the case of any plant, plant product or other object of a description specified in article 8(2)(a) which is intended to be moved within a protected zone, the satisfactory outcome of a survey carried out under article 8(1), showing that the plant, plant product or other object can reasonably be taken to be free from the plant pest in respect of which the zone was recognised."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("Gorchymyn 1993") o'i gymhwyso at Gymru. Mae'n addasu'r gofynion sy'n gymwys i blanhigion penodol sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod ac yn symud oddi fewn iddo, o fewn yr ystod a ganiateir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/51/EEC (O.J. L205, 17.8.93, t.24). Mae'r Gyfarwyddeb hon yn sefydlu rheolau dros symudiadau planhigion penodol, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill drwy barth gwarchod, a thros symudiadau'r cyfryw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod o'r fath ac yn symud oddi fewn iddo. Dyma'r prif newidiadau a gyflwynir gan y Gorchymyn hwn, a ddaw i rym ar 1 Awst 2001 -
(b) terfynir yr esemptiad rhag gofynion arbennig perthnasol sy'n gymwys i blanhigion penodol a bennir yn Rhan B o Atodlen 4 (erthygl 2(2)); (c) gellir rhoi awdurdod i gyhoeddi pasbortau planhigion i fusnesau, unigolion neu gyrff eraill ar sail arolwg boddhaol (erthygl 2(3)).
Mae'r angen am basport planhigion a osodir gan y Gorchymyn hwn yn gyson â chyfundrefn basport y Gymuned a weithredwyd yn y prif Orchymyn yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 77/93/EEC (ar ôl ei ddiwygio a'i atodi gan yr offerynnau a restrir yn Atodlen 16 i'r prif Orchymyn) (O.J. L26, 31.1.77, t.20). Notes: [1] 1967 p.8; diwygiwyd adran 3(1) a (2) gan Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4.back [2] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgoedfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1993/1320, diwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2641 (Cy.8).back
ISBN 0 11090317 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 9 August 2001 |