Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2354 (Cy.192) (C.80)

      Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090335 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2354 (Cy.192) (C.80)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 29 Mehefin 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1]:

Enwi a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000.

Y diwrnod penodedig
    
2. 1 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod penodedig i adran 98 o'r Ddeddf (cyllido unigolion sy'n darparu gofal drwy daliadau uniongyrchol) ddod i rym mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mehefin 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Gorffennaf 2001 yn ddiwrnod pan yw adran 98 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") i ddod i rym mewn perthynas â Chymru.

Mae adran 98 o'r Ddeddf yn diwygio Deddf Amddiffyn Plant 1999 ("Deddf 1999"). Dyma yw effaith y diwygiadau:

Cafodd darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag "(a)" eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â "(b)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); a chafodd y rhai a ddilynir ag "(c)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152 ) (C.70 ) .

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn
Adrannau 1 - 5 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 7(7) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 8 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 9(3) - (5) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 11 - 12 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 14 - 15 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 16 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 22 - 23 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 25 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 33 - 35 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 36 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 38(c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 40 (yn rhannol) (b) 1 Chwefror 2001
Adran 40 (y gweddill) (b) 28 Chwefror 2001
Adran 41 (b) 28 Chwefror 2001
Adrannau 42 - 43 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 48 - 52 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 54(1), (3) - (7) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 55 & Atodlen 1 (a) 1 Ebrill 2001
Adran 72 & Atodlen 2 (a) 13 Tachwedd 2000
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 79(3),(4) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 107 - 108 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 112 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 113 (2) - (4) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 114 (yn rhannol) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 114 (y gweddill) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 115 (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) 28 Chwefror 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) 1 Gorffennaf 2001

Cafodd darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn
Adran 80(8) 2 Hydref 2000
Adran 94 2 Hydref 2000
Adran 96 (yn rhannol) 15 Medi 2000
Adran 96 (y gweddill) 2 Hydref 2000
Adran 99 15 Medi 2000
Adran 100 2 Hydref 2000
Adran 101 2 Hydref 2000
Adran 103 2 Hydref 2000
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) 2 Hydref 2000
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) 2 Hydref 2000

Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68).


Notes:

[1] 2000 c.14. Mae'r per yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.back

[2] 1998 p.38.back

[3] Mae adran 17A o Ddeddf 1989 yn caniatáu i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol mewn amgylchiadau penodol wneud taliadau uniongyrchol i berson sydd â gofal rhiant dros blentyn anabl neu i blentyn anabl 16 neu 17 oed mewn perthynas â sicrhau darpariaeth gwasanaethau ar gyfer y plentyn anabl o dan adran 17 o Ddeddf 1989 er mwyn diogelu a hybu eu lles. Mewnosodir adran 17A gan adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 a fydd yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2001 ymlaen mewn perthynas â Chymru.back

[4] O dan adran 1 o Ddeddf 1999 mae'r Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr o bersonau y credir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant.back



English version



ISBN 0 11090335 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 12 September 2001