Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2351 (Cy. 191) (C. 79)

      Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090255 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 2351 (Cy. 191) (C. 79)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD,CYMRU

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 12 Mehefin 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 125(3) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn:

    ystyr "Deddf 1995 " ("the 1995 Act") yw Deddf yr Amgylchedd 1995;

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at adran neu Atodlen a rifwyd yn gyfeiriad at yr adran neu Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf 1995 onibai bod datganiad pendant i'r gwrthwyneb.

    (4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

     2.  - Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd darpariaethau canlynol Deddf 1995 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001: - 

Darpariaeth arbed
    
3. Os oes, cyn 1 Gorffennaf 2001, - 

cyn 1 Gorffennaf 2001, bydd yr hysbysiad, y g yn neu'r gorchymyn ac unrhyw achos sy'n dilyn yn eu sgil yn parhau'n effeithiol er gwaethaf y diwygiadau a wnaed i adran 79 o Ddeddf 1990 gan baragraff 89 o Atodlen 22 i Ddeddf 1995.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mehefin 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dod ag amryfal ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd 1995 ("Deddf 1995") i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Gorffennaf 2001.

Mae Erthygl 2(a) yn dod ag adran 57 o Ddeddf 1995 i rym, sef adran sy'n mewnosod Rhan IIA yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990").

Mae Erthygl 2(b) yn dod ag adran 120(1) o Ddeddf 1995 i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau canlynol yn Atodlen 22 - 

    (a) paragraff 79, sy'n darparu i effaith adran 61 o Ddeddf 1990 (dyletswydd awdurdodau rheoleiddio gwastraff mewn perthynas â safleoedd tirlenwi a gaewyd) ddarfod;

    (b) paragraff 89, sy'n diwygio adran 79 o Ddeddf 1990 (niwsansau statudol ac archwiliadau ar eu cyfer);

    (c) paragraff 91, sy'n darparu i effaith adran 143 o Ddeddf 1990 (cofrestrau cyhoeddus tir a all fod wedi'i halogi) ddarfod; ac (ch) paragraff 92, sy'n diwygio adran 161(4) o Ddeddf 1990 (rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau).

Mae Erthygl 2(c) yn dod ag adran 120(3) o Ddeddf 1995 i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 61 a 143 o Ddeddf 1990 yn Atodlen 24.

Mae Erthygl 3 yn gwneud darpariaeth eithrio mewn cysylltiad â chychwyn paragraff 89 o Atodlen 22 i Ddeddf 1995.


Notes:

[1] 1995 p.25back

[2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1990 p.43back

[4] 1998 p. 38back



English version



ISBN 0 11090255 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 6 July 2001