Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2356 (Cy.194)

      Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090316 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2356 (Cy.194)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 26 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, gan weithredu i arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio)(Cymru) 2001, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001

Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998
    
2.  - (1) Caiff Rheoliadau Tatws sy'n deillio o'r Aifft 1998[3] eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.

    (2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o "the Decision" rhoddir - 

      " "the Decision" means Commission Decision 96/301/EC authorising Member States temporarily to take additional measures against the dissemination of Pseudomanas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt[4]) as amended by the instruments listed in the Schedule to these Regulations;".

    (2) Ar ôl rheoliad 6, mewnosodir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mehefin 2001



YR ATODLEN
Rheoliad 2(3)


Atodlen Newydd i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998







NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2000/568/EC sy'n diwygio Penderfyniad 96/301/EC sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn perthynas â'r Aifft (OJ Rhif L238, 22.9.2000, t.59).

Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r diffiniad o "the Decision" yn Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (rheoliad 2(2)). Mae Penderfyniad y Comisiwn 2000/568/EC yn adnewyddu'r fframwaith y gellir mewnforio tatws o'r Aifft i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd o'i fewn.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972. p.68.back

[3] O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167 ac O.S. 2000/350 (Cy.8).back

[4] OJ Rhif L115, 9.5.96, t.47.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090316 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 9 August 2001